Cyfle i glywed barn arbenigol ar Weledigaeth Rheilffyrdd Teithwyr P-RC

Categorïau:
Buddsoddiadau

Bydd y Weledigaeth Rheilffyrdd Teithwyr ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (P-RC) a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn sbardun allweddol i greu dyfodol glanach, gwyrddach a mwy cynhwysol i Dde-ddwyrain Cymru – ac yn gatalydd ar gyfer datblygu ac adfywio economaidd mawr ar draws y rhanbarth.

Bydd y Drafodaeth Ddigidol hon yn cael ei chyflwyno gan y cyn Brif Weinidog Carwyn Jones ac yn trafod sut y bydd y weledigaeth hon ar gyfer gwasanaethau rheilffordd i deithwyr yn helpu i drawsnewid y realiti presennol – mewn rhanbarth sydd ag uchelgeisiau beiddgar i godi’r gwastad, cynyddu’r gallu ac ailadeiladu’n well.

Cewch gipolwg ar sut y bydd y gwasanaethau trafnidiaeth integredig a fforddiadwy newydd o ansawdd uchel yn cael eu darparu dros y 10-15 mlynedd nesaf. Mae’r drafodaeth hon yn mynd i’r afael â materion fel diwallu anghenion teithwyr, cefnogi datblygu economaidd a chynhyrchu cymdeithasol cynaliadwy, gwella’r canlyniadau economaidd, iechyd a chymdeithasol i bawb yn y rhanbarth, yn ogystal â chwarae rhan hollbwysig yn ymrwymiad P-RC i gyflawni ei nod allyriadau carbon sero-net.

Yn y bennod hon, cewch glywed gan banel amrywiol sy’n cynnwys Kellie Beirne (Cyfarwyddwr Bargen Ddinesig P-RC), Mark Barry (Athro Ymarfer mewn Cysylltedd, Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio ym Mhrifysgol Caerdydd) a Chris Sutton, (Cyfarwyddwr Sutton Consulting ac aelod o’r Panel Buddsoddi Rhanbarthol.)

Rhannu:

Newyddion Cysylltiedig

Bydd Canolfan Arloesi Seiber (CAS) newydd i helpu Cymru i ddod yn arweinydd byd-eang ym maes Seiber-Ddiogelwch yn weithredol yn ddiweddarach eleni ar ôl denu ymrwymiadau cyd-fuddsoddi gan Lywodraeth Cymru, Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (PR-C) a phartneriaid yn y diwydiant.

Tanysgrifiad i'r cylchlythyr

Os hoffech dderbyn copïau o'n cylchlythyrau, cwblhewch y ffurflen gyda'ch manylion isod.