Pe byddech yn gofyn i 10 o bobl yn Ne-ddwyrain Cymru beth yw ystyr ‘Cynaliadwyedd’ mae’n debyg y byddech yn cael 10 ateb gwahanol.
“Ailgylchu.” “Ynni Adnewyddadwy.” “Tyfu ein Bwyd ein Hunain.”
“Troi’n Wyrdd.” Byddai’r rhestr yn hir ac amrywiol, gyda phob ateb yn creu darn bach o ddarlun mawr iawn.
Gall y darlun hwn fod hyd yn oed yn fwy nag y gallwn ei ddeall mewn gwirionedd. Oherwydd yn ei hanfod, ystyr ‘Cynaliadwyedd’ yw bodloni ein hanghenion ein hunain heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i fodloni eu hanghenion nhw.
Mae’n mynd yn llawer dyfnach ac ehangach na chadwraeth a gwarchod yr amgylchedd.
Mae’n ymwneud â defnyddio ein hadnoddau i gyd – naturiol, cymdeithasol, economaidd a dynol – er lles pawb a phopeth ar ein planed.
Mae’n ymwneud â chreu ffordd iachach, decach a mwy effeithlon o fyw, gan ddilyn polisïau ac arferion sy’n cydbwyso Heddiw ag Yfory – ar gyfer planed y gall cenedlaethau’r dyfodol di-rif fyw ynddi (gyda’n cydweithrediad) am sawl milenia arall, gan fyw mewn cytgord gydag ecosystem sy’n ffynnu.
Mae creu dyfodol cynaliadwy yn dechrau gyda ‘Ni’
Yn y pen draw, mae sicrhau’r dyfodol cynaliadwy hwnnw yn ymwneud â ‘Ni’ yn gwneud pethau penodol, nawr ac am byth.
Dyna pam mae ‘Cynaliadwyedd’ yn dod â chymaint o wahanol elfennau ynghyd. Mae’r Ras i Sero yn ymwneud â chynaliadwyedd. Y daith tuag at Economi gylchol yn ymwneud â chynaliadwyedd. Mae Cynhwysiant a cheisio tegwch cymdeithasol yn ymwneud â chynaliadwyedd. Datgarboneiddio trafnidiaeth. Tai gwres effeithlon. Cyflenwadau diogel o fwyd cartref. Ailgyflenwad parhaus o ddoniau. Swyddi gwell yn agosach i’r cartref … cynaliadwyedd yw’r man cyfarfod ar gyfer yr holl golofnau hyn fydd, gyda’i gilydd, yn gallu cefnogi dyfodol cadarnhaol i’r ddynoliaeth a’r byd yr ydym yn byw ynddo.
O ystyried hynny i gyd, mae’n hawdd gweld pam mae’r pwnc wedi cael ei groesawu fel un o bedwar nod strategol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Ond beth yw ‘manylion penodol’ Cynaliadwyedd? Sut ddaeth i’r amlwg? Sut olwg sydd ar fyd cynaliadwy? A sut fydd llwyddiant cynaliadwy yn cael ei fesur?
Dyfodol cynaliadwy, wedi ei greu dros flynyddoedd lawer
Efallai fod y cysyniad o gynaliadwyedd yn ymddangos yn gymharol newydd, ond mae’r camau tuag at ‘ddatblygu cynaliadwy’ yn ymestyn yn ôl i’r ugeinfed ganrif.
Erbyn y 1980au, ar ôl degawdau o ymdrech i gynyddu safonau byw byd-eang trwy ddiwydiannu, roedd llawer o wledydd ledled y byd yn dal i ddelio â thlodi eithafol.
I lawer, roedd yn ymddangos bod datblygu economaidd wedi dod ar draul iechyd ecolegol a chymunedau cydlynol – ac nid oedd yn arwain at ffyniant hirhoedlog. Yn 1983, penderfynodd y Cenhedloedd Unedig wynebu’r her hon yn uniongyrchol, gan benodi prif weinidog blaenorol Norwy, Gro Harlem Brundtland i redeg Comisiwn y Byd ar yr Amgylchedd a Datblygu, gyda’r nod o ddod o hyd i ffordd i gysoni ecoleg gyda ffyniant.
Yr adroddiad sy’n deillio o hyn – Ein Dyfodol Cyffredin – a gyflwynodd, yn ei hanfod, ymwybyddiaeth newydd, gan ddiffinio datblygu cynaliadwy fel a ganlyn:
“Datblygu sy’n diwallu anghenion y presennol heb gyfaddawdu ar allu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain”
Roedd y Comisiwn wedi llwyddo i osod ‘cynaliadwyedd’ ar agenda’r byd – fel dull cyfannol sy’n ystyried dimensiynau ecolegol, cymdeithasol, economaidd a dynol, gan gydnabod bod yn rhaid gwerthfawrogi’r holl feysydd hynny yn gyfartal a chyda’i gilydd.
Ers y diwrnod hwnnw, mae’r Cenhedloedd Unedig wedi gweithio gyda llywodraethau ledled y byd i lunio polisïau ac arferion cynaliadwyedd – gyda Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDG) 2015 y CU yn nodi agenda uchelgeisiol i drawsnewid y byd ar gyfer pobl, y blaned a ffyniant, trwy 17 o nodau sy’n cynnwys llywodraethu cryf, mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, meithrin iechyd a lles, lleihau anghydraddoldebau, darparu addysg a swyddi o safon, creu twf economaidd trwy ddiwydiant, arloesi a seilwaith – a sefydlu’r partneriaethau i gyflawni’r nodau hyn.
Sut olwg sydd ar ‘Bobl, y Blanet a Ffyniant’?
Ffurfio ein cymdeithasau i greu ffyniant cynaliadwy i bawb, mewn cytgord ag ecosystem ein planed, yn ddi-os, yw’r her fwyaf sy’n ein hwynebu ni fel rhanbarth, gwlad a rhywogaeth.
Bydd ein penawdau newyddion dyddiol ynghylch newid yn yr hinsawdd, diogelwch bwyd ac anghydraddoldebau dwfn byth newid oni bai ein bod yn cyrraedd sefyllfa o gynaliadwyedd.
Ac mae’r wladwriaeth honno’n cael ei hadeiladu ar bedair colofn na ellir cyfaddawdu arnynt sydd, mae wedi dod i’r amlwg, yn sylfaenol i ddyfodol cynaliadwy:
CYNALIADWYEDD DYNOL
Yn y pen draw, nod trawsnewid i fyd cynaliadwy yw i gynnal a gwella’r cyfalaf dynol yn ein cymdeithas. Daw unrhyw fuddsoddiad mewn Iechyd ac addysg, gwelliant i wasanaethau, twf maeth mynediad i wybodaeth neu ddatblygiad sgiliau o dan ymbarél eang cynaliadwyedd dynol.
Mae’n golofn sy’n gosod cyfrifoldeb enfawr ar fusnesau ac yn wir unrhyw un sydd yn gysylltiedig â gwneud cynnyrch neu ddarparu gwasanaethau: ac mae hefyd yn gyfle mawr i’r busnesau, y cynhyrchwyr a’r darparwyr hynny i ddod yn rhan allweddol o les ehangach cymdeithas.
CYNALIADWYEDD CYMDEITHASOL
Mae cynaliadwyedd cymdeithasol yn fyd lle mae pawb wedi ei gynnwys a does neb yn cael ei adael ar ôl – lle mae cymunedau iach yn cael eu hadeiladu ar seilwaith fodern gan roi mynediad cyffredinol i wasanaethau hanfodol, wedi eu diogelu gan arweinyddiaeth atebol a llywodraethu da.
Dyma’r fframwaith ar gyfer cymdeithas sefydlog ac iach lle mae pobl yn teimlo’n gysylltiedig â’i gilydd, gyda’r cyfle i dyfu a chyflawni eu potensial.
CYNALIADWYEDD ECONOMAIDD
Os yw cynaliadwyedd cymdeithasol yn canolbwyntio ar wella cydraddoldeb cymdeithasol, nod cynaliadwyedd economaidd yw gwella safon byw. Mae cynaliadwyedd yn gofyn am dwf economaidd – twf economaidd o ansawdd ar draws byd o bron i wyth biliwn o bobl, fel bod pob cymuned ddynol ar draws y byd yn gallu cynnal eu hannibyniaeth economaidd a mwynhau mynediad i’r adnoddau sydd eu hangen arnynt.
Mae’r adnoddau economaidd hynny’n cynnwys ffynonellau bwyd, tai, addysg, cyllid a bywoliaeth gynaliadwy- sylfaen bywyd modern – gyda’r pandemig a’r gwrthdaro yn Wcráin yn dangos pa mor fregus y gall systemau economaidd fod.
CYNALIADWYEDD AMGYLCHEDDOL
Mae cynaliadwyedd amgylcheddol yn hanfodol i ddiogelu ein ‘cyfalaf naturiol’ a lles dynol. Er mwyn i’n gwareiddiad ffynnu a llwyddo, mae’n hanfodol bod systemau amgylcheddol y ddaear yn parhau mewn cydbwysedd, ag adnoddau naturiol sy’n cael eu defnyddio ar raddfa lle maent yn gallu ailgyflenwi eu hunain.
Heb y cynaliadwyedd amgylcheddol hwnnw, efallai na fydd y byd fel y mae nawr yma i ni breswylio ynddo.
Sut olwg sydd ar lwyddiant cynaliadwy?
Mae mabwysiadu arferion cynaliadwy, boed yn fawr neu’n fach, yn cael effaith sylweddol yn y tymor hir.
Er enghraifft, os yw pob gweithiwr swyddfa yn y Deyrnas Unedig yn defnyddio un stwffwl yn llai y dydd trwy ddewis clip papur y gellir ei ailddefnyddio, byddai 120 o dunnelli o ddur yn cael ei arbed mewn blwyddyn.
Os yw pob cartref yn y Deyrnas Unedig yn newid un golau i fylbiau ynni-effeithlon, byddem yn lleihau ein hallyriadau tŷ gwydr o fwy na 5 miliwn o dunnelli.
Felly, rydym i gyd yn gwneud gwahaniaeth, bob dydd, p’un ag ydyn ni’n ymwybodol o’n gweithredoedd ai peidio.
Yr her allweddol i lywodraethau yw mesur effaith gweithgareddau amrywiol iawn, asesu eu perfformiad yn erbyn egwyddorion Amgylcheddol, Economaidd a Chymdeithasol – a cheisio trin bob un o’r tri yn gytbwys.
Am na allwn fod “ychydig yn Gynaliadwy”, neu “bron yn Gynaliadwy”. Rydym naill ai’n ‘Gynaliadwy’, neu ddim.
Efallai na fydd y cydbwysedd hwnnw – yr hyn a elwir yn Llinell Waelod Driphlyg yn bosibl ei gyflawni ym mhob prosiect, ond mae cyfle gwell o gyflawni’r nod cyfannol hwn pan fydd y dair egwyddor yn cael eu cymhwyso ar draws a portffolio o brosiectau neu raglen gyfan wedi’i chynllunio.
Mae polisïau a rhaglenni Llywodraeth y DU yn cyd-fynd â Nodau Datblygu Cynaliadwy’r CU, yn cynnwys Cynllun Amgylcheddol 25 mlynedd, a Strategaeth Twf Glân, Strategaeth Ddiwydiannol a Chynllun Pobl.
Mae Llywodraeth Cymru wedi mynd â’r dull ‘Pobl a Phlaned’ hwn ymhellach fyth: y wlad gyntaf yn y byd i basio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) sy’n gweld popeth trwy lens cynaliadwyedd … ymgysylltu pobl ledled Cymru mewn sgwrs genedlaethol ar ‘Y Gymru a Garem yn 2050’ … deddfu datblygu cynaliadwy fel yr egwyddor ganolog ar gyfer 44 o gyrff cyhoeddus … a bod yn allweddol yn dod â chyfranwyr allweddol ynghyd i gynnal datblygu cynaliadwy ar y lefel leol.
Rydym yn rhannu’r uchelgais hwn ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae cynaliadwyedd wedi’i ymgorffori ym mhopeth a wnawn, fel un o’r pedwar nod strategol sy’n arwain ein holl weithgareddau. Mae yn ein DNA ac wedi’i atgyfnerthu gan ymrwymiad clir i’r Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Llywodraethu.
Rydym yn ymateb i’r heriau (ac yn croesawu’r cyfleoedd) a gyflwynir gan yr ymgyrch am gynaliadwyedd, bob dydd – ac yn ein rhifyn nesaf, byddwn yn archwilio ein buddsoddiadau #CynaliadwyeddArWaith a wnaed mewn elfennau newid gwyrdd fel Gorsaf Bŵer Aberddawan a ddatgomisiynwyd, y cynaliadwyedd sydd i’w weld ar draws ein Cronfa Her Bwyd; a’r weledigaeth ar gyfer llinellau doniau cynaliadwy sy’n cael eu gwireddu trwy waith Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a’n sgiliau Mentro ni ein hunain.
#CynaliadwyeddArWaith