Daeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) ag arweinwyr a llunwyr polisi benywaidd dylanwadol ynghyd i archwilio tirwedd entrepreneuriaeth fenywaidd yn Ne-ddwyrain Cymru a’r cynnydd a wneir i alluogi busnesau dan arweiniad menywod i helaethu.
Ac yntau’n cael ei gynhyrchu gan Business News Wales, mae’r podlediad yn cynnwys Cadeirydd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby; Prif Swyddog Gweithredol Mazuma, Lucy Cohen; Cyfarwyddwr Buddsoddi ym Manc Datblygu Cymru, Rhian Elston; a Phrif Swyddog Gweithredol Gwyddorau Data Dynol, Rhiannon Thomason.
Cau’r bwlch rhywedd mewn entrepreneuriaeth
Mae’r podlediad yn archwilio’r rhwystrau hanesyddol y mae arweinwyr benywaidd wedi’u hwynebu i ennill modd o gael at gyfleoedd ariannu a rhwydweithiau entrepreneuraidd. Yn ogystal â syndrom y ffugiwr a mentoriaeth, mae’r podlediad yn adrodd hanesion personol sylfaenwyr benywaidd a adeiladodd fusnesau llwyddiannus yng Nghymru o ganlyniad i gymorth cyllido uniongyrchol ac a dargedwyd.
Mae cau’r bwlch rhywedd mewn busnes yn allweddol i wella’n twf a’n cystadleurwydd – nid yn unig gyda gweddill y Deyrnas Unedig, ond hefyd ar raddfa ryngwladol, daw â buddion cymdeithasol ac economaidd ehangach i’n rhanbarth.
Mae Cymru’n cefnogi merched mewn busnes
Er bod y bwlch rhywedd yn dal i fod yn amlwg iawn, mae Cymru yn arwain y ffordd pan ddaw hi’n fater o gefnogi mentrau dan arweiniad menywod.
Yn ôl Y Mynegai Rhywedd yng Nghymru (2024), mae gan Gymru’r gyfradd uchaf o gwmnïau twf cyflym dan arweiniad menywod a’r gyfradd uchaf o gwmnïau dan arweiniad menywod a sicrhaodd ddyled allanol ledled y Deyrnas Unedig.
Mae’r podlediad yn archwilio ffyrdd trwy’r hyn y gall y tueddiad hwn barhau i dyfu trwy ehangu modd o gael at rwydweithiau entrepreneuraidd a darparu cynghorion i helpu merched i baratoi ar gyfer cyfleoedd buddsoddi a chyllido.
Gwneir cynnydd i feithrin ecosystem busnes lleol cynhwysol lle y gall busnesau dan arweiniad menywod ffynnu. Trwy faethu rhwydwaith busnes sy’n meithrin, mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn galluogi sylfaenwyr benywaidd i nid yn unig gael cyfalaf ond hefyd yr hyder, mentoriaeth a chefnogaeth gan gymheiriaid, sy’n anhepgor i lwyddiant cyfnod hir.
Am ragor o fewnwelediadau a thrafodaeth, gwrandewch ar y podlediad llawn isod: