Cynwysoldeb: Pam mae angen i bawb berthyn er mwyn i ni fod ar ein gorau

Categorïau:
Our Region in Action

Mae pob un bod dynol ar y Ddaear yn teimlo’r angen sylfaenol i ‘gael ei gynnwys’. Mae wedi’i weirio i mewn i bob un ohonon ni. Ydych chi’n nabod y teimlad cynnes hyfryd ‘na sy’n llifo drwy eich gwythiennau pan fyddwch chi’n cael eich gwerthfawrogi am bwy ydych chi yn ogystal â beth rydych chi’n ei wneud? Neu’r orfoledd o fod yn rhan o dîm buddugol? Neu’r boen ofnadwy ‘na o gael eich gwrthod?

Dyna’n synnwyr cynhenid ni o gynhwysiant ar waith – yn dweud wrthon ni ein bod ni ‘mewn’ neu ‘mas’.

Mae’r angen i deimlo’n gynwysedig mor ddwfn, mae’n fiolegol.  Ac mae’n anhygoel o bwerus. Rydyn ni’n newid yn gorfforol pan fyddwn ni’n teimlo’n rhan o rywbeth ‘da’: gyda’n cyrff yn rhyddhau hormonau sy’n newid ein hymddygiad a hyd yn oed ein hedrychiad.

O ystyried y potensial diddiwedd bron o harneisio’r grym bywyd hwn, nid yw’n syndod bod y seicolegydd uchel-ei-barch o’r Unol Daleithiau, Abraham Maslow, wedi nodi ymdeimlad o ‘berthyn’ fel un o’r meini prawf allweddol ar gyfer hapusrwydd a boddhad personol – ac nid yw’n fawr o syndod bod llywodraethau democrataidd, cymdeithasau aeddfed a sefydliadau blaengar yn cofleidio cynhwysiant fel elfen hanfodol o adeiladu ‘llwyddiant’ cynaliadwy.

I P-RC, mae ‘Cynwysoldeb’ yn ganolog i bwy ydyn ni a beth rydyn ni’n ei wneud. Saif ochr yn ochr ag Arloesedd, Cynaliadwyedd a Chysylltedd fel piler allweddol, yn hysbysu pob polisi ac yn sail i bob prosiect, am bum rheswm da iawn …

1. Mae Gweithluoedd Cynhwysol yn Perfformio’n Well

Mae’r achos moesol dros gynhwysiant yn amlwg, ond felly hefyd yr achos busnes. Ddegawd yn ôl, yn 2012, gwnaeth tîm Bonn o McKinsey & Co brofi am y tro cyntaf erioed y byddai Bwrdd Gweithredol ‘amrywiol’ yn perfformio’n well na thîm ‘llai cynhwysol’ – datblygiad arloesol empirig a ddilynwyd yn gyflym gan astudiaeth fyd-eang gynhwysfawr o’r cwmnïau sy’n perfformio orau yn economïau’r Gorllewin, a gynhaliwyd gan Credit Lyonnais, a oedd yn dangos yn bendant fod mwy o amrywiaeth a chynhwysiant wedi arwain at berfformiad sefydliadol cryfach, wedi’i fesur gan fetrigau allweddol fel allbwn a phris cyfranddaliadau.

 

Mae adroddiadau ac astudiaethau olynol wedi dangos ymhellach fod gweithluoedd cynhwysol yn fwy effeithiol, cynhyrchiol a gwydn – gyda mwy o gapasiti i ddatrys problemau creadigol (yn bennaf oherwydd eu bod yn adlewyrchu safbwyntiau amrywiol y sail gwsmeriaid ehangach) a’r gallu i osgoi peryglon ‘meddwl grŵp‘ mewn oes lle mae llawer o’r hen reolau’n cael eu hailysgrifennu. Gyda’r ‘Ymddiswyddiad Mawr’, prinder sgiliau sy’n dyfnhau a swyddi gwag niferus bellach wedi’u derbyn fel rhan o’r norm newydd, mae’n dda gwybod bod datblygu’r gronfa dalent ehangaf posibl o’r holl gymunedau o ymgeiswyr – ac ailsgilio pobl i fwynhau gwaith mewn sawl sector gwahanol – yn hanfodol ac yn welliant cadarnhaol ar y gorffennol.

 

2. Mae Seilwaith Cynhwysol yn Cysylltu Pobl, Syniadau ac Arloesiadau

Nid yw’n gyd-ddigwyddiad fod agenda ‘Codi’r Gwastad‘ Llywodraeth y DU yn rhoi pwys mawr ar greu isadeiledd ar gyfer yr 21ain ganrif sy’n cysylltu pobl ym mhob cymuned â’r economi wybodaeth ehangach. Dyna, wedi’r cyfan, yw curiad calon y bedwaredd oes ddiwydiannol hon.  Datgelodd adroddiad diweddar gan y Ganolfan Ymchwil Economeg a Busnes (CEBR) y gallai rhwydwaith ffibr llawn cynhwysfawr yng Nghymru alluogi bron 49,000 o bobl i ail-ymuno â’r gweithle yng Nghymru, caniatáu i bron 18,000 o bobl ehangu eu horiau, a helpu gofalwyr, rhieni a phobl dros 65 oed yn sylweddol i gael mynediad at gyflogaeth. Y canlyniad? Ychwanegu gwerth ychwanegol crynswth o £1.3bn at economi Cymru – a rhyddhau potensial nifer dirifedi o bobl yn ein rhanbarth, sy’n amhrisiadwy.

 

 

Ond mae isadeiledd cynhwysol yn fwy na gosod band eang cyflymach, er pa mor bwysig yw hynny. Mae hefyd yn ymwneud â mwynhau system drafnidiaeth integredig sy’n galluogi pawb i fyw eu bywydau – helpu pobl ym mhob cymuned i fynd i’r gwaith, cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu, a chael mynediad at wasanaethau hanfodol fel gofal iechyd ac addysg. Mewn ystyr real iawn, mae isadeiledd cysylltiol yn hanfodol i unrhyw gymdeithas sydd o ddifrif am gynnwys pawb wrth adeiladu ffyniant cynhwysol.

 

3.   Mae Llwybrau Addysg Cynhwysol yn Cyflawni Potensial

Ni fu cyflwyno cyfleoedd dysgu go iawn i bawb, drwy gydol eu hoes, erioed yn bwysicach.  Mae’r trawsnewidiad digidol sy’n digwydd o’n cwmpas yn her ddifrifol ac yn gyfle unigryw – y cyfle i bawb i ddysgu’r sgiliau a fydd yn eu harfogi am oes, gan rymuso pobl o bob cefndir i gymryd lle ystyrlon mewn cymdeithas; gan yn y pen draw alluogi unigolion i gymryd rheolaeth o’u dyfodol a’u lles eu hunain mewn oes o newid cyson.

Ni fu’r angen i wneud hyn erioed yn fwy.  Erbyn hyn mae prinder sgiliau yn y rhan fwyaf o sectorau ledled y DU; gyda chyfraddau cyflogaeth ar eu lefelau uchaf ers bron i 50 mlynedd.  Mae cyflogwyr yn crybwyll ‘diffyg talent’ fel un o’r rhwystrau mwyaf tyngedfennol i dwf – ac wrth i’r symudiad at weithle gwyrddach sy’n cael ei alluogi’n dechnolegol gyflymu, mae’r galwadau am gronfa dalent ehangach, ddyfnach a mwy cynaliadwy yn cryfhau bob dydd.  A all ein system addysg fodloni’r galw hwnnw? Gall – trwy lwybrau addysg cynhwysol sy’n datgloi potensial unigol a chwrdd â gofynion cyflogaeth.

 

4.   Mae Tai Cynhwysol yn Gartref i Gymuned Gynaliadwy

Mae cartref yn llawer mwy na lle mae’r galon.  Gwnaeth Maslow ei gydnabod fel y lle diogel sydd ei angen ar bawb i fod yn nhw eu hunain: gofod lle gall breuddwydion gael eu breuddwydio a lle gall uchelgeisiau dyfu. Felly, mae’n ddifrifol meddwl bod gan dde-ddwyrain Cymru, sy’n gartref i hanner poblogaeth a 50% o economi Cymru, rywfaint o’r stoc dai dlotaf yn y DU – gwaddol o fod yn un o’r rhanbarthau diwydiannol cyntaf yn y byd.

Mae ein rhanbarth angen – ac yn haeddu – y tai cyfforddus, ynni-effeithlon sy’n galluogi pob bod dynol i adeiladu bywyd boddhaus. Mae’n rhan graidd o fod yn falch o bwy ydyn ni ac o le rydyn ni’n dod: ffactor hollbwysig wrth adeiladu cymunedau iach, cynaliadwy sy’n esblygu drwy’r amser lle mae pobl eisiau byw a ffynnu am weddill eu hoes.

5. Mae Diwydiannau Cynhwysol yn Tanio Llwyddiant Economaidd

Mae creu economi fywiog sy’n esblygu’n gadarn ac a all fachu ar gyfleoedd oes newydd yn mynnu poblogaeth sy’n economaidd weithgar, strategaeth ddiwydiannol 4.0 sy’n adlewyrchu realiti’r oes newydd hon – a sail cyflogwyr sy’n ymgysylltu’n frwdfrydig â’r strategaeth. Yn gryno, cyflawnir hyn orau gyda phawb a phopeth yn tynnu i’r un cyfeiriad, er lles pawb.

Yn economaidd, mae angen i dde-ddwyrain Cymru symud yn ei blaen fel un. Y sector cyhoeddus, y sector preifat, y trydydd sector, y pedwerydd sector, sectorau blaenoriaeth, yr economi sylfaenol … mae angen i’n holl dirwedd ddiwydiannol a masnachol gofleidio syniadau ac arloesedd ffres, o sawl cwr gwahanol.

Gyda’n heconomi leol yn cael ei hailsiapio o flaen ein llygaid – mae 2022 eisoes wedi gweld cynnydd o 50% mewn busnesau newydd ar draws ein rhanbarth – nawr yw’r amser i fusnesau mawr a bach elwa ynghyd o arferion gorau a safbwyntiau amrywiol, gan fireinio strategaethau a chynlluniau busnes sy’n cynnwys, yn ymwybodol, bob cynhwysyn sydd ei angen ar gyfer llwyddiant.

 

P-RC yw Cynwysoldeb ar Waith.

Mewn sawl ffordd, mae P-RC ei hun yn enghraifft ryfeddol o sut y gall safbwyntiau amrywiol o dirweddau gwahanol iawn ddod at ei gilydd a rhannu un agenda, er lles pawb.

Mae deg awdurdod unedol sydd â demograffeg amrywiol, daearyddiaeth wahanol a safbwyntiau gwleidyddol amrywiol wedi uno i ddatblygu darlun ehangach lle gall pawb ennill – lle mae’r cyfan yn fwy na swm y cydrannau.

Dyna’r gwahaniaeth cynnil ond pwysig rhwng ‘Amrywiaeth’ – lle rydyn ni’n dathlu dod o Ben-y-bont neu Gaerdydd neu Gasnewydd – a ‘Chynwysoldeb’, lle rydyn ni’n dod at ein gilydd o dan faner ranbarthol, gan rannu gweledigaeth a hunaniaeth sy’n fwy ac yn fwy ystyrlon i fwy o bobl.

Y partneriaethau a’r cydweithrediadau colegaidd cynhwysol, dibynadwy hynny oedd y sbardunau allweddol a ddaeth â datblygiadau arloesol mawr i’r amlwg, fel ein Canolfan Arloesedd Seiber, sydd wedi newid y maes, metro trawsnewidiol de Cymru, ein Cronfa Her chwyldroadol, ein cynllun ynni gwyrdd arloesol yn Aberddawan – a llawer o arloesiadau P-RC eraill sy’n cael eu hysgogi gan gred sylfaenol mewn creu ffyniant cynhwysol ar gyfer de-ddwyrain Cymru: dyfodol lle mae gan bawb gyfran yn ein rhanbarth.

Yn ein herthygl nesaf byddwn yn nodi’n fanwl sut mae’r ysbryd hwnnw o gynhwysiant yn siapio’r dyfodol hwn; a sut mae P-RC yn rhoi sylfeini ar waith i bawb, trwy #CynwysoldebArWaith       

Rhannu:

Newyddion Cysylltiedig

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn parhau i ail-lunio De-ddwyrain Cymru o amgylch y pedwar nod, sef arloesedd, cynaliadwyedd, cynwysoldeb a chysylltedd – gyda phenawdau mis Medi yn cynnwys dyfeisgarwch heb ei ail Space Forge, Ecosystem Hydrogen gyntaf y DU Porth y Gorllewin, Chwarae Teg sy’n dathlu eu haelodau bwrdd newydd a'u digwyddiad Womenspire, a Gwobrau STEM Cymru 2022 sy’n cydnabod y rhai sy'n cysylltu ein rhanbarth fel erioed o'r blaen...

Tanysgrifiad i'r cylchlythyr

Os hoffech dderbyn copïau o'n cylchlythyrau, cwblhewch y ffurflen gyda'ch manylion isod.