Croesawir y cyhoeddiad bod Vishay Intertechnology am gaffael cyfleusterau a gweithrediadau Nexperia (Cyfleuster Saernïo Haenellau Casnewydd gynt) am $177 miliwn gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi cefnogi sefydlu Clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd cyntaf y byd, sydd wedi’i angori gan ei Ffowndri Lled-ddargludyddion Cyfansawdd fawr yng Nghasnewydd ac sydd wedi’i atgyfnerthu gan gydweithrediad CS Connected sy’n rhychwantu partneriaid mewn busnesau, y byd academaidd a’r llywodraeth ac sydd ag enw da yn fyd-eang am ymchwil a datblygu.
Ymatebodd y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd ac Is-gadeirydd Cabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, i’r cyhoeddiad drwy ddweud:
“Dyma newyddion da iawn i weithwyr medrus ac ymroddedig yr hen Gyfleuster Saernïo Haenellau Casnewydd. Mae’r parhad y mae’r cytundeb hwn yn ei roi yn hynod galonogol i economi Casnewydd, i’r Rhanbarth yn fwy cyffredinol ac i’r Deyrnas Unedig drwyddi draw, yn enwedig o ystyried pwysigrwydd hanfodol a chynyddol lled-ddargludyddion yn fyd-eang. Mae Casnewydd yn falch o groesawu Clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd cyntaf y byd, a buddsoddodd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd symiau sylweddol yn y sector hwn. Edrychwn ymlaen at sefydlu cysylltiadau agos â thîm Vishay.”
Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Chadeirydd Cabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd:
“Mae penderfyniad Vishay i fuddsoddi yng Nghyfleuster Saernïo Haenellau Casnewydd i’w groesawu’n fawr, ac mae’n dangos arwydd o hyder enfawr, nid dim ond yn y cwmni gwych hwn ond hefyd yn y Rhanbarth ac yn lles a photensial ei ddyfodol. Cyfleuster Saernïo Haenellau Casnewydd eisoes yw’r gweithgynhyrchydd mwyaf o led-ddargludyddion yn y Deyrnas Unedig, ac rydym yn falch o weld y bydd Vishay yn buddsoddi mewn hyd yn oed mwy o gyfleusterau ac arbenigedd. Mae’r ôl troed byd-eang yn y byd gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion yn ehangu, ac mae’n hanfodol bod De-ddwyrain Cymru yn cadw gafael ar ei le ar flaen y gad.”