Bydd y Weledigaeth Rheilffyrdd Teithwyr ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (P-RC) a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn sbardun allweddol i greu dyfodol glanach, gwyrddach a mwy cynhwysol i Dde-ddwyrain Cymru – ac yn gatalydd ar gyfer datblygu ac adfywio economaidd mawr ar draws y rhanbarth.
“Dyfodol glanach, gwyrddach a mwy cynhwysol”
Ymunwch â ni ddydd Mercher 31 Mawrth am Drafodaeth Ddigidol fydd yn cael ei chyflwyno gan y cyn Brif Weinidog Carwyn Jones a darganfyddwch sut y bydd y weledigaeth hon ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd i deithwyr yn helpu i drawsnewid y realiti presennol mewn rhanbarth sydd ag uchelgeisiau beiddgar i godi’r gwastad, cynyddu gallu ac ailadeiladu’n well – cewch glywed barn a chanfyddiadau panel amrywiol sy’n cynnwys Kellie Beirne (Cyfarwyddwr Bargen Ddinesig P-RC), Mark Barry (Athro Ymarfer mewn Cysylltedd, Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio ym Mhrifysgol Caerdydd) a Chris Sutton, (Cyfarwyddwr Sutton Consulting).
“Datblygu ac adfywio economaidd ar raddfa fawr ym mhob rhan o’r rhanbarth”
Peidiwch â cholli’r cyfle hwn ddydd Mercher 31 Mawrth i glywed sut y bydd y gwasanaethau trafnidiaeth integredig a fforddiadwy newydd o ansawdd uchel yn cael eu darparu dros y 10-15 mlynedd nesaf – gan fodloni anghenion teithwyr, cefnogi datblygu economaidd cynaliadwy a chynhyrchu cymdeithasol, gwella’r canlyniadau economaidd, iechyd a chymdeithasol i bawb yn y rhanbarth, yn ogystal â chwarae rhan hollbwysig yn ymrwymiad P-RC i gyflawni allyriadau carbon sero-net