Datgloi £134m ar gyfer de-ddwyrain Cymru wrth i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd basio Adolygiad Gateway y DU

Categorïau:

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (PRC) wedi sicrhau cymeradwyaeth ar gyfer ei hail Adolygiad Gateway, gan ryddhau £134 miliwn o gyllid Llywodraeth y DU i gefnogi twf economaidd ledled de-ddwyrain Cymru dros y pum mlynedd nesaf.

Mae’r adolygiad llwyddiannus yn cadarnhau bod PRC wedi bodloni’r gofynion a osodwyd gan Lywodraeth y DU i barhau i gyflawni ei rhaglen fuddsoddi Bargen Ddinesig uchelgeisiol, sy’n cydnabod cynnydd cryf, llywodraethu effeithiol ac effaith economaidd gynyddol ers yr Adolygiad Gateway cyntaf yn 2021.

Sefydlwyd PRC yn 2017 fel partneriaeth o ddeg awdurdod lleol, sy’n gweithio gyda Llywodraethau’r DU a Chymru i gyflawni Bargen Ddinesig gwerth £1.2bn i sbarduno twf economaidd, swyddi a buddsoddiad ledled de-ddwyrain Cymru.

Ers ei Adolygiad Gateway cyntaf yn 2021, mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi cyflymu  graddfa a chyflymder y cyflawni’n sylweddol, gan symud o ddim ond pum buddsoddiad ar adeg yr adolygiad cychwynnol i bortffolio eang o brosiectau sydd bellach ar y gweill.

Amlygwyd ffocws PRC ar sectorau blaenoriaeth fel lled-ddargludyddion cyfansawdd, seiber, technoleg ariannol, diwydiannau creadigol a thechnoleg feddygol fel cryfder allweddol, ochr yn ochr â’i dull buddsoddi arloesol bytholwyrdd, a gynlluniwyd i gynhyrchu enillion economaidd hirdymor a chynaliadwy i’r rhanbarth.

Wrth ddathlu’r llwyddiant, dywedodd Mary Ann Brocklesby, Cadeirydd PRC: “Rydyn ni wedi dod yn bell ers ein Hadolygiad Gateway cyntaf ac rydyn ni’n falch bod yr asesiad annibynnol hwn yn cydnabod effaith buddsoddiadau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

“Rydyn ni wedi helpu i greu a diogelu mwy na 5,000 o swyddi, wedi cefnogi dros 2,700 o bobl i uwchsgilio neu ailsgilio, ac wedi darparu mwy na 83,000 metr sgwâr o ofod datblygu newydd gan hybu buddsoddiad preifat a hyder busnesau ledled de-ddwyrain Cymru.

“Rydyn ni’n falch bod ein buddsoddiadau’n helpu i adeiladu economi ranbarthol fwy gwydn ac yn cynnig buddion parhaol i’n cymunedau.”

Wrth ymateb i ganfyddiadau’r Adolygiad Gateway, dywedodd y Gwir Anrhydeddus Rachel Reeves AS, Canghellor y Trysorlys: “Mae’r cyllid newydd hwn ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ganlyniad uniongyrchol i’r gwaith caled a’r cydweithio sydd eisoes wedi golygu bod bron i 4,000 o swyddi wedi cael eu creu a miloedd o bobl wedi cael cymorth i ailhyfforddi.

“Ein cynllun economaidd ni yw’r cynllun cywir i bobl de-ddwyrain Cymru. Mae’r arian hwn yn golygu mwy o swyddi, hyfforddiant sgiliau a chymorth busnes i bobl ledled y rhanbarth – a fydd yn sicrhau bod ffyniant yn cyrraedd pob rhan o’r DU, nid dim ond rhai rhannau.”

Dywedodd Gweinidog y Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price:

“Llongyfarchiadau i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd ar ganlyniad llwyddiannus eu Hadolygiad Gateway 10 mlynedd. Bydd cam nesaf y Fargen Ddinesig yn cynnig cyfleoedd i gyflawni mwy o brosiectau trawsnewidiol, yn enwedig mewn sectorau blaenoriaeth allweddol fel lled-ddargludyddion cyfansawdd, gyda manteision economaidd eang yn y rhanbarth.

“Fel Llywodraeth newydd Cymru, edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio â PRC a phartneriaid eraill wrth i’r Fargen Ddinesig barhau i wella ffyniant ledled rhanbarth de-ddwyrain Cymru a thu hwnt.”

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrhydeddus Jo Stevens:

“Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud gyrru twf economaidd a chreu swyddi newydd ar gyfer y genhedlaeth nesaf ym mhob rhan o Gymru yn brif flaenoriaeth.

“Mae rhyddhau £134 miliwn i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd yn golygu y gallant adeiladu ar eu llwyddiant, parhau i dyfu sectorau lle mae potensial enfawr ar gyfer twf a helpu i sicrhau dyfodol economaidd de-ddwyrain Cymru.”

Rhannu:




Newyddion Cysylltiedig

Heddiw, cyhoeddodd Partneriaeth Gyfyngedig Cyfalaf Buddsoddi mewn Arloesedd fuddsoddiad yn Coaches’ Voice, y platfform addysg a hyfforddi pêl-droed digidol sy'n tyfu'n gyflym.

Subscribe for updates

Skip to content