Datganiad i’r Wasg: Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Llywodraeth Catalonia yn creu cydweithrediad egnïol newydd yn ymwneud ag uwch-dechnoleg

Categorïau:
Datganiad i'r Wasg – Cabinet

Croesawodd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) Asiantaeth Fasnach a Buddsoddi Catalonia i Gaerdydd am ddeuddydd o drafodaethau adeiladol ar gydweithredu masnachol, sy’n canolbwyntio’n neilltuol ar arloesi ac arbenigedd clystyrau, fydd yn arwain at fwy o gyfoeth a chreu swyddi rhanbarthol.

Treuliodd tri uwch-aelod o Asiantaeth Fasnach a Buddsoddi Catalonia (ACCIÓ) ddau ddiwrnod ym mhrifddinas Cymru yn archwilio ffyrdd o gydweithio â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd ynglŷn â datblygu clystyrau, arloesi a throsglwyddo gwybodaeth, gan ganolbwyntio’n neilltuol ar y clystyrau lled-ddargludyddion cyfansawdd a chreadigol.

Croesawyd Oscar Martí, Jesus Buenafuente ac Oriol Vidal Bayés gan Kellie Beirne a Colan Mehaffey, Cyfarwyddwr a Phennaeth Arloesi Digidol Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ôl eu trefn. Yn ychwanegol at raglen lawn o ganfod ffeithiau â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd, gwnaethant hefyd dreulio amser â Llywodraeth Cymru yn archwilio materion o ddiddordeb i’r ddwy ochr.

Mae cydweithredu’n dechrau cyflymu

Mae’r ddau dîm yn awyddus iawn i ddechrau ar drafodaethau cydweithredol ac maent yn trafod y meysydd fydd yn cael eu datblygu mewn amryw o feysydd, yn cynnwys sgiliau a hyfforddiant, cyflogadwyedd, rheoli doniau a ffocws ar osod sylfaen a fframwaith entrepreneuraidd sy’n caniatáu i gwmnïau arbenigol ffynnu. Un o ganlyniadau’r cydweithredu o’r newydd hwn yw’r bwriad i sicrhau y caiff pobl eu hyfforddi i fod yn barod am waith, yn enwedig mewn sectorau penodol, a bydd hyn yn ei dro yn gwneud Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a rhanbarth Catalonia, fel ei gilydd, yn ardaloedd deniadol ar gyfer mewnfuddsoddi.

Clystyrau yw’r allwedd

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar bum prif grŵp o glystyrau, sef technoleg feddygol, technoleg ariannol, seiberddiogelwch, diwydiannau creadigol a lled-ddargludyddion cyfansawdd. Y ddau grŵp diwethaf oedd o ddiddordeb penodol i dîm Masnach a Buddsoddi ACCIÓ-Catalonia, a threfnwyd cyfarfodydd i hwyluso gwell dealltwriaeth o sut y caiff clystyrau eu datblygu a’u meithrin ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae rhanbarth Catalonia eisoes yn adnabyddus am ei arbenigedd mewn clystyrau, a thros y 25 mlynedd diwethaf, mae’i Raglen Glystyrau wedi meithrin 25 o glystyrau sy’n cwmpasu dros 2,300 o gwmnïau sydd â throsiant blynyddol cyfunol o €69 biliwn.

Taith o amgylch CSA Catapult

Aeth tîm Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ag aelodau Masnach a Buddsoddi ACCIÓ-Catalonia am gyfres o gyfarfodydd a thaith o amgylch CSA Catapult, a leolir yn Imperial Park, Casnewydd lle y’u croesawyd gan y Prif Swyddog Gweithredol Martin McHugh a’r Dr Andy Sellars, Cyfarwyddwr Datblygu Strategol. Mae CSA Catapult yn elfen anhepgor o ddiwydiant lled-ddargludyddion cyfansawdd y Deyrnas Unedig ac mae eisoes wedi cymryd rhan mewn dros 25 o brosiectau sy’n gwneud cyfanswm o dros £145 miliwn yn y tair blynedd o’i fodolaeth.

Adnewyddu’r cytundeb a throsglwyddo gwybodaeth

Cytunodd y ddwy ochr fod y berthynas ar seiliau cadarn, ac un o’r elfennau hanfodol fydd y potensial am ‘gytundeb cyfeillgarwch’ rhwng Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Masnach a Buddsoddi ACCIÓ-Catalonia, gyda meysydd ffurfiol diffiniedig o gydweithredu. Mae Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTPs) yn ffordd bosibl o gyfnewid gwybodaeth yn effeithiol, ac mae’r ddwy ochr yn cytuno bod angen ymagwedd hyblyg; bydd hyn yn caniatáu i’r ddwy ochr elwa o rannu gwybodaeth.

 

Dywedodd Kellie Beirne, Cyfarwyddwr Prifddinas-Ranbarth Caerdydd:

“Mae gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd agenda uchelgeisiol i greu dyfodol llewyrchus sydd wedi’i seilio ar gonglfeini Arloesi, Cynaliadwyedd, Cynhwysiant a Chysylltedd. Rydym yn arloesi ar waith mewn sectorau blaenoriaethol a chlystyrau arloesi fydd yn cyflenwi gwerth cynyddol i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd a thu hwnt; mae hyn yn golygu swyddi, uwchsgilio ar gyfer ein poblogaeth leol, mewnfuddsoddi a mwy o lewyrch. Rydym wrth ein bodd o ddechrau gweithio â’n cydweithwyr yn nhîm Masnach a Buddsoddi Llywodraeth Catalonia sydd â chymaint i’w gynnig inni o ran yr wybodaeth sydd ei hangen i wneud hyd yn oed mwy o gynnydd ar ein clystyrau. Yn yr un modd, cynigiwn hefyd y cyfle i Gatalaniaid weithio â’n harbenigwyr yn y sectorau creadigol, seiber, technoleg ariannol, technoleg feddygol a lled-ddargludyddion cyfansawdd. Mae’n bendant yn berthynas sy’n ychwanegu gwerth i’r ddwy ochr.”

Dywedodd y Dr Andy Sellars, Cyfarwyddwr Datblygu Strategol CSA Catapult:

“Roeddem wrth ein bodd o groesawu tîm Masnach a Buddsoddi Llywodraeth Catalonia i’r Catapwlt Cymwysiadau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, gan ddangos sut mae’r Catapwlt yn helpu cwmnïau’r Deyrnas Unedig – o fusnesau sydd newydd eu sefydlu i gwmnïau rhyngwladol – i drosi syniadau yn gynhyrchion masnachol gan ddefnyddio lled-ddargludyddion cyfansawdd. Edrychwn ymlaen at weithio â chwmnïau yng nghlwstwr ffotoneg Catalonia, gan ddatblygu perthnasoedd ar gyfer cydweithredu yn y dyfodol.”

Dywedodd Oscar Marti, Cyfarwyddwr Masnach a Buddsoddi ACCIÓ-Catalonia yn Llundain:

“Mae Catalonia a Chymru yn rhannu buddiannau economaidd mewn sectorau megis gwyddorau bywyd, gweithgynhyrchu uwch, technoleg ariannol a chlyweledol. Roedd gan yr ymweliad hwn â Chaerdydd y diben o ddysgu mwy am gryfderau mawr Cymru yn y meysydd hyn, yn ogystal ag o ddiffinio cyfleoedd pendant ar gyfer cydweithredu rhwng ein dau ranbarth.”

Rhannu:

Newyddion Cysylltiedig

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR), y tîm sydd wedi ymrwymo i ailfywiogi ac ail-lunio de-ddwyrain Cymru, yn symud i ganolfan arloesi sbarc|spark Prifysgol Caerdydd. Mae cenhadaeth CCR i gysylltu pobl, cyfleoedd a buddsoddiadau â’i gilydd yn rhannu uchelgais sbarc|spark i greu partneriaethau fydd yn arwain at fanteision parhaol i Gymru. Canolfan bwrpasol lle mae cydweithio arloesol yn digwydd yw sbarc|spark. Mae sbarc|spark, sef canolfan cwmnïau deillio a busnesau newydd y Brifysgol, sydd hefyd yn gartref i Barc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SBARC) a Cardiff Innovations@sbarc|sbark yn darparu’r seilwaith er mwyn i brosiectau cydweithio lwyddo.

Tanysgrifiad i'r cylchlythyr

Os hoffech dderbyn copïau o'n cylchlythyrau, cwblhewch y ffurflen gyda'ch manylion isod.