Dathlu Diwrnod Cyfeillgarwch y Byd: Blwyddyn gyntaf Prifddinas-Ranbarth Caerdydd o Gysylltu, Herio, Dysgu ac Arloesi yn sbarc

Categorïau:
Arwain Agweddau
Cyffredinol

Bu adeilad sbarc|spark – canolfan arloesi gyntaf yn y byd sy’n gartref i dros 30 o sefydliadau blaenllaw ledled rhanbarth De Cymru – yn gartref i Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ers bron i flwyddyn.

Wrth inni nesáu ar Ddiwrnod Cyfeillgarwch y Byd eleni, rydym yn dathlu ac yn coffáu’r cysylltiadau a’r partneriaethau y mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi’u datblygu yn y flwyddyn gyntaf o’u tenantiaeth a leolir yn Cathays, o bartneriaethau â sefydliadau eraill a leolir yn sbarc … perthnasoedd a naddwyd drwy ddigwyddiadau a gynhaliwyd yn yr adeilad … a mwy.

Cysylltu

Yn y flwyddyn ddiwethaf, datblygodd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd gyfeillgarwch gwaith â llu o sefydliadau a wnaeth hefyd eu cartref o fewn adeilad sbarc.  Gan fod sbarc|spark yn eiddo i, ac yn cael ei weithredu gan Brifysgol Caerdydd, mae’n gwasanaethu (fel mae Rhys Pearce-Palmer, y Rheolwr Gweithrediadau Arloesi, yn ei fynegi) fel math o “ddrws ffrynt i ymgysylltu.”  Yn sicr, agorodd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd y drws hwnnw a chamodd i mewn, gan gofleidio pob cyfle i gysylltu â’r Brifysgol a rhwydwaith sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i Gymru.

Mae rhaglen Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a grëwyd mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, yn enghraifft wych o’r ‘Cysylltu’ hwnnw – yn cynnwys cynhadledd drwy’r dydd o dan y teitl ‘Arloesi dan arweiniad Her: Cyflawni Ar Yr Addewid?’ a gynhaliwyd ar yr 28ain o Fawrth yn sbarc|spark.

Roedd y gynhadledd yn hynod boblogaidd — gyda dros 85 o gyfranogwyr a rhestr aros o dros 40 o bobl — ac a fynychwyd gan lunwyr polisi, academyddion, ac arbenigwyr yn y maes o bob cwr o’r Deyrnas Unedig.  Gyda’i gilydd, gwnaethant drafod yr elfennau o arloesi sy’n canolbwyntio ar her, rhannu dulliau ymarferol o ddatblygu a darparu arloesi, a chwyddo llais y Rhanbarth ymysg prifysgolion ac arloeswyr dylanwadol sy’n cynrychioli pob un o’r pedair cenedl.

Her

Yn ogystal â chyd-gynnal cynhadledd lwyddiannus o’r pedair cenedl, cydweithiodd Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd hefyd i gyflwyno cyfres o weithdai cydweithredol yn ymwneud ag ‘Arloesi i Bawb.’  Ac yntau wedi digwydd ddiwedd 2022, rhoes y gweithdy cyntaf sylw i ‘Yr Her o Brydau Bwyd Ysgol Am Ddim yng Nghymru’, tra bod yr ail wedi trafod ‘Gwreiddio Cydraddoldeb yn y Pontio i Sero Net.’

Gyda’i bencadlys yn sbarc, ac yn ehangu drwy’r gymuned leol i gyd, caiff gwaith Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a’i chymdogion effaith bellgyrhaeddol sy’n ymestyn ar y gorwelion rhyngwladol.  Felly, diolch i raddau mawr i amgylchedd cydweithredol yr adeilad, gallodd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd adeiladu cysylltiadau’n gyson ymhell ac yn agos, fel ei gilydd.   

Dysgu

Mae Heol y Maendy hefyd wedi profi i fod yn ganolfan ragorol i Raddedigion Venture – y rhaglen gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd sydd â’r nod o gysylltu busnesau ledled y rhanbarth â graddedigion dawnus.

Mae sbarc|spark wedi bod yn fan cyfarfod ac yn fan cychwyn ar gyfer ein gwaith gyda Chyflogwyr, Graddedigion, Rhannu Prentisiaethau, Chwarae Teg – a’r Ganolfan Arloesi Seiber, rydym wedi ffurfio partneriaeth â nhw i helpu i ddarparu gwersylloedd hyfforddi bychan o ansawdd uchel gwir ei angen mewn Digidol, Data a Seiber.

“Mae sbarc|spark yn fwy na dim ond gweithle inni,’ medd Rowena O’Sullivan, Rheolwr Sgiliau a Doniau ar gyfer Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.  ‘Mae’n gymuned sy’n ffynnu – canolfan ddigwyddiadau drawiadol, canolfan arloesi ar gyfer rhwydweithio a chyfathrebu, man i dyfu yn ogystal ag i ddysgu. 

 “Ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella’r rhanbarth.  Rydym yn meithrin y sgiliau a’r doniau a all ailfywiogi a thrawsnewid ein cymunedau ledled sectorau blaenoriaethol a’r economi sylfaenol – ac yma yn sbarc, rydym yn gweithio’n ddygn tuag at hynny drwy fagu perthnasoedd â’n cymdogion, drwy feddwl y tu hwnt i’n sefydliad ein hunain a gweld y sefyllfa ehangach sydd yn ein cysylltu ni i gyd.”

Defnyddiodd Venture hefyd yr adeilad yn Cathays fel carreg gamu ar gyfer naddu cysylltiadau â chwmnïau ac unigolion y tu hwnt i sbarc, gan gynnal dau ddigwyddiad arwyddocaol yn yr adeiladau: y digwyddiad Rise & Shine gyda Venture, a Sefydlu Rhaglen Cyflymu Gyrfaoedd Venture i Raddedigion, yn ogystal â recriwtio graddedigion ar gyfer y cwmni Simply Do a leolir yn sbarc a chynnal deialog agored, cydweithredol ag Anabledd Cymru. 

Felly, beth tybed sy’n gwneud yr adeilad hwn yn darddell naturiol o gysylltedd o’r fath?

Arloesi

“Cynlluniwyd sbarc|spark i ddod â phobl ynghyd,” eglura Rhys Pearce-Palmer, “a dyna’n union y mae’n ei wneud!  Mae bod yn agored ac yn gysylltiedig wedi’u gweu i mewn i ddyluniad yr adeilad.  Ond mae yna fwy iddo na phensaernïaeth ddymunol.  Mae yna staff craidd wedi’u gwreiddio yn yr adeilad, sy’n sicrhau bod y bobl gywir yn canfod ei gilydd.  Mae yna lawer o ffurfiau i hyn, o gyflwyniadau syml, digwyddiadau rhwydweithio, ac achlysuron cymdeithasol.

“Nid yw cysylltiadau wedi’u cyfyngu i gymuned yr adeilad yn unig.  Mae Prifysgol Caerdydd yn sefydliad sy’n arwain y byd a chanddi ystod aruthrol o arbenigedd.  Mae bod yn sbarc yn gallo bod yn garreg gamu i gysylltu â’r brifysgol ehangach a phartneriaid a rhwydweithiau’r brifysgol.”

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi, yn y flwyddyn ddiwethaf hon ers ymuno â theulu sbarc, yn sicr wedi defnyddio’r cysylltiadau hynny â Phrifysgol Caerdydd.  O ddatblygu partneriaethau a chydweithrediadau swyddogol, i ddatblygu perthnasoedd gwaith ysbeidiol, cefnogol, mae sbarc wedi galluogi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i blannu’u gwreiddiau o dan bridd sy’n gyfoethog mewn arloesedd a chreadigrwydd – sy’n rhyng-gysylltu’n naturiol ac yn gynhenid mewn ecosystem a gynlluniwyd i arloesi.  

Fel mae Rhys yn ein hatgoffa: “Mae arloesi’n ffynnu pan fo amrywiol ystod o bobl yn cysylltu.  Mewn geiriau eraill, mae ar ymchwil ac arloesi llwyddiannus angen pentref.  A sbarc yw’r pentref hwnnw!  Mewn byr amser, daeth yn fan ar gyfer diwydiant, y sector cyhoeddus, y trydydd sector, ymchwilwyr, llywodraeth, a dinasyddion, i gydgyfeirio.  Ni fu gan Brifysgol Caerdydd, o bosibl rhanbarth Caerdydd, erioed adeilad fel hwn o’r blaen.  Man lle mae’r holl elfennau angenrheidiol i gymell ymchwil ac arloesi yn cyd-fyw – gyda chaffi hyfryd i bawb i gael cysylltu a hel straeon.”

Mae’r fath adeilad unigryw â chysyniad newydd yn sicr yn gartref naturiol i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd – gyda sbarc yn adlewyrchu ac yn hysbysu’r gwaith y mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ymdrechu i’w gyflawni.

“Caiff Ymchwil ac Arloesi fwy o effaith pan fônt yn rhyng-gysylltu â rhanddeiliaid niferus,” medd Rhys.  “Yn ôl y rhesymeg honno, mae’n gwneud perffaith synnwyr cael adeilad lle mae’r rhanddeiliaid hynny’n cyd-fyw ac yn cydweithredu.  Y nod yn y pen draw yw gweld datrysiadau creadigol, yn seiliedig ar dystiolaeth yn cael eu gweithredu yn y byd go iawn, gan wneud newid cadarnhaol i fywydau pobl – yng Nghaerdydd a’r tu hwnt.”

Rhannu:

Newyddion Cysylltiedig

Tanysgrifiad i'r cylchlythyr

Os hoffech dderbyn copïau o'n cylchlythyrau, cwblhewch y ffurflen gyda'ch manylion isod.