Cytunodd Cabinet Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd heddiw (y 7fed o Ragfyr) ar ei fuddsoddiad diweddaraf wrth iddo geisio rhoi hwb i economi de-ddwyrain Cymru yn sgîl haint Covid-19.
Dyfarnwyd £4.4 miliwn i Zip World ar ffurf benthyciad ad-daladwy dros 5 mlynedd i ddyblygu’u busnes anturiaeth llwyddiannus yng Ngogledd Cymru yn safle Pwll Glo’r Tŵr gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Bydd y buddsoddiad hwn yn diogelu ac yn adfywio un o’r safleoedd mwyaf eiconig yn y rhanbarth gan greu buddion economaidd sylweddol ar gyfer y rhanbarth cyfan. Bydd Prosiect Tŵr Zip World yn creu cyrchfan angori i ymwelwyr yn y Ddinas-Ranbarth, ac wrth wneud hynny fe fydd yn cydategu ac yn cefnogi atyniadau rhanbarthol eraill, yn ogystal â chyflenwyr, darparwyr lletyau, caffis a siopau lleol. Ac yntau â’r nod o fod yn gyrchfan o safon fyd-eang, fe fydd Tŵr Zip World yn denu llawer o ymwelwyr newydd i’r rhanbarth, gan ddarparu rheswm nerthol arall eto i ymweld â’r ardal ac i aros ynddi.
Mae yna nifer o atyniadau i dwristiaid eisoes yn yr ardal, yn cynnwys: Distyllfa Penderyn, Canolfan Ymwelwyr Garwnant, Y Bathdy Brenhinol, Parc Cyfarthfa, Parc Beicio Cymru, a’r bwriad yn bendant iawn yw bod Zip World yn gweithio’n agos â’r busnesau hyn, i harneisio nerth eu brandiau hynod lwyddiannus ac a gydnabyddir yn rhyngwladol er mwyn creu cyrchfan drawiadol i ymwelwyr yn y rhanbarth, er budd pawb.
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, aelod o Fwrdd Cabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf:
“Rwyf yn falch dros ben bod Cabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi cymeradwyo’r benthyciad buddsoddi yn Zip World. Mae’r prosiect hwn yn gynllun uchelgeisiol sy’n addo dod â llawer o fuddion i’n sector hamdden a lletygarwch rhanbarthol, sydd wedi dioddef yn ddrwg yn ystod pandemig Covid-19. Mae ganddo’r potensial i ddod ag 1 filiwn yn ychwanegol o ymwelwyr i Dde Cymru dros y 5 mlynedd gyntaf, i ddarparu cyfleoedd am waith cynaliadwy sydd wir eu hangen ar gyfer y cymunedau lleol, ac i ddarparu hwb aruthrol i’r economi rhanbarthol ehangach.”
Dywedodd Sean Taylor, Llywydd a Sylfaenydd Zip World:
”Dyma’n safle cyntaf y tu hwnt i ffiniau Gogledd Cymru ac rydym yn hynod falch ac yn llawn cyffro o ddod â’n math ni o anturiaeth i’r Cymoedd. Mae tirwedd yr ardal a threftadaeth fwyngloddio gyfoethog yr ardal yn cynnig rhywbeth gwirioneddol unigryw i ymwelwyr Zip World a phrofiad i’w gofio gyda theulu a chyfeillion. Rydym yn awyddus i gyfarfod â busnesau lleol, grwpiau ysgol a sefydliadau o’r sector twristiaeth cyn agor yng ngwanwyn 2021 i drafod ffyrdd drwy’r hyn y gallwn gydweithio.”