Mae nodau rhaglen Metro+ Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnwys cysylltu Pencoed yn ei gyfanrwydd drwy gael gwared ar y groesfan reilffordd a chyflwyno pont i gysylltu’r ddwy ran o’r ardal gan greu cymuned fwy cydlynol. Y bwriad yw lleihau tagfeydd, darparu gwell mynediad i’r m4, lleihau amseroedd teithio a gobeithio annog mwy o ddefnydd o lwybrau teithio llesol i helpu i leihau ôl troed carbon ac i wella ansawdd yr aer i drigolion.
Ym Mhorthcawl, bydd y gweithgarwch yn canolbwyntio ar ddatblygu cyfnewidfa’n rhan o uwchgynllun mwy ar gyfer adfywio Porthcawl. Bydd hyn yn cynnwys llwybrau teithio llesol newydd, mannau gwefru cerbydau trydan, mwy o leoedd parcio beiciau a gydag amser wasanaethau bws amlach drwy’r gyfnewidfa.
I gael gwybod mwy, gwnaethom gael sgwrs gyda Hywel Purchase, Swyddog Prosiect Arbennig, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
“Rydym wedi cadw arian grant gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cynllun Metrobus de-ddwyrain Cymru, sydd wedi galluogi cynnydd ar ddau gynllun mawr ym mwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr, sef Pencoed a Phorthcawl.”
“Mae’n ymwneud â chysylltu Pencoed, sydd ar hyn o bryd yn cael ei wahanu gan groesfan reilffordd, yn ei gyfanrwydd a bydd yn annog gwell cysylltedd i drigolion ac i unrhyw un sy’n defnyddio Pencoed ar gyfer busnes.”