Cyfalaf Buddsoddi mewn Arloesi yn Cefnogi Cenhadaeth Sero o Gartrefi Sero Net

Categorïau:

Heddiw, mae Partneriaeth Cyfalaf Buddsoddi mewn Arloesi Cyfyngedig (IIC), y gronfa a gefnogir gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd (PRC), yn cyhoeddi buddsoddiad yn Sero, y cwmni arloesi ynni sy’n trawsnewid sut mae cartrefi’n gwella eu perfformiad ynni ac yn lleihau carbon.

Mae Sero, sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd, yn helpu landlordiaid a phartneriaid tai cymdeithasol i ddarparu cartrefi effeithlon o ran ynni, sero net ar raddfa fawr, i ostwng biliau, gwella perfformiad ynni a lleihau allyriadau carbon. Mae’r cwmni’n cyfuno arbenigedd ôl-osod ac ynni â thechnoleg berchnogol sy’n cwmpasu cefnogaeth strategol i wasanaethau rheoli ynni parhaus.

Mae Sero yn gweithio gyda chynghorau lleol a darparwyr tai cymdeithasol i ddarparu gwasanaethau ynni ac ôl-osod mewn hyd at 2,500 o gartrefi, gyda llif contract pellach o hyd at 10,000 o gartrefi. Mae ei bencadlys yng Nghaerdydd ac mae’n gweithio gyda phartneriaid ledled y DU gyda ffocws penodol ar dde Cymru, de-orllewin a de Lloegr, a Llundain.

Mae’r buddsoddiad hwn, sy’n rhan o rownd ariannu ddiweddaraf Sero, yn tanlinellu ymrwymiad IIC i gefnogi mentrau sy’n gallu ehangu, sy’n cael eu gyrru gan genhadaeth, sy’n arloesi atebion sy’n torri tir newydd gydag effaith amgylcheddol a chymdeithasol fesuradwy ar draws y rhanbarth.

Lansiwyd IIC ym mis Tachwedd 2022 gyda £50 miliwn cychwynnol o gronfeydd Llywodraeth y DU a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd (PRC) i ddarparu cyfalaf hirdymor ar gyfer cyfleoedd twf arloesol a chynaliadwy ar draws deg awdurdod unedol PRC. Mae Capricorn Fund Managers (CFM) yn gwasanaethu fel Rheolwr Cronfeydd Buddsoddi Amgen (AIFM), gan oruchwylio rheoli portffolio a risg, gyda PwC yn cynghori ar ymchwil a chyrchu buddsoddi, ar ran CFM.

Ar gyfer buddsoddiad Cyfalaf Buddsoddi mewn Arloesi, darparwyd cyngor cyfreithiol gan Hugh James.

Am ragor o wybodaeth am Cyfalaf Buddsoddi mewn Arloesi ewch i

http://www.innovationinvestmentcapital.com.

Rhannu:




Newyddion Cysylltiedig

Agorwyd datblygiad swyddfeydd mawr newydd yng nghanol Caerdydd yr hydref hwn, yn dilyn benthyciad o £15 miliwn gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd (PRC) i helpu i ddarparu gofod cyflogaeth cynaliadwy o ansawdd uchel yn Stryd John.

Subscribe for updates

Skip to content