Cyfle i glywed barn a chanfyddiadau awduron prosbectws buddsoddi newydd P-RC – Ffyniant i’n Lle

Categorïau:
Buddsoddiadau

“Fframwaith gwerth £4.2bn o ofynion buddsoddi i helpu’r rhanbarth i ailadeiladu, codi’r gwastad a chynyddu gallu’r rhanbarth”

Cafodd Prosbectws Buddsoddi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd – ‘Ffyniant i’n Lle’ – ei gyhoeddi’n ddiweddar gan amlinellu chwe chynnig clwstwr craidd a phum cynnig seilwaith ‘galluogi’ allweddol ynghyd â chyfres o ‘gynigion mwy’ ar gyfer y tymor hwy megis creu canolfannau hydrogen ac ynni’r llanw.

Mae’r fframwaith hwn yn cynrychioli cais am gyfanswm o £4.2bn ar ffurf cyllid Ymchwil a Datblygu, “Codi’r Gwastad”, Cronfa Her y Strategaeth Diwydiannol – a bydd ein trafodaeth ddigidol ddydd Mawrth 29 Mawrth yn manylu ar raglen arfaethedig a fydd wir yn trawsnewid Prifddinas-Ranbarth Caerdydd os caiff ei gwireddu.

“Trawsnewid yr economi a chymunedau De-ddwyrain Cymru”

Bydd ein panel amrywiol ac arbenigol, sy’n cael ei gyflwyno gan y cyn Brif Weinidog Carwyn Jones, yn cynnwys Kellie Beirne (Cyfarwyddwr Bargen Ddinesig P-RC), Frank Holmes, (Partner Cyllid Corfforaethol Gambit a Chadeirydd y Bartneriaeth Twf Economaidd a’r Panel Buddsoddi), Gill Bristow, (Athro Daearyddiaeth Economaidd Prifysgol Caerdydd) a Kevin Gardiner (Aelod o Fwrdd Partneriaeth Twf Economaidd a Strategydd Buddsoddi Byd-eang Rheoli Cyfoeth Rothschild) – fydd yn dadlau a thrafod y gweithgareddau, yr effaith a’r canlyniadau arfaethedig a ragwelir yn y prosbectws.

Ymunwch â ni ddydd Mawrth 29 Mawrth i ddarganfod beth allai hyn ei olygu i economi a chymunedau De-ddwyrain Cymru – ac i glywed am ddatblygiad Bargen Ddinesig P-RC.

Rhannu:

Newyddion Cysylltiedig

Bydd Canolfan Arloesi Seiber (CAS) newydd i helpu Cymru i ddod yn arweinydd byd-eang ym maes Seiber-Ddiogelwch yn weithredol yn ddiweddarach eleni ar ôl denu ymrwymiadau cyd-fuddsoddi gan Lywodraeth Cymru, Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (PR-C) a phartneriaid yn y diwydiant.

Tanysgrifiad i'r cylchlythyr

Os hoffech dderbyn copïau o'n cylchlythyrau, cwblhewch y ffurflen gyda'ch manylion isod.