Nod prosiect Metro+ Pont-y-pŵl a New Inn yw torri’r cylch presennol o gyfleusterau a gwasanaethau gwael drwy ddarparu cyfnewidfa, gan alluogi’r orsaf i weithredu fel gorsaf deithio ranbarthol. Mae’r gwaith o ddiweddaru’r orsaf reilffordd anghysbell hon yn golygu creu 160 o leoedd parcio, gan gynnwys lleoedd i wefru cerbydau trydan, i wneud yr orsaf yn gysylltydd hanfodol i’r rhanbarth.
Bydd modd cyrraedd y cyfleuster Parcio a Theithio newydd o gefnffordd yr A4042, gyda mynediad cymwys i’r anabl i’r platfform a chyfleusterau gorsaf gwell, gan gynnwys parcio beiciau. Yr uchelgais yw i’r orsaf fod yn fan cyfnewid hanfodol i deithwyr sy’n teithio yn ôl ac ymlaen i Flaenafon, Abersychan, Pont-y-pŵl, New Inn, Brynbuga a gorllewin Sir Fynwy. Bydd y ganolfan newydd hefyd yno ar gyfer trigolion y dyfodol yn natblygiad arfaethedig pentref trefol 900 cartref 47 erw Mamhilad sydd i’w adeiladu ar safle Parke-Davis Pont-y-pŵl.
I gael gwybod mwy, fe gawsom sgwrs â Michelle Mitchell, Arweinydd Grŵp – Priffyrdd a Chludiant yng Nghyngor Sir Torfaen.
“Y nod yw darparu 160 o leoedd parcio ychwanegol, gan gynnwys 11 o fannau parcio hygyrch a phum man gollwng a chasglu. Bydd 7 bae parcio llydan iawn ynghyd ag 11 bae i wefru cerbydau trydan.
Yn y gorffennol mae wedi bod yn ased corfforol gwael mewn lleoliad anghysbell. Mae cyflwyno Parcio a Theithio yn mynd i newid hynny i gyd, a bydd gwelliannau mawr eraill, gan wella mynediad i’r anabl, a gwella mynediad i gerddwyr a beicio.”