Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Gweinyddol trefnus i ddarparu cymorth i’n tîm Gweithredol a’r tîm ehangach, gan adrodd i’r Cynorthwyydd Gweithredol. Bydd yr ymgeisydd yn darparu cymorth ymroddedig gyda rheoli dyddiaduron, cydlynu teithio, rheoli gohebiaeth e-bost, a dyletswyddau gweinyddol cyffredinol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn sicrhau bod amserlenni’n ddi-dor a bod yr holl logisteg yn cael ei thrin yn effeithlon ac yn broffesiynol.
Beth rydym yn chwilio amdano gennych chi:
Unigolyn trefnus sy’n gallu rheoli nifer o flaenoriaethau ac amserlenni. Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar da, rhywun sy’n gallu cydweithio â chydweithwyr, gan gefnogi’r tîm ehangach a chyfrannu at amgylchedd gwaith cadarnhaol. Pwyllog a dibynadwy wrth drin gwybodaeth gyfrinachol. Unigolyn hyblyg, sy’n gyfforddus yn addasu i newidiadau munud olaf gyda rheolaeth amser dda.
Os yw hyn yn swnio fel y cyfle swydd cywir i chi, darllenwch y disgrifiad swydd llawn a chysylltwch â ni – byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Am ragor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Jo Moore ar 07385 375554.
Cynhelir cyfweliadau ar 21ain a 22ain Ionawr 2026.