Cwmni Technoleg Ariannol yng Nghymru yn Grymuso Pobl Ddifreintiedig Ledled y Byd

Categorïau:
Proffilio Corfforaethol

Wrth i’n cyfres ar glwstwr technoleg ariannol P-RC ddod i ben, rydym yn cynnwys stori busnes newydd sbon sydd ar fin ei lansio ym mis Medi eleni – wedi’i bweru gan weledigaeth arloesol i ddemocrateiddio a chreu mwy o gyfoeth hygyrch drwy dechnoleg ariannol newydd. Mae Stock Up yn syniad gan Mayo Twala a anwyd yn Ne Affrica, ac a neilltuodd amser i ffwrdd o’i rôl fel Prif Swyddog Gweithredol i esbonio’r cysyniad y tu ôl i’w phlatfform – a’i thaith i Gaerdydd….

“Pennod newydd wrth rannu’r cyfoeth”

“Rwy’n weithiwr proffesiynol hyfforddedig yn y cyfryngau gydag MA mewn Cyfryngau Digidol o Brifysgol Caerdydd ac nid oeddwn yn sylweddoli ar y dechrau y gallwn ddod â’r set sgiliau hon i’r byd cyllid. Ar ôl graddio symudais i Lundain, lle y bues i’n gweithio i gwmni cysylltiadau cyhoeddus ariannol hir sefydledig.  Roeddwn yn credu mai fy swydd ddelfrydol oedd hin, nes i mi sylweddoli bod rhaid i mi flaenoriaethu naill ai’r swydd neu fy iechyd meddwl. Felly, paciais fy holl eiddo ac ar gost fawr, heb swydd, symudais i yn ôl i Gaerdydd lle y gwelais fod yr amgylchedd llawer mwy cefnogol. Dyna pryd y penderfynais ddilyn fy ngweledigaeth ar gyfer Stock Up – ac erbyn hyn mae’r freuddwyd honno’n troi yn realiti, gyda’r lansiad wedi’i drefnu ar gyfer dechrau’r hydref.”

“Mae Stock Up yn ymwneud â thosturi – helpu enillwyr incwm isel i gyflawni eu nodau ariannol”

“Yn y bôn mae Stock Up yn ymwneud â thosturi. Daeth o ddeall y trafferthion a gafodd fy rhieni a’m neiniau a’n teidiau y tyfu i fyny yn Ne Affrica, lle nad oedd ganddynt fawr ddim – a hyd yn oed llai o siawns o ddod o hyd i gymorth o unman. Mae’n blatfform am ddim sy’n gweithio all-lein, drwy SMS, i helpu enillwyr incwm isel i ddod yn fuddsoddwyr ar unwaith ac i ffynnu’n ariannol. Mae tri cham syml: yn gyntaf mae defnyddwyr yn cofrestru gyda rhif adnabod, yn rhoi eu hoedran, ac yn olaf eu nodau cynilo – buddsoddiad risg uchel neu risg isel.  Pan fydd yr holl gamau hyn wedi’u cwblhau, mae ein platfform y mae Deallusrwydd Artiffisial yn chwarae rhan fawr ynddo yn gwneud y gweddill. Gydag isafswm taliad o R20, sef £1 i bob pwrpas, caiff hyn ei fuddsoddi mewn proses dysgu peirianyddol sy’n paru’r defnyddiwr â’r buddsoddiad priodol a yrrir gan ESG.  Mae’n cael ei adeiladu ym Mhrifysgol De Cymru a’r syniad yw defnyddio De Affrica fel astudiaeth achos. Ar ôl hynny, mae’r posibiliadau i ehangu’n ddiddiwedd.

“Mae’r system ariannol wedi siomi llawer o bobl”

Mae’r gwaith rydym i gyd yn ei wneud o fewn technoleg ariannol yn arwyddocaol iawn. Yn anffodus, yn hanesyddol nid yw’r byd cyllid wedi rhoi’r grym i’r rhai sy’n edrych yn debyg i fi – ond nid yw hynny’n golygu nad oes cyfle i rannu’r cyfoeth. Dim ond dechrau pennod newydd yw hon yn hygyrchedd cyfalaf; a dyna un o’r rhesyma pam rwyf wrth fy modd yn gweithio mewn technoleg ariannol, oherwydd y gallaf ddefnyddio fy sgiliau o’r cyfryngau digidol a newyddiaduriaeth ariannol, nid yn unig i rannu’r cyfoeth ond i roi llais i bawb sy’n debyg i fi ac mae angen rhywun i siarad drostynt. Mae’r system wedi siomi’r rhaid nad oes ganddynt unrhyw hygrededd ariannol. Nid yw hyn oherwydd nad yw’r cwsmeriaid yn gredadwy, ond oherwydd bod sefydliadau ariannol wedi dilyn y status quo byddai unrhyw un sy’n edrych yn debyg i fi yn ei chael yn anos o lawer i fynd i mewn i’r diwydiant. Fodd bynnag, rwy’n gymharol freintiedig, dychmygwch unigolyn sydd â llai o lawer na finnau? Mae’n rhaid bod angen i ni fod yn well fel bodau dynol?

“Cefnogaeth anhygoel gan gymuned technoleg ariannol y rhanbarth”

“Rwyf wedi cael cefnogaeth anhygoel gan y gymuned technoleg ariannol yma yn ne Cymru – o’r eiliad y cyflwynais i Stock-Up yn rhithwir, i randdeiliaid Tramshed Tech, i pan anfonais neges at Gavin Powell yn Fintech Wales, a ymatebodd ar unwaith. Mae’r gweddill, fel y dywedant, yn hanes – gyda Phrifysgol De Cymru yn dod yn bartner perffaith ar gyfer datblygu’r platfform. Ac rwy’n credu, gyda’n gilydd, y gallwn newid y byd. Mae’r byd cyllid wedi’i reoli’n bennaf gan ddynion gwyn breintiedig, ond fel mae hanes wedi dysgu i ni, mae’n dal i fyny yn y pen draw. Nawr yw’r adeg honno. Mae menywod fel Sarah Williams-Gardner, Prif Swyddog Gweithredol Fintech Cymru yn hynod ddisglair. Felly rwy’n credu bod y byd yn rhywle lle y gallwn gyflawni a symud ymlaen.

“Gallai Cymru fod yn un o ganolfannau technoleg ariannol mwyaf effeithiol y byd”

“O’r hyn rwyf wedi’i weld hyd yn hyn, rwy’n teimlo bod Cymru’n mynd i fod yn un o  ganolfannau technoleg ariannol mwyaf effeithiol y byd. Mae’r syniad o weithio mewn amgylcheddau gwaith amhleserus yn lleihau ac mae Cymru’n croesawu pobl, gan eu helpu i ffynnu. Mae Cymru hefyd yn deall cydweithio, sut i gefnogi – a gwerth mynediad ehangach. Bydd meithrin y nodweddion hynny nid yn unig yn helpu Cymru i gyflawni mwy – ond yn helpu gweddill y byd i fod yn lle tecach a mwy llewyrchus.”

“Manteision dwys posibl i rai o’r bobl fwyaf difreintiedig ar draws y byd”

Mae Sarah Williams-Gardener, Prif Swyddog Gweithredol Fintech Cymru, wedi ei phlesio’n fawr gan y weledigaeth a’r ymrwymiad a ddangosir gan Mayo wrth droi breuddwyd yn realiti.

“Mae hyn yn fwy na masnachol drawsnewidiol, mae’n dod â manteision dwys posibl i rai o’r bobl fwyaf difreintiedig ac agored i niwed, ledled y byd.  Rydym wedi hyrwyddo cynhwysiant a mynediad ers amser maith – ac mae Stock Up yn dod â hynny’n fyw mewn ffordd hollol wych.”

Rhannu:

Newyddion Cysylltiedig

Tanysgrifiad i'r cylchlythyr

Os hoffech dderbyn copïau o'n cylchlythyrau, cwblhewch y ffurflen gyda'ch manylion isod.