Mae gan gyfnewidfa drafnidiaeth newydd ar gyfer y Barri’r potensial i ddenu buddsoddiad economaidd newydd i gwr yr orsaf, canol y dref, a’r ardaloedd cyfagos.
Mae’r cynllun yn cynnwys cyfnewidfa fysiau newydd, cyfnewidfa dacsis, darpariaeth wefru ar gyfer bysiau, tacsis a cheir trydan, seilwaith digidol a gwelliannau i’r llwybrau mynediad at yr orsaf ei hun.
I gael gwybod mwy buom yn siarad ag Emma Reed, Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth Cyngor Bro Morgannwg.
“Yr hyn yr ydym am ei wneud yw darparu seilwaith hanfodol a fydd yn arwain at ddatblygu prosiectau eraill, y mae angen edrych arnynt ar y lefel genedlaethol, gan gynnwys teithio mwy integredig ar fysiau a threnau a thocynnau integredig.
“Mae gennym gysyniad o ddyluniad ac rydym nawr yn edrych ymlaen at symud i gam nesaf y broses. Byddwn yn datblygu’r dyluniad hwnnw, gan ei dynnu i mewn i becyn integredig, gwirio’r rhifau a’r achos busnes, ac yna ei weithredu yn 2023 gobeithio.”