Cyflymu Amser Cymudo Drwy Wella Gwasanaethau Bws

Categorรฏau:

Bydd cynllun newydd a gynhelir gan Gyngor Dinas Casnewydd yn datblygu gwell seilwaith ar ochr y ffordd er mwyn hwyluso mwy o ddefnydd o fysus ac amseroedd teithio cyflymach ynghyd รข chyfleuster parcio a theithio i’r dwyrain o Gasnewydd gyda gwefru Cerbydau Trydanol.

Mae’r prosiect Metro+ hwn yn rhan o raglen ehangach i ddarparu opsiynau trafnidiaeth gynaliadwy amgen i ffordd liniaru’r M4, a bydd yn cynnwys coridor bws cyflym newydd rhwng Casnewydd a Chaerdydd. Bydd y prosiect yn ymgorffori cyfleusterau teithwyr o ansawdd uchel gan gynnwys gwybodaeth electronig a gwefru trydanol ar gyfer bysus, yn ogystal รข mesurau teithio llesol i gael mynediad i’r coridor. Rhan o’r cynllun hefyd yw gwneud amseroedd bysus yn fwy rhagweladwy.

I gael gwybod mwy am sut mae’r prosiect wedi’i gynllunio i gyflymu teithio rhwng y ddwy ddinas drwy ddefnyddio ystod o ddulliau trafnidiaeth gynaliadwy, siaradon ni รข Simon Nicholls, Cydlynydd Bysus Cyngor Dinas Casnewydd;

“Mae’r prosiect yn ystyried a allwn wella llif bysus a’u gwneud yn llawer cyflymach nag y maen nhw ar hyn o bryd, ond mae hefyd yn ystyried sut y gallwn wella cyfleusterau ar gyfer cerdded a beicio. Casnewydd a Chaerdydd yw prif ganolfannau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac felly mae ganddynt lif net o gymudwyr yn y bore a’r gwrthwyneb gyda’r nos. Mae llawer iawn o deithio rhwng y ddwy ddinas ac mae’r coridor newydd wedi’i anelu at ddelio รข’r galw hwn.”

Rhannu:




Newyddion Cysylltiedig

Subscribe for updates

Skip to content