Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) yn nodi Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth heddiw, sef 11 Chwefror, i ddwyn sylw at rôl menywod a genethod mewn meysydd gwyddonol.
Ein rhanbarth yw cartref clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf y byd, ym Mharc Imperial, Casnewydd, ac mae’n adnabyddus am ei sylfaen ymchwil wyddonol arloesol sy’n datblygu’r dechnoleg sydd wrth wraidd y rhan fwyaf o gynhyrchion a gwasanaethau uwch-dechnoleg cyfoes, gan gynnwys ffonau clyfar, synwyryddion, a chyfathrebu ffibr-optig.
Fe wnaeth Tracy Sweet, Rheolwr Datblygu Clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, rannu’r canlynol:
“Ar ôl cwblhau fy noethuriaeth mewn Crisialaeth, cefais fy rôl gyntaf fel Peiriannydd Cynhyrchu yn Epitaxial Products International (IQE plc erbyn hyn) – y fenyw gyntaf i fod yn beiriannydd i’r cwmni. Yn 2023, ymunais â CCR i dyfu’r clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd yn Ne-ddwyrain Cymru, gan weithio fel Cyfarwyddwr Anweithredol CSconnected Ltd.
“Ar ôl bron i 30 mlynedd yn y diwydiant STEM, rhaid i ni barhau i weithio i gynyddu cyfran y menywod yn y sector. Dim ond 13% o’r swyddogion gweithredol mewn cwmnïau lled-ddargludyddion cyhoeddus sy’n ferched (GSA: Mynegai Amrywiaeth o ran Rhywedd yn y Diwydiant Lled-ddargludyddion, 2022), sy’n golygu bod meithrin datblygiad eu gyrfa yn allweddol er mwyn cynyddu nifer yr arweinwyr benywaidd yn y diwydiant a chreu delfrydau ymddwyn newydd ar gyfer menywod ifanc sy’n ymuno â’r sector.”
Dywedodd Rachel Morgan, Rheolwr PBIAA Lled-ddargludyddion Cyfansawdd De Cymru:
“Mae menywod yn cynnig cronfa ddoniau werthfawr yn y diwydiant lled-ddargludyddion cyfansawdd, ond dim ond 5% oedd y cynnydd yn nifer y menywod yn ymuno â’r sector rhwng 2019 a 2024, a dim ond 29% o gyfanswm y gweithlu sy’n fenywod, er eu bod yn allweddol er mwyn gallu cau’r bwlch sgiliau a doniau.
“Mae cwmnïau’r clwstwr ymhlith y gweithleoedd gorau i fenywod, ac maent yn cynnig cyfleoedd niferus ym mhob cam gyrfa tra’n ymdrechu’n barhaus i greu amgylchedd cynhwysol ble mae menywod yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cynnwys.”
