Mynychodd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) gonfensiwn Porth y Gorllewin ar yr 17eg o Hydref fel noddwr cylchfaol ar gyfer buddsoddi.
Mae Porth y Gorllewin yn bartneriaeth rhanbarth cyfan ar gyfer De Cymru a Gorllewin Lloegr, sy’n ymestyn o Dyddewi i Swindon.
Gwnaeth confensiwn 2024, a gynhaliwyd yn y Ganolfan Confensiwn Rhyngwladol (ICC) Cymru yng Nghasnewydd, dynnu ynghyd dros 700 o arweinwyr academaidd, busnes, llywodraeth a lleol o bob cwr o Gymru a’r Deyrnas Unedig i drafod sut i ddatblygu economi sy’n addas ar gyfer y dyfodol.
Cyn y confensiwn, cyhoeddodd Porth y Gorllewin ei naratif economaidd a rannir sydd â’r nod o ysgogi buddsoddiad i’r ardal a gosod y rhanbarth wrth graidd economi’r Deyrnas Unedig yn y dyfodol.
Gan adeiladu ar ei naratif economaidd, lansiodd y bartneriaeth ei ‘Cynllun ar gyfer Twf Cynaliadwy’ yn y confensiwn, gan amlinellu sut y gall y rhanbarthau arwain y ffordd yn y Deyrnas Unedig trwy greu cyfleoedd newydd a hybu ymdrech genedlaethol i gyflawni sero net.


Ar ôl areithiau agoriadol gan Weinidogion ac arweinwyr, a thrafodaeth ford gron i fusnesau, yn cynnwys y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, Cadeirydd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, yn y bore, clywodd cynrychiolwyr am botensial y rhanbarthau i greu twf economaidd cynaliadwy trwy bum elfen: cysylltedd, seiber a thechnoleg, cyllid, natur a sero net.
Kellie Beirne, Prif Weithredwr Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a gadeiriodd banel buddsoddi’r prynhawn i rannu mewnwelediadau ac i ysgogi trafodaethau ar yr hyn sydd ei angen i wneud rhanbarth Porth y Gorllewin yn fwy buddsoddadwy.
Yn y stondin, rhannodd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd fewnwelediadau oddi wrth ei rhaglenni sgiliau, yn cynnwys rhaglen Graddedigion Venture a’r Rhaglen Datblygu a Thyfu Clystyrau, a dderbyniodd £3.3 miliwn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig trwy Gronfa Ffyniant Cyffredin y Deyrnas Unedig.

Dywedodd y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy a Chadeirydd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd:
“Rwyf wrth fy modd bod Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi cynorthwyo Confensiwn Porth y Gorllewin fel noddwr cylchfaol ar gyfer buddsoddi yn y rhanbarth. Gwelwn y gwerth aruthrol fawr mewn uno â chynifer o bartneriaid ledled y rhanbarth hwn sydd wedi’u buddsoddi mewn twf cynaliadwy, economaidd a chynhwysol, a rhannu gweledigaeth gyfunol ar gyfer dyfodol ffyniannus y bydd cenedlaethau i ddod yn elwa ohonynt.”
Dywedodd Sarah Williams-Gardener, Cadeirydd Porth y Gorllewin:
“Mae’n nerthol gweld Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cefnogi Confensiwn 2024 ar gyfer Porth y Gorllewin. Roedd y digwyddiad hwn yn adeg hynod bwysig ar gyfer dangos mor hanfodol y gall partneriaethau fod, wrth i fusnesau, prifysgolion a’n hawdurdodau ddod ynghyd o dan un to i sicrhau y gallwn fod yn ganolbwynt i economi’r Deyrnas Unedig yn y dyfodol.
“Dengys ein Cynllun ar gyfer Twf Cynaliadwy sut, gyda’n gilydd, y gallwn gyflawni ar ein potensial i fod yr ardal economaidd sy’n tyfu gyflymaf y tu allan i Lundain, a mynd â hyn i’r cyfnod nesaf. Bydd gweithio â phartneriaid allweddol fel Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn allweddol i’r llwyddiant hwn, a diolchaf iddynt am barhau â’u cefnogaeth.”
