CSconnected wedi’i enwebu am wobr nodedig Bhattacharyya

Categorïau:

Roedd CSconnected yn un o’r pump a gyrhaeddodd y rhestr fer yn Seremoni Wobrwyo Bhattacharyya ar 26 Medi yn yr Academi Beirianneg Frenhinol yn Llundain.

Mae gwobr nodedig Bhattacharyya yn dathlu partneriaethau academaidd-diwydiant mwyaf dylanwadol y DU sy’n creu piblinellau talent, yn datblygu ymchwil a thechnoleg, ac yn cynhyrchu buddsoddiad ariannol bob blwyddyn. Mae’r wobr yn agored i brifysgolion a cholegau’r DU sy’n dangos cydweithio rhagorol gyda diwydiant, ac mae’n dyfarnu gwobr ariannol o £25,000 i’r tîm buddugol.

Yn cynrychioli clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf y byd, mae CSconnected yn cynnwys Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, a phartneriaid diwydiant, gan gynnwys IQE plc, KLA Corp, Microchip Technology, Vishay Intertechnology, a Microlink. Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi bod yn hollbwysig yn natblygiad y clwstwr ers 2017, gan fuddsoddi’n helaeth yn CSconnected a’r Ffowndri Lled-ddargludyddion Cyfansawdd flaengar er mwyn ysgogi cynhyrchiad arloesol lled-ddargludyddion cyfansawdd.

Cafodd CSconnected eu cydnabod am eu cyfraniadau sylweddol i ymchwil ac arloesi, gan sefydlu De Cymru ymhellach fel arweinydd byd-eang ar gyfer technoleg lled-ddargludyddion cyfansawdd.

Llongyfarchiadau i’r tîm buddugol, Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Prifysgol Sheffield (AMRC) a The Boeing Company, ac i bawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol am y gamp wych hon.

Rhannu:




Newyddion Cysylltiedig

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (PRC) wedi lansio ei Strategaeth Lles Plant gyntaf heddiw, gan nodi ymrwymiad hirdymor i wella canlyniadau i blant, pobl ifanc a theuluoedd ledled de-ddwyrain Cymru drwy fynd i'r afael â'r ffactorau economaidd a chymdeithasol sy'n llunio eu bywydau.

Subscribe for updates

Skip to content