Ein Rhanbarth ar Waith – Y diweddaraf ym maes Arloesi, Cynaliadwyedd, Cynhwysiant a Chysylltedd

Categorïau:

Efallai ei bod yn fis Gorffennaf, ond does fawr o wyliau i’r sefydliadau a’r unigolion sy’n gwireddu pedwar nod strategol P-RC, sef Arloesi, Cynaliadwyedd, Cynwysoldeb a Chysylltedd.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf bu llwyddiannau rhyfeddol yn y pedwar maes, gan gynnwys Canolfan Ymchwil Drosi Prifysgol Caerdydd yn agor ei drysau i ddatrys rhai o’r heriau masnachol mwyaf dybryd sy’n cael eu hwynebu yn yr ymdrech i gyrraedd sero carbon … Cyngor Caerdydd yn datgelu buddsoddiad mewn ynni gwyrdd gwerth £1.3 miliwn mewn 11 ysgol … ITV Cymru a  Mencap Cymru yn cydweithio i ddymchwel rhwystrau anabledd dysgu yn y diwydiannau creadigol … a’r  Awen Collective yng Nghaerffili’n cyhoeddi datrysiad seiberddiogelwch fydd yn gwella cysylltedd BBaCh yng Nghymru a’r DU yn sylweddol …

 

ARLOESI

Yr Hwb Ymchwil Drosi’n agor fel magned ar gyfer arloesi.

Mae hyb arloesi  Prifysgol Caerdydd sy’n werth miliynau lawer o bunnoedd lle mae diwydiant a gwyddonwyr yn gweithio gyda’i gilydd i oresgyn heriau masnachol a mynd i’r afael â rhai o’r problemau mwyaf dybryd sy’n wynebu’r blaned, ar agor i fusnes.

Yn gartref i ddau sefydliad ymchwil blaenllaw – y Sefydliad ar gyfer Lled-ddargludyddion Cyfansawdd  a Sefydliad Catalyddion Caerdydd  – nod yr Hyb Ymchwil Drosi yw meithrin cydweithio drwy ddod â phartneriaid diwydiannol at ei gilydd gydag ymchwilwyr i ddylunio, datblygu a phrofi cynhyrchion a phrosesau newydd  glanach a gwyrddach.

Wedi’i ariannu gan lywodraethau’r DU a Chymru, yr hyb 129,000 troedfedd sgwâr  yw’r mwyaf o’i fath yng Nghymru – labordai a swyddfeydd pwrpasol, lleoedd cyffredin at ddibenion cydweithio, ystafell lân bwrpasol a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (CDRhE) yn ogystal ag ystafell microsgopeg o’r radd flaenaf.– mae’n adlewyrchu ymrwymiad y DU a Chymru i greu atebion gwyddonol newydd ar y cyd a fydd yn arwain at fyd  Sero Net .

Yn creu  atebion technolegol yng Nghymru i fynd i’r afael â rhai o heriau mwyaf y byd – o ofal iechyd i ynni – bydd yr Hyb yn helpu i sbarduno uchelgeisiau newid hinsawdd ein rhanbarth wrth roi hwb i’n hymdrechion i chwarae ein rhan yn yr ymdrech i sefydlu’r DU fel canolfan Gwyddoniaeth a Thechnoleg flaenllaw, gan ddatblygu arferion a thechnolegau’r ‘genhedlaeth nesaf’ a fydd yn llywio ein bywydau heddiw ac yn gwella ein profiadau yfory.

Mae’r ganolfan ragoriaeth arloesi newydd hon yn rhan annatod o waith uwchraddio campws mwyaf Prifysgol Caerdydd ers cenhedlaeth – gyda’r £45m+ fydd yn cael ei wario yn sicrhau bod yr hyb yn ffurfio rhan o’r  Buddsoddi £600m ehangach yng ngweledigaeth y Brifysgol ar gyfer yr 21ain ganrif – wedi’i chanoli o amgylch adeilad Abacws, Canolfan Bywyd Myfyrwyr a sbarc|spark.

CYNALIADWYEDD

Buddsoddiad gwyrdd gwerth £1.3 miliwn yn ysgolion Caerdydd i leihau’r defnydd o ynni

Mae Cyngor Caerdydd wedi buddsoddi dros £1.3 miliwn mewn gwaith i arbed ynni mewn  11  o’i ysgolion cynradd, uwchradd ac Anghenion Addysgol Arbennig, fel rhan o’i gynllun gweithredu i fod yn garbon niwtral erbyn 2030.

Disgwylir i’r mentrau leihau allyriadau carbon gweithredol y cyngor yn sylweddol, gan hyd at  20% ar yr 11 safle, yn ogystal ag arbed tua  £185,000 y flwyddyn.

Mae ysgolion ymhlith rhai o’r defnyddwyr ynni mwyaf o fewn ystâd Cyngor Caerdydd, felly mae’r uwchraddio hwn i’w technolegau yn gam mawr ymlaen yn  strategaeth lleihau ynni’r cyngor.

Wedi’i chyflwyno drwy fenter gaffael Re:ffit a’i hariannu gan Salix Finance (sefydliad a ariennir gan lywodraeth y DU sy’n darparu benthyciadau di-log i’r sector cyhoeddus ar gyfer prosiectau ynni- effeithlon), mae’r rhaglen wedi arwain at ystod o dechnolegau ynni- effeithlon newydd yn cael eu rhoi mewn ysgolion – gan gynnwys paneli solar, uwchraddio goleuadau LED, dulliau rheoli oergelloedd a rhewgelloedd, inswleiddio falfiau a phibellau, yn ogystal â systemau newydd i reoli adeiladu a defnydd ynni.

Mae’r technolegau newydd yn sicrhau y defnyddir llai o ynni ac y ceir arbedion carbon gweithredol o flwyddyn i flwyddyn dros eu hoes, gyda benthyciad Salix yn cael ei dalu’n ôl dros ddeng mlynedd o’r arbedion a geir ar filiau ynni, gan wneud y cyllid yn hunangynhaliol.

Bydd disgyblion hefyd yn elwa’n addysgol drwy sesiynau ymgysylltu wedi’u cynllunio gydag eco-dimau yr ysgolion – dysgu am y manteision iechyd ac ynni sy’n cael eu cyflwyno gan welliannau fel lefelau goleuo gwell.

CYNHWYSIANT

ITV Cymru a Mencap Cymru i chwalu rhwystrau anabledd dysgu

Mae ITV Cymru a Mencap Cymru wedi lansio partneriaeth arloesol newydd i helpu diddymu rhwystrau i bobl anabl sydd am weithio yn y Diwydiant Teledu a Darlledu.

Trwy gydweithio, nod y ddau sefydliad yw codi ymwybyddiaeth ymhlith cyflogwyr i sicrhau bod pobl ag anabledd dysgu yn cael mwy o fynediad at gyfleoedd cyflogaeth yn y diwydiant cyfryngau sy’n tyfu’n gyflym yng Nghymru – sector sy’n chwarae rhan mor amlwg yn ein diwydiannau creadigol hynod lwyddiannus (un o bum prif Sector y P-RC).

Yn rhan o Wythnos Anabledd Dysgu 2022, cynhaliwyd digwyddiad lansio arbennig yn y Senedd ar 21 Mehefin, gan ddod â gweithwyr Mencap Cymru ac ITV Cymru ynghyd, yn ogystal â phobl ag anableddau dysgu sy’n derbyn cefnogaeth gan Mencap, i ddathlu partneriaeth newydd fydd yn canolbwyntio ar sicrhau cyfle cyfartal i lwyddo yn y diwydiant creadigol sydd werth cymaint.

Mae’n wych gweld y gynghrair newydd hon yn ysgogi cynwysoldeb mewn sector sy’n gweithio’n galed i ddileu’r syniad ei bod yn ‘allgau’ rhai pobl.  Mae’r bartneriaeth eisoes yn bwrw ymlaen ac yn cael effaith eang, gydag ITV Cymru yn ddiweddar yn cynnal cyfres o ddyddiau hyfforddiant cyfryngau i bobl sy’n cael eu cefnogi gan Mencap Cymru, y mae gan bob un ohonynt anabledd dysgu – gyda’r dyddiau hyfforddi hynod ymarferol hyn yn rhoi cipolwg tu ôl i’r llenni ar yr hyn sy’n digwydd yn ystafell newyddion  ITV Cymru Wales , gan gynnig cynnig profiad go iawn yn cyflwyno bwletinau tywydd a newyddion ar gamera.

 

CYSYLLTEDD

Awen mewn partneriaeth â Siemens i gynnig atebion seiberddiogelwch fforddiadwy i BBaChau

Mae cwmni meddalwedd seiberddiogelwch yng Nghaerffili Awen Collective wedi mynd i bartneriaeth gyda’r cawr electroneg byd-eang Siemens i ddatblygu ateb diogelwch newydd, hygyrch a fforddiadwy ar gyfer busnesau bach a chanolig.

Gobaith y bartneriaeth yw gosod y sylfeini ar gyfer cyflwyno’r dechnoleg ledled Cymru ac yna’r DU – gan ddarparu diogelwch y mae mawr ei angen ar gyfer y dechnoleg weithredol sydd ei hangen ar bob busnes i dyfu a llwyddo.

Mae tua  hanner busnesau bach (48%) a chwech o bob deg busnes maint canolig (59%) yn dweud bod rhyw fath o doriad neu ymosodiad seiber wedi effeithio arnyn nhw yn ystod y 12 mis diwethaf.

Mae digidoli – a’r rhwydweithio cynyddol rhwng peiriannau a systemau diwydiannol – hefyd yn arwain at fwy o risg o ymosodiad seiber ar dechnoleg weithredol cwmni, gyda lefelau uwch o seiberdroseddu yn cael eu hadrodd bob dydd gan fusnesau’r DU.

Er hyn, mae llawer o fusnesau bach a chanolig heb flaenoriaethu cefnogaeth seiberddiogelwch neu’n teimlo eu bod yn methu fforddio gwneud hynny.

Mae partneriaeth Awen gyda Siemens yn galluogi BBaCh i ymuno â system ddiogelwch wedi’i rheoli, gan ddiogelu unrhyw dechnoleg rhwydwaith sy’n gysylltiedig â’r rhyngrwyd, gyda phrisiau’n dechrau o £10,000 – o’i gymharu â’r cannoedd o filoedd o bunnoedd sydd fel arfer yn gysylltiedig â sefydlu a chynnal canolfan gweithrediadau diogelwch cadarn.

Mae’r ateb wedi’i adeiladu ar feddalwedd Dot Awen sy’n perfformio camau Canfod Asedau a Bregusrwydd technoleg weithredol yn amrywio o beiriannau coffi i robotiaid diwydiannol mawr, gan gynnwys systemau ICS, SCADA a IIoT.

Gyda seiberddiogelwch wrth galon y trawsnewid digidol, mae’n wych iawn gweld aelod allweddol o glwstwr seiber P-RC yn creu cynnig unigryw fydd yn grymuso economi busnesau bach a chanolig i ymgorffori seiber-wydnwch, datblygu eu gwybodaeth am effaith ar fusnesau, a chyfrannu’n sylweddol at wella seiberaeddfedrwydd diwydiant yng Nghymru a’r DU yn gyffredinol.

 

Mae mwy am y datblygiadau mawr sy’n trawsnewid ein rhanbarth drwy Arloesedd, Cynaliadwyedd, Cynwysoldeb a Chysylltedd – yn: www.cardiffcapitalregion.wales

Rhannu:




Newyddion Cysylltiedig

Subscribe for updates

Skip to content