Bydd yr ATRh yn ehangu ei gylch gwaith ar ôl i’r cabinet gymeradwyo cynnig i ehangu ei gylch gorchwyl. Ar hyn o bryd, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, mae rôl yr ATRh yn canolbwyntio ar gydlynu cynllunio a buddsoddi trafnidiaeth rhanbarthol ar gyfer rhaglenni sy’n benodol i’r Fargen Ddinesig. O hyn ymlaen, bydd y cylch gwaith estynedig yn ei alluogi i chwarae rhan lawn yn y gwaith o gydlynu, alinio ac ysgogi cynllunio a buddsoddi trafnidiaeth ar gyfer POB rhaglen strategol ranbarthol. Bydd yr ehangu sylweddol hwn yn ei alluogi i ddatblygu agenda fwy strategol, uchelgeisiol a ‘seiliedig ar y dyfodol’ a dechrau’r broses o gwmpasu’r pwerau, y galluoedd a’r teclynnau sydd eu hangen i weithredu yn y ffordd orau bosibl yng nghyd-destun Cyd-bwyllgor Corfforaethol y dyfodol. Yn bwysicaf oll, bydd yn gosod yr ATRh mewn safle lle gall ddweud ei ddweud ar faterion seilwaith strategol mawr y dydd – lefelu, cywiro tan-gyllido trafnidiaeth yn y rhanbarth, blaenoriaethau rheilffyrdd a theithio llesol cynaliadwy.
Ymhlith y swyddogaethau newydd penodol sydd wedi eu hychwanegu at y cylch gwaith mae:
- Dod yn bwynt cydgysylltu rhanbarthol ar gyfer rhaglenni ategol Llywodraeth Cymru a P-RC.
- Gweithio tuag at gydlynu’r Rhwydwaith Bysiau Rhanbarthol yn integredig ac yn effeithiol a darparu cymorth ar ei gyfer. Bydd hyn yn cynnwys ystyried sefydlu Uned Ranbarthol o dan gefnogaeth y P-RC, gan gyfuno sgiliau ac adnoddau mewn tîm cyfunol i ganolbwyntio’n gyfan gwbl ar gyflawni swyddogaethau bysiau rhanbarthol/lleol.
- Datblygu cyhoeddiad strategol yn nodi’r Blaenoriaethau Rheilffyrdd Rhanbarthol ar gyfer P-RC. Gyda Llywodraeth y DU bellach yn ymchwilio i’r cyfle i “lefelu” buddsoddiad rheilffyrdd ledled y DU – mae dull strategol yn hanfodol. Mae gwaith ar y gweill i lunio ‘Gweledigaeth a Blaenoriaethau Rheilffyrdd Strategol’ ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd’ a’r bwriad yw y bydd y ddogfen hon yn bwydo i mewn i Brosbectws ‘Lefelu i Fyny’ P-RC sy’n cael ei baratoi ar hyn o bryd i’w ystyried gan Lywodraeth y DU yn y Flwyddyn Newydd.
Dywedodd y Cynghorydd Huw David, Cadeirydd ATRh, Aelod Rhanbarthol o Fwrdd Cabinet P-RC ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: “Rwyf wrth fy modd bod yr estyniad i gylch gwaith yr RTA wedi’i gymeradwyo’n ffurfiol. Mae’n hanfodol bod gennym wasanaethau trafnidiaeth dibynadwy, effeithlon a fforddiadwy o ansawdd uchel i gefnogi datblygu economaidd cynaliadwy ac adfywio cymdeithasol. Bellach mae gennym y gallu i gyflawni rôl ehangach wrth yrru agenda fwy strategol ac uchelgeisiol yn ei blaen, gan fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd a ddaw drwy fentrau Lefelu i Fyny a Phorth y Gorllewin, a’r ymrwymiadau at Chwyldro Diwydiannol Gwyrdd.”