Ysgrifennwyd gan: Y Cynghorydd Huw David, Arweinydd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, Aelod o Gabinet Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a Chadeirydd yr Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol.
Un o ddelweddau arhosol cyfyngiadau symud yr haint Covid-19 yw ffyrdd gweigion a strydoedd â neb arnynt. Mae’n ddarlun y bydd newyddiadurwyr a haneswyr mewn blynyddoedd i ddod yn dychwelyd atynt pan fo arnynt eisiau cyfleu effaith y pandemig ar fywyd cyffredin.
Er gwaethaf holl bryder y cyfyngiadau symud, fe ganfu llawer o bobl bleser mewn peidio â gorfod dioddef y straen o gymudo prysur, a gallu croesi’u stryd leol yn ddiogel. Cynyddodd gwerthiant cyfarpar beicio wrth i bobl fynd ar eu beic, ac roedd teuluoedd na wnaeth erioed ganfod yr amser i gerdded yn awr yn gwneud hynny’n ddyddiol. Bwriodd pobl sylw ar mor lân roedd yr aer yn ymddangos, ac ar fod yn gallu clywed yr adar yn canu.
Mewn rhai ffyrdd, fe wnaeth y newid hwn, a orfodwyd arnom yn y ffordd rydym yn teithio, ragweld rhai o’r addasiadau y mae arnom angen eu gwneud wrth inni geisio gwneud ein system drafnidiaeth yn fwy cynaliadwy. Er bod y coronafeirws yn rhywbeth y byddwn, gobeithio, yn ei feistroli cyn bo hir iawn yn y dyfodol, mae argyfwng yr hinsawdd yn mynnu newid mwy parhaol yn ein harferion.
Mae’n rhaid i Adferiad fod yn Adferiad Gwyrdd
Edrychwn ymlaen yn awr at ymadfer o effaith economaidd enfawr y pandemig. Ond mae’n rhaid i’r adferiad hwn fod yn adferiad gwyrdd; nid yw argyfwng yr hinsawdd wedi dod i ben, ac os na fyddwn yn ofalus, fe allem golli peth o’r ychydig amser gwerthfawr sydd gennym i fynd i’r afael â, a lliniaru rhai o’i effeithiau.
Felly, mae arnom angen defnyddio profiad y cyfyngiadau symud i helpu i gyflymu’n symudiad tuag at system drafnidiaeth fwy cynaliadwy. Mae yna berygl gwirioneddol y gallai gael effaith hollol groes. Cwympodd y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yn ystod y pandemig, a chyda hynny, refeniw ein darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus. Fel mae pobl yn dychwelyd i weithio ac i’r siopau, mae yna gyndynrwydd nad yw’n annisgwyl i ddefnyddio trenau a bysiau. Mae’r cerbydau hynny eu hunain wedi gorfod cael eu haddasu i gadw pellter cymdeithasol.
Mae’n rhaid inni ddisgwyl y bydd ar fwy o bobl eisiau defnyddio’u ceir eu hunain, o leiaf yn y byrdymor. Dyna pam mae’n bwysig ein bod yn pwyso ymlaen cyn gyflymed ag y gallwn gyda symudiadau tuag at fwy o ddefnydd o gerbydau trydan ac allyriadau isel. Fel rhan o Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, fe gydnabyddwn fod technoleg trafnidiaeth newydd yn un o’n blaenoriaethau buddsoddi. Bydd y Gronfa Her newydd rydym yn ei sefydlu yn ystyried cerbydau allyriadau isel fel maes i’w archwilio.
Cofleidio Teithio Llesol
Mae’r cynnydd mewn beicio a cherdded yn ystod y cyfyngiadau symud yn cyd-fynd â’r agenda Teithio Llesol y mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol wedi bod yn ei dilyn ers amryw o flynyddoedd. Mae gennym gyfle yn awr i wreiddio’r newid ymddygiad hwn a’i wneud yn barhaol, gyda’r holl fuddion y bydd hynny’n ei roi i les ac i iechyd yr amgylchedd.
Ond mae yna broblemau ymarferol o ran gwneud hynny’n realiti. Nid yw’n trefydd a’n dinasoedd wedi’u cynllunio ar gyfer Teithio Llesol, yn enwedig mewn amgylchiadau cadw pellter cymdeithasol. Wrth i fwy o bobl fynd ati i feicio a cherdded, fe ddaw culni llwybrau troed ac absenoldeb llwybrau beicio digonol yn hollol eglur.
Yn ôl ym mis Mai, fe gyhoeddodd y Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters, y byddai’n rhoi cyllid grant ar gael i awdurdodau lleol ar gyfer mesurau dros dro i wneud trafnidiaeth gynaliadwy a theithio llesol mewn trefydd a dinasoedd yn ddiogelach ac yn fwy deniadol. Gallai hyn gynnwys lledu llwybrau troed, lonydd beicio dros dro, cyfyngiadau cyflymder ar ffyrdd, a mesurau i ymgorffori cadw pellter cymdeithasol yn ddiogel mewn arosfeydd bysiau a gorsafoedd.
Erbyn dechrau mis Mehefin, roedd y 10 awdurdod lleol sy’n ffurfio Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi cyflwyno datganiadau o ddiddordeb am grantiau a wnâi gyfanswm o £26,112,817. Bydd llawer o’r mesurau lleol hyn yn cael eu cyflwyno’n gychwynnol ar sail dros dro neu’n arbrofol, ond lle maent yn effeithiol, fe allant ddod yn barhaol.
Daw’r camau hyn ar ben gwelliannau’n Metro a Mwy, sy’n cynnwys gwelliannau i seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus a chynlluniau parcio a theithio newydd. Mae’r athroniaeth wrth ei wraidd yn hollol gyson. Mae arnom eisiau ei gwneud hi’n haws i bobl deithio o rywle ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd i rywle arall yn y rhanbarth. Ond mae arnom eisiau’i wneud mewn ffordd sy’n diogelu’n hamgylchedd ac sy’n diogelu iechyd a lles ein pobl.
Yn sgîl yr haint Covid-19, mae hynny’n bwysicach nag erioed.