Bydd yr wythnosau a’r misoedd nesaf yn dod â heriau enfawr i ni fel unigolion a chymunedau, ac yn ein busnesau.
Nid yw’r rhan fwyaf ohonom erioed wedi cael profiad o ddim byd tebyg i’r newidiadau i’n bywydau beunyddiol rydym yn awr yn cael ein cynghori i’w cymryd, neu hyd yn oed fwy o gyfyngiadau a allai’n hawdd ddod arnom yn y dyfodol agos.
Rydym i gyd yn deall y rhesymau dros y camau eithriadol hyn, ond nid yw hynny’n ei gwneud yn damaid llai heriol. Bydd llawer o fusnesau a masnachwyr unigol yn ei chanfod hi’n eithriadol o anodd llywio drwy’r wythnosau a’r misoedd o’n blaenau heb ddod o dan bwysau ariannol difrifol.
Effeithir yn barod ar y sectorau adwerthu, hamdden a lletygarwch, wrth i gwsmeriaid gadw draw, ond fel mae amser yn mynd heibio, fe fydd busnesau eraill yn y gadwyn gyflenwi yn teimlo’r effeithiau hefyd. Ac fe effeithir ar fusnesau ym mhob sector wrth i staff fynd yn wael neu’n gorfod hunan-ynysu, neu ond yn dilyn cyngor y Llywodraeth ynglŷn â chadw pellter cymdeithasol.
Yn yr amgylchiadau hyn, mae’n hanfodol ein bod ni i gyd yn gwneud yr hyn a allwn i helpu ac i gefnogi’n gilydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn cymorth gwerth £1.4 biliwn ar gyfer busnesau bach, yn cynnwys seibiant ardrethi busnes am 12 mis ar gyfer busnesau bach ym maes adwerthu, hamdden a lletygarwch, a grantiau o £25,000 ar gyfer busnesau yn yr un sector sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000.
Bydd busnesau ym mhob sector sy’n gymwys ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach a chanddynt werth ardrethol o lai na £12,000 yn cael grantiau o £10,000. Mae Banc Datblygu Cymru hefyd wedi cyhoeddi seibiant ad-dalu i fusnesau y mae wedi rhoi benthyg arian iddynt.
Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gweithio i wneud yn sicr ei bod hi mor eglur â phosibl i fusnesau sut y gallant gael at y cynlluniau cymorth hyn a roddir ar waith, ac fe fyddwn yn cyfathrebu’r wybodaeth hon i fusnesau cyn gynted ag y gallwn.
Rydym hefyd yn gofyn i fusnesau ddweud wrthym beth yw’r anawsterau sydd yn eu hwynebu, a pha gymorth y mae arnynt ei angen i’w goresgyn drwy arolwg wedi’i chyd-frandio rydym wedi’i gyhoeddi gyda DROS Gaerdydd. Bydd y 10 awdurdod lleol sy’n ffurfio Prifddinas-Ranbarth Caerdydd hefyd yn gwneud beth bynnag arall y gallant i helpu busnesau bach yn eu hardaloedd.
Mae pandemig yr haint coronafeirws yn brawf ar gadernid ein cymunedau.
Mae yna draddodiadau gwych o gynorthwyo’r naill a’r llall a chydweithredu yn ein rhanbarth y gallwn wneud defnydd ohono. Ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, mae cydweithio er lles pawb wrth graidd ein holl fodolaeth. Ein hethos yw nad yw’r rhanbarth yn llwyddiant os caiff y mwyaf anghenus eu hepgor.
Ac mae yna gyfle gwir wirioneddol i fusnesau chwarae’u rhan, hefyd. Mae yna angen ar fyrder am gwmnïau sydd â’r gallu i weithgynhyrchu i helpu i oresgyn y prinder peiriannau anadlu, cyfarpar diogelu personol, masgiau wyneb, diagnosteg a dyfeisiadau meddygol, systemau data i reoli ac i ragfynegi llif gwaith, peiriannau dadansoddi nwy gwaed, chwistrellau a mathau eraill o gyfarpar. Mae darparu adeiladau ar gyfer cynorthwyo cynhyrchu a gwasanaethau eraill yn ffordd arall y gall busnesau helpu.
I ni ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, fe fyddwn hefyd yn parhau â’n gwaith yn ymwneud â chysylltu cwmnïau mewn clystyrau. Yn yr argyfwng cyfredol, mae’n bwysicach nag erioed bod busnesau a chyrff yn y sector cyhoeddus yn cydweithio mor effeithiol â phosibl i oresgyn anawsterau ac i hwyluso cynhyrchiant.
Ni all neb ddweud ar hyn o bryd am ba hyd y pery’r pandemig. Mae’n debygol y bydd yr effaith economaidd yn ddifrifol, ond nid yw’n sicr eto pa mor hirbarhaol y bydd yr effeithiau neu pa mor gyflym y daw’r adferiad. Mae’n rhaid inni dybio ei bod hi’n debygol y bydd hi’n fisoedd cyn y gallwn fod yn y sefyllfa roeddem ynddi cyn i hyn ddigwydd.
Yr hyn sydd yn sicr yw bod yn rhaid inni geisio cynnal ein busnesau a’n cymunedau drwy’r argyfwng, a’u helpu i gael eu cefn atynt pan ddaw’r adferiad. Mae’r gwaith a wnawn fel Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ymwneud yn gyfan gwbl â darparu’r amgylchedd lle y gall busnesau ffynnu, ym mhob cwr o’n rhanbarth.
Mae’n ymwneud â chreu rhanbarth sydd wedi’i gysylltu’n well, sy’n fwy cystadleuol, ac sy’n gadarnach. Dyma’r rhinweddau y bydd arnom eu hangen i’n cael i wneud cynnydd unwaith eto pan fydd pryderon heddiw wedi dod i ben.