Mae Arweinydd WLGA heddiw wedi nodi pwysigrwydd gweithio gyda’n gilydd i ganfod atebion dyfeisgar i gynyddu cynhyrchiant a datblygu gweithlu medrus yn ein cymunedau.
Siaradodd y Cynghorydd Debbie Wilcox mewn seminar cyfnewid i rannu dysgu a gwersi a ddatblygu economaidd rhanbarthol rhwng Cymru a Lloegr, a gafodd ei gynnal ar y cyd gan Llywodraeth Cymru, Rhanbarth Prifddinas Caerdydd ac Awdurdodau Cyfunol Lloegr, ac wedi ei gydlynu gan WLGA.
Bydd Bargen Ddinesig Rhanbarth Prifddinas Caerdydd ei hun yn gweld £1.2 biliwn o fuddsoddiad yn y rhanbarth o fewn yr 20 mlynedd nesaf, gyda’r nôd o ddarparu hyd at 25,000 o swyddi newydd ac yn gweithio fel y catalydd ar gyfer £4 biliwn ychwanegol o fuddsoddiad o’r sector breifat. Mae buddsoddiad tebyg ar raddfa fawr hefyd wedi ei gytuno ar gyfer rhanbarth Abertawe, trwy Fargen Ddinesig Rhanbarth Dinas Bae Abertawe, gyda Gogledd Cymru yn barod i wneud achos i’r rhanbarth ddenu hwb ariannol tebyg wrth lansio Cais Tyfiant Gogledd Cymru. Mae gwaith hefyd wedi cychwyn i gael cynllun twf yn rhanbarth Tyfu Canolbarth Cymru.
Dywedodd Arweinydd WLGA, y Cynghorydd Debbie Wilcox (Casnewydd), yn ei rôl fel Arweinydd ar Gyflogaeth a Sgiliau ar ran y Fargen Ddinesig Rhanbarth Prifddinas Caerdydd:
“Ar wahân i gynrychioli buddsoddiadau gwerth miliynau o bunnoedd mewn ardaloedd ar draws Cymru, mae Bargeinion Dinesig a Thwf yn gweithredu fel catalydd am ragor o fuddsoddiad angenrheidiol o’r sector breifat. Gan weithio’n agosach gyda’n gilydd wrth gymryd camau rhanbarthol cydweithredol, gallwn sicrhau bod potensial y bargeinion yma i greu swyddi yn cael eu hagor yn llawn i hybu twf economaidd lleol yn ein cymunedau. Mae rhannau arbennig mewn cytundebau pwrcasu, er enghraifft, yn mynd i arwain at brentisiaethau a chyfleon hyfforddi gwerthfawr tu hwnt i drigolion yn ein cymunedau. Bydd dull dyfeisgar a chydweithredol i fuddsoddiad o’r fath hefyd yn sicrhau ein bod yn gallu darparu cyflogaeth a chefnogaeth sgiliau sydd wedi eu harwain gan alw i ddiwydiant a rhaglenni isadeiledd, a fydd yn galluogi ffyniant economaidd.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Wilcox: “Mae awdurdodau lleol yn falch o fod yn arwain ar brosiectau sylweddol fel hyn sydd â’r potensial i wella rhagolygon a chyfleon swyddi ar gyfer pobl yn ein cymunedau. Rydym yn edrych ymlaen i weithio gyda ein holl bartneriaid sydd yn rhannu ein brwdfrydedd i sicrhau ein bod yn cyrraedd yr uchelgais gyffrous yma. Mae awdurdodau lleol yn edrych ymlaen i barhau i weithio gyda chyflogwyr allweddol, sefydliadau addysg uwch a phellach, a gyda llywodraethau y DU a Chymru i ddatgloi potensial Rhanbarth Prifddinas Caerdydd.”