Ein Rhanbarth ar Waith

Categorïau:

Mae haul Mehefin wedi disgleirio’n llachar ar bob un o bedwar nod strategol CCR, sef Arloesedd, Cynaliadwyedd, Cynwysoldeb a Chysylltedd – gyda chynhadledd MediWales Connects 2022 yn addo rhoi sylw i’r ystod eang o ddatblygiadau arloesol blaenllaw sy’n gwneud Gwyddorau Bywyd Cymru yn dirwedd mor fywiog o arloesedd … Bws Caerdydd yn datgelu bod 36 o gerbydau trydan newydd wedi helpu i arbed 558,000 tunnell o CO2 yn ystod misoedd cyntaf 2022 … dau gwmni adeiladu o dde Cymru yn cael eu cynnwys ar restr fer gwobrau Amrywiaeth a Chynhwysiant WalesOnline am eu gwaith ym maes iechyd meddwl gweithwyr … a Banc Cymunedol Smart Money Cymru yn cyflawni twf o 45% mewn refeniw drwy ddigideiddio …

 

ARLOESI

MediWales Connects yn barod i roi sylw i dirlun arloesedd gwyddorau bywyd cyffrous

Cynhelir cynhadledd MediWales Connects 2022 yng Nghaerdydd ar Fehefin 29ain, gan ddod â chydweithwyr o GIG Cymru a’r diwydiant ehangach ynghyd, i drafod arloesedd clinigol mewn ymarfer.

Bydd y thema eleni, “Arloesi i Gymru iachach” yn archwilio effaith mabwysiadu arloesedd a chydweithio, gan dynnu sylw at sut y gall hyn gyflawni gwell iechyd a lles economaidd i’n cenedl.

Gyda Thechnoleg Feddygol yn tyfu’n drawiadol fel sector blaenoriaeth P-RC, mae’n dda gweld y digwyddiad wyneb-yn-wyneb hwn yn cael ei gefnogi’n frwdfrydig gan yr holl brif randdeiliaid, gan gynnwys Canolfan Gwyddorau Bywyd Cymru a fydd yn cyflwyno ar destun uchelgeisiau diagnosteg canser y dyfodol – gyda’r digwyddiad ehangach yn Mercure Holland House yn addo taflu goleuni ar arloesi blaengar pellach, drwy raglen lawn o gyflwyniadau a gweithdai rhyngweithiol sy’n ymdrin â phynciau fel Gofal sy’n Seiliedig ar Werth, Trawsnewid Digidol a Dylunio Cynnyrch Strategol.  

Disgwylir i dros 400 o gynrychiolwyr fynychu prif gynhadledd sydd eisoes wedi ennill enw da fel llwyfan blaenllaw ar gyfer y gwaith arloesol sy’n cael ei wneud gan gymunedau iechyd a gofal cymdeithasol mewn cydweithrediad â diwydiant ac ymchwil.

 

CYNALIADWYEDD

Bws Caerdydd yn arbed 558,000 o dunelli o CO2 gyda Bysiau Trydan newydd

Mae fflyd o 36 o fysiau trydan a lansiwyd ddechrau’r flwyddyn wedi atal dros 550 tunnell o allyriadau carbon deuocsid rhag mynd i’r atmosffer, medd Bws Caerdydd.

Mae’r gweithredwr bysiau wedi rhyddhau’r ffigyrau cyn Diwrnod Aer Glân, ymgyrch fwyaf y DU yn erbyn llygredd aer, gyda’r nod o annog pobl leol i deithio ar fws a helpu i achub yr amgylchedd.

Ers dechrau ar eu taith ym mis Ionawr, mae’r bysiau unllawr di-allyriadau Yutong E12 nodedig eisoes wedi clocio 714,322 cilomedr wrth eu gwaith – gan helpu gyda ras P-RC i sero drwy atal cyfanswm o 558,000 tunnell o CO2 rhag cael ei ryddhau i’r atmosffer.

Mae’r garreg filltir werdd hon yn gyflawniad sylweddol i Fws Caerdydd wrth iddo ganolbwyntio ar leihau ei allyriadau (a llygredd aer) yn y brifddinas.

Ochr yn ochr â chyflwyno’r cerbydau trydan newydd chwyldroadol, mae’r gweithredwr bysiau wedi ôl-osod 20 o’i fysiau enviro200, o safonau allyriadau Euro V i safonau allyriadau Euro VI – ar hyn o bryd y dechnoleg ddisel lanaf sydd ar gael.

Mae teithio ar fysiau yn un o’r dulliau teithio gwyrddaf, yn cyfrif am ddim ond 6% o allyriadau ar hyn o bryd, o gymharu â cheir sy’n cyfrif am 71% – yn ogystal â chynnig y fantais ychwanegol o leddfu tagfeydd ar adegau prysur, gydag un bws yn cario’r hyn sy’n cyfateb i 30+ o deithwyr car ar y ffordd.

O ystyried y ffeithiau syfrdanol hynny, mae’n dda gwybod, ar ôl 120 mlynedd o wasanaethu’r brifddinas, fod Bws Caerdydd yn parhau i uwchraddio ei dechnoleg injan a chyflymu’r gwaith o drydaneiddio ei fflyd – gan wneud datblygiadau parhaus tuag at fynd i’r afael â llygredd aer yn y ddinas, a darparu opsiwn trafnidiaeth fwy gwyrdd a mwy cynaliadwy ar gyfer Caerdydd.

CYNWYSOLDEB

Sylw i Iechyd Meddwl gweithwyr adeiladu gwrywaidd mewn gwobrau Amrywiaeth a Chynhwysiant blaenllaw

Mae dau gwmni adeiladu o dde Cymru wedi tynnu sylw at y problemau iechyd meddwl pryderus sy’n wynebu gweithwyr gwrywaidd yn y diwydiant – gyda Green Hat Consulting a Whitehead Building Services yn hyrwyddo newid drwy raglenni sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yng ngwobrau Amrywiaeth a Chynhwysiant WalesOnline.

 

Datgelodd ymchwil Sefydliad Siartredig Adeiladu yn 2020 ganlyniadau trychinebus am les meddyliol yn y diwydiant adeiladu, sydd wedi’i ddominyddu gan ddynion – canfuwyd bod gweithwyr adeiladu gwrywaidd deirgwaith yn fwy tebygol o farw drwy hunanladdiad na’r cyfartaledd cenedlaethol, gyda ffigyrau bellach yn awgrymu bod mwy nag un gweithiwr y dydd yn cyflawni hunanladdiad.

 

Gyda sgil-effeithiau’r pandemig ond yn debygol o waethygu’r mater, mae Whitehead Building Services wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Hyrwyddwr, Menter neu Ymgyrch Lles/Iechyd Meddwl y Flwyddyn am sefydlu tîm hyfforddi cymorth cyntaf iechyd meddwl i normaleiddio siarad am iechyd meddwl, dileu unrhyw stigma ac annog gweithwyr i edrych ar iechyd meddwl fel rhan o’u lles cyffredinol.

 

Mae Green Hat Consulting hefyd ar y rhestr fer am gyflwyno strategaeth les cwmni sydd wedi gweld rheolwyr cleientiaid hyd yn oed yn cysylltu â’r cwmni am help i wneud newidiadau yn eu busnes adeiladu eu hunain.

 

Wedi’i chefnogi gan Lywodraeth Cymru, bydd y seremoni wobrwyo yn gweld hyrwyddwyr amrywiaeth yn ymgynnull yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 13 Gorffennaf am noson o ddathlu, gydag enillwyr hefyd yn cael eu cyhoeddi yn y categorïau canlynol:

 

  • Hyrwyddwr, Menter neu Ymgyrch Cydraddoldeb Rhywiol y Flwyddyn
  • Hyrwyddwr, Menter neu Ymgyrch LHDTCRh+ y Flwyddyn
  • Hyrwyddwr, Menter neu Ymgyrch Anabledd y Flwyddyn
  • Hyrwyddwr, Menter neu Ymgyrch Hil ac Ethnigrwydd y Flwyddyn
  • Hyrwyddwr, Menter neu Ymgyrch Symudedd Cymdeithasol y Flwyddyn
  • Menter CCC y Flwyddyn
  • Rhwydwaith Cyfoedion y Flwyddyn
  • Ymgyrch Hysbysebu Cynhwysol y Flwyddyn
  • Menter Amrywiaeth mewn Technoleg y Flwyddyn
  • Busnes Amrywiaeth a Chynhwysiant Arbenigol y Flwyddyn
  • Podlediad Amrywiaeth a Chynhwysiant y Flwyddyn
  • Gwobr Cyfraniad Eithriadol

 

CYSYLLTEDD

Banc Cymunedol Smart Money Cymru yn digideiddio’i ffordd at y twf mwyaf yn ei hanes

Mae Banc Cymunedol Smart Money Cymru wedi cyflawni’r twf mwyaf yn ei hanes yn ystod y pandemig, gydag ymgyrch ddigidol sydd wedi gweld twf o +44% mewn aelodau, cynnydd o +95% mewn benthyciadau sy’n cael eu gwneud, cynnydd o +56% mewn blaendaliadau – a thwf o +45% mewn refeniw.

Mae’r ymchwydd syfrdanol hwn yn ganlyniad uniongyrchol i strategaeth ddigidol yn seiliedig ar Anelu’n Uchel, Gwella ac Addasu a Gweithio Gyda Phartneriaid i Ddod o Hyd i Atebion: gan gynrychioli trawsnewidiad 2-flynedd rhyfeddol ar gyfer undeb credyd cynhwysol a chymdeithas gydfuddiannol a ffurfiwyd yng Nghaerffili ym 1989, a sefydlwyd gan grŵp o wirfoddolwyr lleol sy’n awyddus i annog arbedion o fewn eu cymuned – a benthyg i aelodau sydd fel arfer (ond nid bob amser) yn ei chael hi’n anodd cael cyllid o ffynonellau prif ffrwd fel banciau, cymdeithasau adeiladu a benthycwyr masnachol eraill.

Mae diffyg mynediad at wasanaethau bancio teg a fforddiadwy drwy fenthyciadau wedi cyfrannu’n helaeth at allgáu cymdeithasol yn ein rhanbarth ni ac ar draws y DU – ac mae hynny wedi’i amlygu yma yng Nghymru, lle mae llawer o’n cymunedau wedi’u hallgáu’n gymdeithasol, yn ariannol ac yn ddigidol drwy amddifadedd economaidd, ynysu gwledig a diffyg mynediad at wasanaethau ariannol a digidol.

Mae’r broses ddigido wedi galluogi Smart Money i bontio o weithrediad papur yn 2020 ac ehangu ei wasanaethau a reoleiddir gan yr FCA o gadarnleoedd traddodiadol Caerffili a Blaenau Gwent i ardaloedd eraill o Gymru – trwy gyfrwng model cydweithredol sy’n grymuso cymunedau i gymryd mwy o reolaeth o’u gwasanaethau bancio, ar adeg pan mae’r wlad yn wynebu un o’r heriau economaidd mwyaf a welwyd erioed.

Mae gweledigaeth a gweithredoedd ysbrydoledig Smart Money yn dangos bod pedwar nod strategol P-RC, Arloesedd, Cynaliadwyedd, Cynwysoldeb a Chysylltedd yn hysbysu a chefnogi ei gilydd – gyda’r fenter arloesol hon yn dangos gallu rhagorol i feddwl yn arloesol a chysylltu pobl yn gynhwysol â gwasanaeth bancio cynaliadwy.

 

I ddarganfod mwy am y datblygiadau P-RC diweddaraf ar draws de-ddwyrain Cymru, ewch i www.cardiffcapitalregion.wales/cy/

Rhannu:




Newyddion Cysylltiedig

Subscribe for updates

Skip to content