Ein Rhanbarth ar Waith

Categorïau:

Mae canol yr haf wedi gweld penawdau crasboeth ym mhob un o bedwar maes nod strategol P-RC sef Arloesi, Cynaliadwyedd, Cynwysoldeb a Chysylltedd, gyda Cufflink yn sicrhau’r brif wobr ar Raglen cyflymu arloesedd Trafnidiaeth Cymru bwysig 12 wythnos….  BIPVco yng Nghasnewydd yn cyhoeddi datblygiad mawr yn y sector allforio gwyrdd …   Sefydliad Bevan yn cyhoeddi adroddiad arloesol ar sicrhau mwy o gynwysoldeb ar gyfer pobl hunangyflogedig … a pherfformiad anhygoel gan Fanc Starling, y mae eu tîm yng Nghaerdydd yn parhau i dorri recordiau wrth gysylltu busnesau a phobl â llwyfan bancio symudol chwyldroadol …

 

ARLOESI

Arloesedd ar flaen y llwyfan wrth i Ddiwrnod Demo Byw Trafnidiaeth Cymru ddychwelyd

Enwyd darparwr diogelwch data personol Cymru, Cufflink, yn enillydd y rhaglen cyflymu arloesedd Trafnidiaeth Cymru a drefnwyd gan Lab ar gyfer Trafnidiaeth Cymru.

Mae’r rhaglen arloesol 12 wythnos, wedi’i datblygu gan Trafnidiaeth Cymru ac Alt Labs, yn gwahodd busnesau newydd o bob cwr o’r DU i ddatblygu syniadau arloesol sy’n gallu trawsnewid trafnidiaeth – gydag Alt Labs yn darparu rhaglen gymorth wedi’i theilwra ar gyfer pob menter newydd: meithrin a hyfforddi pob aelod o’r garfan i greu MVP addas at y diben mewn dim ond 12 wythnos, cyn cyflwyno eu cynnyrch arloesol i banel o arbenigwyr yn y diwydiant mewn arddangosfa ‘Diwrnod Arddangos’.

Roedd thema carfan eleni (Carfan 4) yn canolbwyntio ar her allweddol gwella profiadau defnyddwyr rheilffyrdd – gyda digwyddiad 2022 yn nodi’r Diwrnod Arddangos wyneb yn wyneb cyntaf, yn dilyn llacio cyfyngiadau Covid-19.

Roedd y dathliad hwn o arloesedd yn cynnwys cyflwyniadau gan fusnesau fu’n ymwneud â phob carfan flaenorol, gan gynnwys Briteyellow a PassageWay (Enillwyr Carfan 1), Spatial Cortex  (Enillydd Carfan 2) a RoboK (Enillydd Carfan 3) – ond roedd y prif sylw eleni ar ddyfeisgarwch Cufflink, sy’n gwneud busnesau’n fwy diogel a chydymffurfiol drwy ddosbarthu eu data personol a sensitif trwy fynediad trwyddedig – felly byddant bob amser yn gwybod yn union pwy sy’n cyrchu eu data, o ble ac am ba reswm.

Bydd MVP buddugol Cufflink yn helpu Trafnidiaeth Cymru i ddarparu datrysiad storio a rhannu data cwsmeriaid mwy diogel – gan wneud data cwsmeriaid yn fwy hygyrch, diogel a chydymffurfiol  – ac mae’n enghraifft syfrdanol arall o’r datblygiadau arloesol yn y byd go iawn sy’n helpu sefydliadau fel Trafnidiaeth Cymru i oresgyn heriau a manteisio ar gyfleoedd i ddarparu gwasanaeth gwell, tecach i bobl ein rhanbarth.

 

CYNALIADWYEDD

Busnes o Gasnewydd ar flaen y gad o ran Allforion Gwyrdd

 

Rhoddwyd hwb i Strategaeth Masnach Werdd y DU yn P-RC ym mis Mehefin wrth i’r gwneuthurwr o Gasnewydd BIPVco gyhoeddi datblygiad pwysig a fydd yn helpu i fraenaru’r tir ar gyfer twf yn y sector allforio gwyrdd yng Nghymru.

Mae BIPVco yn cynhyrchu paneli solar hyblyg chwyldroadol y gellir eu hintegreiddio i gerbydau ac adeiladau, gan helpu i leihau allyriadau a defnydd danwydd.

Defnyddiwyd eu paneli wrth gyflawni ‘Adeiladu Actif’ yn India, gan helpu i ddod â thrydan i bentref anghysbell Khudud, tra hefyd yn arddangos sut y gall adeiladau actif gynhyrchu mwy o bŵer nag sydd ei angen arnynt, gyda’r ynni ‘dros ben’ yn cael ei ddefnyddio i helpu i bweru cyfleusterau eraill mewn ardaloedd anghysbell, a allai godi safon byw i filiynau o bobl.

Ar ôl bod yn rhan gymharol fach o’u busnes cyn hyn, mae tîm BIPVco yn rhagweld y bydd allforio gwyrdd yn cyfrif am fwy na hanner eu trosiant yn y blynyddoedd nesaf – gan adeiladu ar eu gwaith sydd eisoes yn cyflenwi cwsmeriaid a phrosiectau yng Nghanada, Ffrainc, yr Almaen, Ghana, Nigeria, Norwy a Saudi Arabia gyda chynlluniau i symud i farchnadoedd cynaliadwyedd Awstralia, y Gwlff ac UDA.

Mae masnach werdd yn ganolog i dyfu economi’r DU, a chyflawni cynlluniau sero net y Llywodraeth, yn ogystal â gyrru ein ffyniant yn y dyfodol drwy gefnogi swyddi a thwf economaidd – ac mae BIPVco yn prysur ddod yn ‘enw’ yn y trawsnewidiad hwn, fel aelod o ymgyrch ‘Gwnaed yn y DU, Gwerthwyd i’r Byd’ Adran Fasnach Ryngwladol y DU, sy’n cynnwys busnesau bach a chanolig rhanbarthol sy’n cael llwyddiant ysgubol wrth dyfu eu busnesau trwy werthu cynnyrch yn rhyngwladol.

Mae Strategaeth Allforio 12 pwynt Llywodraeth y DU, a’i  Gwasanaeth Cymorth Allforio ar ei newydd wedd, wedi’u hanelu at annog busnesau gwyrdd y DU i ehangu i farchnadoedd byd-eang yr amcangyfrifir y byddant yn werth £170 biliwn i Brydain erbyn 2030 – felly mae’n ysbrydoliaeth i weld busnes yn P-RC yn helpu i sbarduno twf cynaliadwy ym mhedwar ban byd, yn ogystal ag yma yng Nghymru.

 

CYNHWYSIANT

Melin drafod dylanwadol yn galw am ‘Fargen Newydd’ i’r hunangyflogedig

Mae Melin drafod cynhwysiant fwyaf dylanwadol Cymru, Sefydliad Bevan ym Merthyr, wedi galw am ‘Fargen Newydd’ i ddod â mwy o sicrwydd ariannol i bobl hunangyflogedig.

Mae hunangyflogaeth wedi cynyddu’n aruthrol yn ystod y deng mlynedd diwethaf ac erbyn hyn yn cyfrif am bron un o bob saith gweithiwr ledled Cymru – gyda 2022 yn gweld 49% anhygoel o’r holl gyfleoedd gwaith newydd yn cael eu creu gan y sector  hunangyflogedig – ac mae’n llwybr sy’n cael ei ffafrio’n arbennig gan bobl sydd â chyfrifoldebau gofalu neu anabledd.

Tra gall gweithio i chi eich hun ddod â llawer o fanteision, mae hefyd yn creu ansicrwydd ariannol a hyd yn oed tlodi i rai pobl – gyda Sefydliad Bevan yn adrodd bod incwm cyfartalog person hunangyflogedig yn llai na thraean incwm gweithiwr cyflogedig; a does dim modd yn aml i bobl hunangyflogedig dderbyn yr help sydd ar gael i weithwyr incwm isel, a does dim cyflog salwch a budd-daliadau nawdd cymdeithasol eraill.

Mae Sefydliad Bevan yn galw ar Llywodraeth Cymru i weithredu, gyda’r felin drafod yn dweud y dylai wneud mwy i gefnogi pobl hunangyflogedig i redeg eu busnes yn well a chynyddu eu hincwm – drwy fentrau allai gynnwys micro-fenthyciadau a hyfforddiant cryno – yn ogystal â chynnig grantiau a lwfansau i bobl ar incwm isel er mwyn sicrhau nad ydynt yn cael eu heithrio oherwydd eu statws cyflogaeth. .

Mae’r adroddiad hwn, y cyntaf o’i fath, hefyd yn awgrymu annog mwy o fodelau cydweithredol a chydfuddiannol fyddai’n galluogi pobl hunangyflogedig i gydweithio wrth werthu eu nwyddau a’u gwasanaethau, gan agor cyfleoedd ehangach a gostwng costau a rhoi mwy o reolaeth i’r hunangyflogedig dros eu materion.

 

 

CYSYLLTEDD

Perfformiad gwych Banc Starling yn cysylltu busnesau a phobl â bancio symudol

Mae’r cwmni gwasanaethau ariannol tarfol sy’n ehangu’n gyflym, Banc Starling, yn parhau i gysylltu busnesau a chwsmeriaid unigol â gwasanaeth bancio symudol ar raddfa anhygoel – gyda mwy o bobl yn symud eu cyfrif iddyn nhw nag unrhyw fanc arall yn y DU dros y pedwar chwarter diwethaf, gan gynnwys 68% mwy o bobl na’r cystadleuydd agosaf, Banc Lloyds.

Yng Nghymru’n unig, mae Starling wedi gweld twf o 41% o flwyddyn i flwyddyn yn nifer y cyfrifon busnes sy’n agor, gan helpu i dyfu eu cyfran o farchnad fancio BBaCh i 7.5% anhygoel mewn pedair blynedd yn unig.

Mae eu ffocws ar gysylltedd symudol wedi galluogi tîm Starling yng Nghaerdydd i greu swyddogaethau newydd, gan gynnwys Rheolwr Biliau, nodwedd sy’n helpu cwsmeriaid i dalu eu biliau’n brydlon, a Kite, app pwrpasol ar gyfer eu gwasanaeth bancio i blant. Starling oedd y cyntaf hefyd i ddarparu terfynau taliadau digyswllt personol mewn ymateb i’r cynnydd yn y terfyn ym mis Hydref y llynedd.

Gyda bron i dair miliwn o gwsmeriaid yn y DU, mae tîm Starling yng Nghaerdydd, gyda’u ffocws ar gysylltedd i gwsmeriaid, wedi tyfu ymhell y tu hwnt i bob disgwyliad.

Ymrwymodd y fenter technoleg ariannol, sy’n debygol o fynd ar Gyfnewidfa Stoc Llundain dros y ddwy flynedd nesaf, i greu 400 o swyddi yn wreiddiol wrth ddatgelu ei fuddsoddiad mewn swyddfeydd yn y brifddinas yn ôl yn 2020.

Mae bellach yn cyflogi 868 o bobl, cynnydd o 117%, yn ei hyb yn Nhŷ Brunel – yn cyflogi pobl o bob rhan o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd a’r tu hwnt mewn swyddi sy’n amrywio o rolau cysylltedd ‘clasurol’ seiber a gwyddor data i swyddi mwy cyffredinol mewn gwasanaeth cwsmeriaid a chyllid.

I wybod mwy am y newyddion a’r datblygiadau diweddaraf mewn Arloesedd, Cynaliadwyedd, Cynwysoldeb a Chysylltedd ledled de-ddwyrain Cymru, ewch i https://www.cardiffcapitalregion.wales/cy/

Rhannu:




Newyddion Cysylltiedig

Subscribe for updates

Skip to content