Ein Rhanbarth Ar Waith – Y diweddaraf mewn Arloesi, Cynaliadwyedd, Cynhwysiant a Chysylltedd

Categorïau:

Gwelodd mis Mai lawer o gamau ysbrydoledig ymlaen, gyda mentrau ein rhanbarth yn datblygu ap chwyldroadol i roi diagnosis o ganser y croen … cymuned yn y Cymoedd sy’n llunio dyfodol coedwig gyhoeddus … gwobrau STEM Cymru sy’n ceisio pontio’r bwlch amrywiaeth … a chlwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cael ei amlygu fel allweddol i strategaeth llywodraeth y DU …

ARLOESI

Mae Prifysgol De Cymru yn datblygu ap chwyldroadol i roi diagnosis o ganser y croen.

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol De Cymru’n (USW) yn gweithio i ddatblygu ap a allai symleiddio diagnosis o ganser y croen yn sylfaenol iawn.

Bydd yr arloesedd newydd chwyldroadol hwn yn rhoi offer hawdd ei ddefnyddio i Feddygon Teulu a all nodi’n gyflym abnormaleddau mewn briwiau ar y croen – a chyflymu rhoi triniaeth.

Gan weithio mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, mae’r tîm ym Mhrifysgol De Cymru wedi bod yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i helpu i ddadansoddi data dienw a gasglwyd oddi wrth gleifion y GIG – gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i ganfod nodweddion penodol unrhyw abnormaleddau, gan alluogi datblygu system newydd fydd yn cynorthwyo Meddygon Teulu i roi diagnosis o friwiau ar y croen.

Unwaith y bydd wedi’i brofi mewn treialon clinigol, bydd yr algorithm deallusrwydd artiffisial hwn, y mae modd ei ddehongli’n llawn, yn dod yn bâr o lygaid ychwanegol i gynorthwyo Meddygon Teulu i wneud asesiad diagnostig – gan helpu i ganfod a thrin canserau ar y croen sydd ar hyn o bryd yn effeithio ar dros 16,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn.  

CYNALIADWYEDD

Mae cymuned Treherbert yn llunio dyfodol coedwig gyhoeddus

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (NRW) yn gweithio gyda Croeso i’n Coedwig, partneriaeth gymunedol yng Nghymoedd De Cymru, ynglŷn â rheoli ardal fawr o goedwigaeth gyhoeddus o amgylch Treherbert yn y dyfodol.

Nod y fenter cyfranogi cymunedol arloesol hon o’r enw Project Skyline yw cynnwys pobl wrth reoli’u tirwedd leol – gan ddarparu lleoedd ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol a diwylliannol, yn ogystal â chreu cyfleoedd am incwm a swyddi.

Mae’r prosiect eisoes wedi cynhyrchu cynllun rheoli coedwigoedd cyfnod hir, “Gweledigaeth Coedwigoedd y Dyfodol / Future Forest Vision”, a gydgynlluniwyd gan bobl Treherbert a Cyfoeth Naturiol Cymru – a hwyluswyd gan Croeso i’n Coedwig a sefydliadau cymunedol eraill er budd y gymuned a’r amgylchedd lleol.

Mae’r glasbrint hwn ar gyfer modelau rheoli cymunedol yn cynnwys darpariaeth hyfforddi ar gyfer pobl i fagu’u sgiliau a’u profiad mewn rheoli coedwig – gan helpu i wneud y mwyaf o adnoddau naturiol gan wella’r economi lleol a sicrhau bod y coetir yn dod hyd yn oed yn well lle i bobl sy’n byw ac yn gweithio yn Nhreherbert neu sy’n ymweld â Threherbert.      

CYNHWYSIANT

Mae Gwobrau STEM Cymru’n ceisio pontio’r bwlch amrywiaeth

Agorodd Gwobrau STEM Cymru ar gyfer ceisiadau y mis hwn – gyda phwyslais ar gydnabod mentrau sy’n rhoi sylw i ‘Y Bwlch Amrywiaeth’ ledled amrywiol ddisgyblaethau STEM.

Mae meithrin mwy o gynhwysiant drwy feysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg i gyd yn llawer mwy na bod ‘yn ddymunol i’w gael’ – gan fod diwydiannau STEM yn sbardunwyr allweddol arloesi, twf economaidd a chynnydd cymdeithasol o fewn ein Rhanbarth a thrwy’r byd.

Mae merched, pobl o liw ac unigolion o gefndiroedd incwm isel yn dal i gael eu cynrychioli’n annigonol iawn mewn gyrfaoedd STEM – ac mae’r gwahaniaeth hwn yn cyfyngu ar botensial llawn arloesedd STEM, oherwydd ei fod yn rhwystr i ddod â gwahanol safbwyntiau i’r maes, ac mae’n rhwystr rhag tyfu cronfa ddoniau sy’n llawer rhy fas.  

Os ydym yn cynyddu lefelau cynhwysiant STEM, byddwn yn gwella lefelau arloesedd STEM – gan ddod â mwy o botensial am ddarganfyddiadau, cynhyrchion a gwasanaethau sy’n torri tir newydd – ac felly rydym yn disgwyl â diddordeb mawr am restrau byrion y categorïau, gyda Gwobrau STEM Cymru yn agored i ymgeisio tan y 7fed o Orffennaf. www.stemawards.wales

CYSYLLTEDD

Cadarnhau bod lled-ddargludyddion cyfansawdd yn allweddol i strategaeth llywodraeth y DU

Gwelodd mis Mai y Prif Weinidog, Rishi Sunak, yn datgan cyhoeddiad Strategaeth Lled-ddargludyddion Cenedlaethol hir ddisgwyliedig Llywodraeth y Deyrnas Unedig – sy’n cydnabod y rhan hanfodol sydd gan glwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd mewn darparu arweinyddiaeth fyd-eang gyfredol a chyfleoedd strategol yn y dyfodol yn y diwydiant gwerth $500 biliwn hwn.   

Noda’r strategaeth sut mae cymuned CSconnected a leolir yn Ne-ddwyrain Cymru yn arwain y ffordd mewn pweru technolegau digidol heddiw ac yfory – trwy led-ddargludyddion cyfansawdd a ganfyddir ym mhopeth, o gerbydau trydan a rhaglenni archwilio’r gofod, i systemau diwifr cyflymder uchel, diogelwch, synhwyro, meddygol, robotig a chyfathrebu optegol. 

Daw Csconnected ag arbenigedd sefydliadau ynghyd, sefydliadau sy’n cynnwys y Cymwysiadau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Catapwlt (CSA), y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, Prifysgolion Caerdydd ac Abertawe, a nifer o gwmnïau sy’n arwain y diwydiant ac a gydnabyddir yn fyd-eang megis IQE ac SPTS Technologies – gan wneud ein Rhanbarth yn ganolfan clwstwr cyntaf yn y byd o alluoedd lled-ddargludyddion cyfansawdd, yn cysylltu a phweru’r ras i sero net a’r bedwaredd oes ddiwydiannol.   

I ganfod mwy o wybodaeth am arloesi, cynaliadwyedd, cynhwysiant a chysylltedd yn Ne-ddwyrain Cymru, ewch i www.cardiffcapitalregion.wales

Rhannu:




Newyddion Cysylltiedig

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) newydd groesawu a chynnal tîm Twf Rhanbarthol Connected Places Catapult yn ei swyddfeydd Sbarc yng Nghaerdydd, gan gryfhau’i phartneriaeth strategol gyda sbardunwr arloesi’r Deyrnas Unedig ar gyfer trafnidiaeth, yr amgylchedd adeiledig, dinasoedd a thwf lleol.  

Subscribe for updates

Skip to content