Mae ein Cyfres Ddigidol wedi taflu goleuni ar y dimensiynau lluosog sy’n ffurfio parth digidol amrywiol iawn P-RC. Rydyn ni wedi rhoi sylw i llawer o lwyddiannau, mae llawer o heriau wedi’u datgelu – ac mae un peth yn glir. Mae gan dde-ddwyrain Cymru’r sylfaen, y fframwaith, y potensial a’r manteision i adeiladu economi ddigidol sydd â’r gallu i ragori’n genedlaethol a chystadlu’n fyd-eang …
Pweru ein Sectorau Blaenoriaeth
O’n clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd i’r Deallusrwydd Artiffisial sy’n trawsnewid pob menter ledled y rhanbarth, rydym wedi gweld sut mae digidol yn pweru ein Sectorau Blaenoriaeth. Mae’r canlyniadau eisoes yn eithaf syfrdanol, gyda digidol yn gyfrifol am fentrau sydd wir yn newid pethau, megis datblygiadau mawr yn y maes technegol meddygol fel Technoleg Sterileiddio Plasma COVID-19 Creo Medical, yn ogystal ag ennill clod yn y diwydiant technoleg ariannol i Yoello a Fintech Cymru – a gwneud rhaglen Datgarboneiddio Clwstwr Diwydiannol De Cymru yn bosibl, fydd yn arwain ein taith tuag at sero.
Creu Canolfan Ragoriaeth Seiber
Ymhlith ein nodweddion ymgyrchu, rydym wedi dathlu cymwysterau P-RC mewn seiberddiogelwch sy’n galluogi digidol ac sydd ar flaen y gad yn rhyngwladol, lle mae Wolfberry (a bleidleisiwyd yn gwmni Seiberddiogelwch mwyaf arloesol y DU), Alert Logic, Awen Collective a Thales yn amlwg iawn – a lle mae ffigurau allweddol fel yr Athro Pete Burnap o Brifysgol Caerdydd yn datblygu cydweithrediadau Ymchwil a Datblygu Seiber o safon ryngwladol, megis Canolfan Ragoriaeth fyd-eang Airbus mewn Dadansoddeg Seiberddiogelwch, sydd wedi’i lleoli yn y P-RC. Mae’n gyfuniad sydd wedi creu mainc arbrofi seiber unigryw – rhywbeth nad yw hyd yn oed Llundain, Efrog Newydd a San Francisco yn meddu arno – yma yn ein rhanbarth.
Gyrru’r chwyldro data
Ym mhob ystyr y gellir ei ddychmygu, mae digideiddio cynhyrchu, trin a throsglwyddo data wedi newid bron pob agwedd ar ein bywydau, yn enwedig yn y sector cyhoeddus – gyda’n cyfres yn arddangos datblygiadau arloesol sy’n cynnwys cydweithrediad Cynghorau Blaenau Gwent a Thorfaen â Chyngor Castell-nedd Port Talbot ar brosiect arloesol i wella profiad pobl o gael mynediad at wasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion ar-lein, yn ogystal â dathlu gwaith Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn awtomeiddio ceisiadau am brydau ysgol am ddim yn ddigidol, gan arwain at blant ysgol yn gallu mwynhau pryd maethlon ar ddiwrnod eu cais.
Ar lefel fwy macro, fe wnaethon ni hefyd waith cwmpasu ar raglen chwyldroadol GIG Cymru, Gwasanaethau Digidol i Gleifion – y llwyfan mewngofnodi unigol cyntaf yn y byd, fydd yn democrateiddio’r llif gwybodaeth rhwng cleifion a’r ‘System’. Wedi’u datblygu yma yn ne-ddwyrain Cymru, mae arloesi o’r fath yn ysbrydoli P-RC i ymchwilio i’r cysyniad o ganolfan weithrediadau ‘rhanbarth clyfar’ ar gyfer data digidol – gan gyfuno data allweddol o bob rhan o P-RC, i lywio’r broses o wneud penderfyniadau’n well, mesur llwyddiant ein hymyriadau; a’n galluogi’n barhaus i addasu a gwella.
Catalydd ar gyfer cydweithredu
Mae ein cyfres ddigidol hefyd wedi dangos sut mae awydd mawr am gydweithio a chydgynhyrchu wedi sbarduno twf yr economi ddigidol ledled de-ddwyrain Cymru – gan ddangos gallu aruthrol i rannu gwybodaeth, adnoddau a chyfleoedd ledled ein rhanbarth, yn fwyaf trawiadol efallai yn y cymunedau cydweithredol sy’n nodwedd allweddol o lwyddiant busnesau bach a chanolig digidol ledled y P-RC. O’r gymuned hynod a adeiladwyd gan Tramshed Tech, i’r ‘cartrefi’ digidol ysbrydoledig a ddarparwyd gan Barclays Eagle Labs, Gloworks, Hackspace, Meanwhile House, Rabble Studio, Tec Marina, The Arcade Vaults, The Sustainable Studio a Welsh ICE, mae’n galonogol iawn gweld cymunedau cydweithredol P-RC yn tyfu o flwyddyn i flwyddyn, ledled y rhanbarth.
Trawsnewid ein cronfa dalent
Yn fwyaf perthnasol o’r cyfan efallai, rydym wedi manylu ar sut mae ein fframwaith addysgol yn rhoi gobaith mawr i ni o ran meithrin y cyfalaf dynol sydd mor hanfodol ar gyfer dyfodol digidol. Rydym yn byw mewn rhanbarth sy’n rhoi’r un pwyslais i ‘ddigidol’ â llythrennedd a rhifedd – drwy Fframwaith Cymhwysedd Digidol Llywodraeth Cymru (sy’n nodi sut mae cymhwysedd digidol yn cael ei integreiddio i’r cwricwlwm) a Fframwaith Sgiliau ‘Yn Barod am y Dyfodol’ P-RC a fydd yn helpu pawb i ddatblygu eu sgiliau digidol cyn gynted â phosibl, gan adeiladu sylfaen ar gyfer dysgu sgiliau digidol gydol oes.
Mae’r sylfaen eisoes yn gryf. Rydym wedi gweld sut mae pedwar o’r 11 darparwr CyberFirst ‘Aur’ yn y DU yn ysgolion a cholegau yn ein rhanbarth ni, sut mae cydweithio, fel partneriaeth Coleg Seieber Cymru rhwng Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, Coleg Gwent a Phrifysgol De Cymru, yn creu llwybrau newydd i yrfaoedd technoleg ar gyfer cenhedlaeth newydd o ddysgwyr digidol. Rydym hefyd wedi gweld sut mae mentrau dysgu newydd megis y Ganolfan Camfanteisio Digidol Genedlaethol, yr Academi Meddalwedd Genedlaethol a’r athroniaeth ddigidol sy’n canolbwyntio ar bobl a arferir ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd i gyd yn meithrin sgiliau cyflogadwy: galluoedd allweddol fydd yn galluogi ein poblogaeth waith addasu wrth i’n heconomi a’n cymdeithas gynyddol ddigideiddio newid ac ail-lunio.
Fframio ein llwyddiant yn y dyfodol
Yn y pen draw, wrth gwrs, mae’r gyfres hon wedi dangos sut mae ein hecosystem ddigidol eisoes yn cynhyrchu mentrau sy’n perfformio’n wych: o uncornau posibl AMPLYFI a Sonovate, i wasanaethau esblygiad digidol Box UK – a’r tai ôl-gynhyrchu sydd wedi ennill Oscars ac sydd wedi rhoi diwydiannau creadigol P-RC ar flaen y llwyfan, yn arwain Ffilm a Theledu yn fyd-eang.
Wrth i 2021 ddirwyn i ben ac wrth i ni gymryd ein camau nesaf yn y bedwaredd oes ddiwydiannol hon, rydym yn dawel hyderus bod P-RC ar drothwy rhywbeth arbennig – cyfnod wedi ei yrru’n ddigidol sy’n addo ffyniant cynaliadwy a chyfle gwych i’r rhai sy’n gallu arloesi’n barhaus a chyflawni eu gweledigaethau a’u huchelgeisiau digidol yn gyson.
Boed i ni sicrhau ein bod yn manteisio ar y cyfleoedd hynny – ac yn gwireddu’r uchelgeisiau hynny.