RHODDIR RHYBUDD TRWY HYN O HAWLIAU CYHOEDDUS mai yn unol â Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru), 2014, fel y’u diwygiwyd:
- O ddydd Llun, y 4ydd o Fedi, 2023 tan ddydd Gwener, y 29ain o Fedi, 2023 yn gynhwysol rhwng 9.30yb a 3.30yp (ac eithrio Sadyrnau a Suliau), gall personau â diddordeb archwilio a derbyn copïau o unrhyw geisiadau rhesymol am ragor o fanylion yn gysylltiedig â gwybodaeth a gynhwysir yn y cyfrifon a enwir uchod. Bydd y cyfrifon ar gael i’w harchwilio ar wefan y Cyd-bwyllgor Corfforaethol. Dylid gwneud ceisiadau am wybodaeth yn gychwynnol drwy anfon e-bost at info@cardiffcapitalregion.wales.
- Ddydd Llun, yr 2ail o Hydref, 2023, bydd yr Archwiliwr Penodedig, Archwilio Cymru, 1, Cwr y Ddinas, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ, ar gais etholwr llywodraeth leol neu’i gynrychiolydd dros yr ardal y mae’r cyfrifon yn ymwneud â hi, yn darparu cyfle i’w holi am y cyfrifon ac i wneud gwrthwynebiadau:
- Ar y sail bod unrhyw eitem o gyfrifiad yn groes i’r ddeddf; neu,
- O ran unrhyw fater a ddaw i sylw’r archwiliwr yn ystod yr archwiliad y gallai ef wneud adroddiad arno er budd y cyhoedd.
Ni ellir gwneud gwrthwynebiad oni bai bod yr archwiliwr yn gyntaf wedi derbyn rhybudd ysgrifenedig ohono ac o’r seiliau y gwnaed y gwrthwynebiad. Mae’n rhaid hefyd anfon copi o’r rhybudd hwn ataf i yn y cyfeiriad isod.
Gellir derbyn cwestiynau yn sbarc/spark drwy drefniant ag Archwilio Cymru, 1, Cwr y Ddinas, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ (rhif ffôn 02920 320500) y dylid cyfeirio ceisiadau iddynt er y diben hwn.
Kellie Beirne
Prif Weithredwr
Ystafelloedd 6.12 & 6.17
sbarc/spark
Heol Maendy
CAERDYDD
CF24 4HQ