Ein Busnes ni yw helpu Busnes ar draws y Rhanbarth

Categorïau:
Arwain Agweddau

Steve McNally a Suzanne Chesterton yn cyfweld â Nigel Griffiths, Cadeirydd y Cyngor Busnes, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. 

Yr wythnos diwethaf, dywedodd Nigel Griffiths (cadeirydd newydd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd) wrthym am ei daith o bentref glofaol bach yng nghwm Tawe i yrfa fusnes eithriadol sydd wedi ei weld yn datblygu, arwain a rheoli newid mewn sectorau mor amrywiol â Thechnoleg a Darlledu Cyhoeddus. 

Yn ein hail gyfweliad, mae Nigel yn sôn wrthym am yr hyn y mae’n ei gyfrannu at ei rôl newydd yn ei farn e, ynghyd â’i farn ar yr effaith fesuradwy y gall y Cyngor Busnes ei chael ar fusnesau ar draws y rhanbarth ….

“Rwy’n gyffrous iawn am wneud gwahaniaeth ymarferol a chynaliadwy i fusnesau ar draws de-ddwyrain Cymru ac mae ambell beth eisoes yn dechrau dod yn glir ers i mi gael fy mhenodi ym mis Rhagfyr. Y peth cyntaf yw nad ydw i’n anifail corfforaethol sydd yma i ddamcaniaethu – mae fy hygrededd fy hun wedi’i adeiladu ar wella pethau a chyflawni pethau. Rwy’n deall yr heriau sy’n wynebu BBaChau yn arbennig gan fy mod wedi bod yno fy hun droeon. Roedd 2020 yn eithriadol o anodd i lawer o gwmnïau, ond allan o helbul daw cyfle – ac rwyf am helpu busnesau i fachu’r cyfle hwnnw.

“Adeiladu ymhellach ar waith y Cyngor Busnes presennol”

“Mae’n galonogol i fi hefyd ein bod yn gallu adeiladu ar y gwaith sylfaenol a wnaed eisoes gan y Cyngor Busnes a datblygu ymhellach fyth. Mae rhai arweinwyr busnes eithriadol, sydd mewn rolau mawr ar hyn o bryd ac sy’n cynnal busnesau sydd â phroffiliau rhyngwladol a lleol uchel, eisoes wedi cysylltu â mi.  Mae’r rhain yn bobl â bywydau prysur sy’n barod i roi o’u hamser i wneud gwahaniaeth go iawn – ac mae hynny’n dweud wrthyf y gallwn ni ychwanegu ymhellach fyth at y Bwrdd sylweddol hwn sydd gennym eisoes, gan gryfhau ymhellach fyth gyda ffigyrau allweddol y diwydiant o amrywiaeth eang o sectorau, y mae pob un ohonynt am helpu busnesau i lwyddo ar draws y rhanbarth. Rwyf am efelychu’r hyn y mae Frank Holmes wedi’i wneud yn y Portffolio Hwyluso Llywodraeth – bod yn flaengar, gan wella’n barhaus bwrdd arbenigol sy’n gallu siarad ag awdurdod am yr heriau sy’n ein hwynebu a dangos yr hyn a wnawn i gyflawni ein nodau.

“Gweld y bylchau yn yr hyn a wnawn ar hyn o bryd i helpu busnes – a’r hyn y mae gwir angen i ni ei wneud”

“Gan fy mod yn deall yr heriau y mae busnesau’n eu hwynebu, gallaf weld y bylchau yn y ffordd y mae’r sefydliad yng Nghymru yn ceisio helpu busnesau ar hyn o bryd – a’r cymorth ymarferol sydd ei angen arnynt mewn gwirionedd. Rwy’n gwybod o brofiad uniongyrchol hefyd beth sydd angen i lawer o’r busnesau hynny ei wneud i wneud newid sylweddol yn eu perfformiad. Y tu hwnt i hynny, rwyf hefyd yn awyddus i ddefnyddio’r alltudiaeth Gymreig enfawr sydd allan yna. Mae’n debyg bod 10 gwaith yn fwy o bobl fusnes lwyddiannus Cymru yn gweithredu y tu allan yn hytrach na’r tu mewn i Gymru – gadewch i ni ddefnyddio’r holl ddoethineb ychwanegol hwnnw er ein mantais mewn unrhyw ffordd y gallwn.

“Mae’n bryd codi ein huchelgeisiau ein hunain i fod y gorau sydd yna”

“A bod yn onest, rwy’n credu ei bod yn hen bryd i ni godi ein huchelgeisiau ein hunain ar gyfer y Fargen Ddinesig. Beth am anelu’n llawer uwch i wneud yn llawer gwell? Beth am fod y gorau sydd, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol? Rydym bron yn ymddiheuro yng Nghymru am fod yn llwyddiannus. Pan werthais fy musnesau cefais ymateb cwbl wahanol gan fy ffrindiau yn Llundain a’r rhai yng Nghymru – a dywedodd hynny wrthyf fod angen i ni ddechrau credu y gallwn fod yr hyn yr ydym am ei fod, yma yng Nghymru.

Mae angen i ni gredu y gallwn fod yr hyn yr ydym am ei fod yma yng Nghymru

“Mae angen i’r gefnogaeth a gynigiwn fod yn ymarferol ac yn emosiynol yn ogystal ag yn ariannol, yn enwedig gan nad oes gan ein BBaChau a’n entrepreneuriaid amser i feddwl am yr hyn nad ydynt yn ei wybod. Yn y sector gwasanaethau busnes – boed ym maes TG, Recriwtio neu Gyllid Corfforaethol – byddwn yn hyderus y gallaf gynyddu twf unrhyw gwmni gan 25% mewn dwy flynedd, os yw’r farchnad yno. Nid drwy daflu arian ato yn unig mae gwneud hynny. Rydych yn cyflawni hynny drwy daflu mewnwelediadau, sgiliau a methodoleg arno, bod yn uchelgeisiol ac edrych ar y byd yn wahanol.

“Mae’n ymwneud â deall eich marchnad a’r fathemateg y tu ôl i dwf

“Er fy mod yn gyfrifydd hyfforddedig gyda gradd yn y gyfraith, dyn gwerthu a marchnata ydw i yn y bôn – ac i mi mae llwyddiant yn seiliedig ar ddeall y farchnad a’r fathemateg y tu ôl i dwf. Sut ydych chi’n mesur eich perfformiad gwerthu? Beth yw’r Enillion ar Fuddsoddiad ar eich gwariant marchnata? A oes gennych y systemau cywir? Yn aml, gallwch gael cymaint o gymorth ariannol ag y dymunwch, ond ni fydd sicrhau cymorthdaliadau yn creu’r gwerth gwirioneddol yn eich busnes, sy’n dechrau gyda dealltwriaeth o bwy sy’n prynu gennych, beth sy’n eich gwahaniaethu yn y farchnad a ble gall arloesi roi mantais i chi. O ble mae eich arian yn dod? O ble mae eich twf yn dod? O ble y mae’r datblygiad marchnad yn dod? Sut rydych chi’n agor yn Ewrop, yn Asia’r Môr Tawel? Dyma’r cwestiynau y mae angen i’n busnesau fod yn eu gofyn – ac ni fydd unrhyw MBA yn y DU yn rhoi’r atebion i chi.

“Byddai gwneud 500 o BBaChau 25% yn fwy effeithiol yn creu elw ychwanegol o £1 biliwn a 10,000 yn fwy o swyddi”

“Fel enghraifft o’r hyn y gallai’r Cyngor Busnes ei gyflawni, dychmygwch gymryd 500 o BBaChau yn ein rhanbarth a’u gwneud 25% yn fwy effeithiol. Byddai hynny’n creu biliwn o bunnau o elw ychwanegol a 10,000 o swyddi newydd. Dyna’r math o bethau sydd angen digwydd, yn ogystal â’r mewnfuddsoddiad a phopeth arall sy’n rhan o’r strategaeth 20 mlynedd.

“Yr unig reswm rwy’n gwneud hyn yw oherwydd fy mod am i’r rhanbarth fod yn fwy llwyddiannus ar ddiwedd fy nghyfnod nag yr oedd ar y dechrau. Rwy’n gweld ymdrech fawr yn cael ei hanelu at dyfu’r clystyrau a sicrhau’r mewnfuddsoddiad, sy’n wych. Ond beth am y 10,000 o gwmnïau sydd eisoes yma, yn talu treth ac yn cyflogi pobl? Rhaid i ni gael pob cwch yn arnofio. Ac yn fy marn i, dyna yw diben y Cyngor Busnes – cyfrwng credadwy o gyfeiriad cadarnhaol, sy’n rhoi sylw i anghenion niferus ein busnesau; a hefyd system canlyniadau ymarferol y gellir eu mesur, eu profi – ac adeiladu arnyn nhw’n barhaus.

“Rhaid i ni gael pob cwch yn arnofio”

“Sut gall busnesau helpu i gyflawni hynny? Mae’n dechrau gyda chynllun busnes llawn, wedi’i gostio’n briodol, ar gyfer llwyddiant – gan ofyn y cwestiwn mawr: “Sut byddwn yn gwneud hyn?” Ac rwyf hefyd am i bobl greu rhwydwaith cymorth i helpu ei gilydd – rhwydwaith o bobl â meddwl busnes uchelgeisiol a all helpu ei gilydd. Gallwn ddarparu cymorth i wneud i hynny ddigwydd. Rwyf wedi bod yn helpu busnesau i oresgyn newid sefydliadol ers blynyddoedd lawer – o drawsnewid digidol i recriwtio pobl newydd – ac rwyf wedi cael cipolwg gwych ar y daith emosiynol, yn enwedig am roi’r dewrder i bobl lwyddo. Mae ofn llwyddiant yn fwy peryglus nag ofn methu. Mae’r uchelgais ychwanegol hwnnw o 10%-15% yn creu’r elw ychwanegol hwnnw, y gallu hwnnw i ail-fuddsoddi. Mae’r Almaenwyr yn wych ynddo – mae Porsche a BMW yn dal i fod yn eiddo i’r teulu i raddau helaeth am eu bod wedi adeiladu pwerdy ar uchelgais.

“Gadewch i ni ddysgu o’r goreuon ac ymuno â nhw, dathlu ein harwyr busnes a’u helpu i gyflawni llwyddiant gwirioneddol.”

Rhannu:

Newyddion Cysylltiedig

Mae 'Arloesi' yn un o bileri allweddol Prifddinas-ranbarth Caerdydd. Yn ogystal â Chysylltedd, Cynaliadwyedd a Chynhwysiant, mae wrth wraidd popeth a wnawn. Ond beth yw 'Arloesi'? Beth yw ei brif nodweddion? A sut rydym yn cymharu â rhanbarthau a gwledydd eraill fel 'arloeswr'? Mae'r erthygl hon yn archwilio’r darlun mwy o ran arloesi ac yn rhoi persbectif i Brifddinas-ranbarth Caerdydd ei hun #ArloesiArWaith ....

Tanysgrifiad i'r cylchlythyr

Os hoffech dderbyn copïau o'n cylchlythyrau, cwblhewch y ffurflen gyda'ch manylion isod.