Mae canol y flwyddyn wedi bod yn ferw o weithgaredd o ran pedair nod strategol P-RC sef Arloesedd Cynaliadwyedd, Cynwysoldeb a Chysylltedd.
Ymhlith y penawdau niferus, mae’r arloeswr technoleg ariannol Sonovate wedi cyflwyno llwyfan arloesol mawr i wella ei wasanaethau arian ac mae wedi trechu £3 biliwn o ran y cyllid mae’n ei wasanaethu … Mae Partneriaeth Her Bwyd newydd P-RC wedi agor ar gyfer mentrau a phartneriaethau i ddatrys dwy her fwyd hanfodol fydd yn wynebu cenedlaethau’r dyfodol yn ein rhanbarth … Mae Cymdeithas Adeiladu’r Principality wedi cael ei henwi’n Rhif 1 o blith Gweithluoedd Gorau’r DU ar gyfer Menywod … ac mae Technology Connected wedi cyhoeddi y bydd Wythnos Dechnoleg Cymru yn dychwelyd fel digwyddiad hybrid, gan asio cysylltedd technoleg â phŵer pobl, gan alluogi meddyliau technolegol ac arweinwyr busnes i ymgysylltu a gwneud busnes …
ARLOESI
Yr arloeswyr Technoleg Ariannol Sonovate yn lansio platfform byd-eang newydd i wella eu cynnig cyllid
Mae Sonovate – y cwmni technoleg ariannol o Gaerdydd sy’n darparu ystod o wasanaethau arloesol i helpu busnesau recriwtio i ymgysylltu â chontractwyr a gweithwyr llawrydd – wedi lansio nodwedd API-yn-gyntaf wedi’i seilio yn y cwmwl i gefnogi’r nifer cynyddol o gwsmeriaid menter, gan felly gyfoethogi cynnig cyllid sydd eisoes yn newid y ffordd mae busnesau a phobl yn gweithio ledled y byd.
Daw lansiad y platfform newydd wedi cyfnod o fuddsoddiad technoleg sylweddol yn Sonovate, wedi’i fywiogi gan berfformiad ariannol a gweithredol cyson gadarnhaol sydd wedi gweld Sonovate yn cyllido cyfanswm o £700m mewn trafodion yn 2021 – cynnydd o 58% ar gyfanswm cyllid 2020 oedd yn £444m.
Bydd y llwyfan anfonebu ar gyfer mentrau newydd yn darparu penderfyniadau ariannu’n syth a therfynau credyd, yn rheoli rhag-daliadau a chyfleusterau, mwy o awtomeiddio ac adrodd gwell, a bydd hyn ôl yn caniatáu iddo wasanaethu hyd yn oed mwy o fusnesau.
Mae’r platfform hefyd yn gwella profiad defnyddwyr a pha mor hwylus fydd defnyddio nifer o wasanaethau Sonovate, gan helpu i gyflawni mwy o effeithlonrwydd a chynhyrchiant trwy ar-fyrddio’n gyflymach, teclyn dewin newydd sy’n cefnogi prosesau cydymffurfio cwsmeriaid, gwell cysylltedd sy’n cynnig mwy o amlygrwydd ar draws systemau – a ffordd fwy hyblyg o dynnu arian, i helpu cwsmeriaid i gael cyllid fel pan fydd ei angen arnynt.
Gyda sawl un yn meddwl mai Sonovate fydd ‘ungorn technegol cyntaf Cymru, gyda darogan y bydd cyfanswm eu cyllid yn cyrraedd £3 biliwn yr haf hwn, mae arloesedd parhaus Sonovate wedi eu gweld yn ar-fyrddio dros 500 o gleientiaid newydd ers dechrau 2020 – gyda 30,000 o weithwyr llawrydd, contractwyr a gweithwyr gig mewn dros 40 o wledydd nawr yn derbyn taliadau gan dros 3,500 o fusnesau sy’n cael eu hariannu gan Sonovate.
CYNALIADWYEDD
Her Bwyd Cynaliadwy gwerth £2.6 miliwn i ddod â gwelliannau o ran cynhyrchu a chyflenwi bwyd lleol
Mae her gwerth £2.6 miliwn i annog arloesi wrth gynhyrchu a chyflenwi bwyd lleol wedi’i lansio yn ne-ddwyrain Cymru.
Nod y prosiect arloesol, sy’n bartneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd, Cyngor Sir Fynwy, Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Llywodraeth Cymru, a Chanolfan Ragoriaeth MYBB (Menter Ymchwil Busnesau Bach), yw adnabod a chefnogi prosiectau a all harneisio potensial tir, technoleg a phobl i gynyddu cynhyrchiant a chyflenwad cynaliadwy o fwyd lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Mae’r Bartneriaeth Her Bwyd yn agored i unrhyw fenter neu bartneriaeth a all ddangos yn glir yr arloesedd a’r gallu i ddatrys dau fater sylfaenol:
- Sut i gynyddu’r gwaith o gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy yn y rhanbarth a chreu effeithiau economaidd, cymdeithasol a llywodraethol cadarnhaol.
- Sut i gyflenwi bwyd maethlon, wedi’i dyfu’n lleol wrth sicrhau pris teg i gynhyrchwyr a lles cenedlaethau’r dyfodol.
Dyma adeg berffaith ar gyfer y prosiect hwn a gychwynnwyd gan P-RC, wrth i’r newid yn yr hinsawdd, colli bioamrywiaeth, yr argyfwng costau byw, afiechydon sy’n gysylltiedig â deiet, Brexit a gwrthdaro Wcráin i gyd yn tynnu sylw at y ffaith bod y ffordd rydym yn cynhyrchu, cyflenwi a bwyta bwyd yma ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn mynd i chwarae rhan fawr yn ein cynaliadwyedd yn y dyfodol.
Mae’r Her yn gyfle nodedig i helpu hwyluso newid i system fwyd all ddarparu bwyd diogel, fforddiadwy ac iach tra’n lleihau effeithiau amgylcheddol negyddol ar yr un pryd – ac mae’n agored i unrhyw fenter neu bartneriaeth gyda’r dyfeisgarwch a’r arbenigedd i wir wneud gwahaniaeth mewn cyflenwadau bwyd lleol am genedlaethau, gyda chyfranogwyr posibl yn cael eu gwahodd i gofrestru eu diddordeb yn https://sdi.click/spsf
CYNHWYSIANT
Enwi Cymdeithas Adeiladu’r Principality yn Rhif 1 yn y UK’s Best Workplaces™ ar gyfer Menywod
Mae Cymdeithas Adeiladu’r Principality wedi cyrraedd y brig o ran Gweithleoedd gorau yn y DU i Fenywod ar gyfer 2022.
Mae’r wobr nodedig hon yn bluen arall yn het gynhwysol gymdeithas gydfuddiannol fwyaf blaenllaw Cymru – a sicrhaodd y 9fed safle ar gyfer Gweithleoedd Gorau (Sefydliadau Mawr Iawn) tablau Great Place to Work 2022, ochr yn ochr â’u 8fed safle’n gorffen yn rhestr y Gweithleoedd Gorau ar gyfer Lles (Sefydliadau Mawr Iawn) 2022, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror.
Mae’r safle yn cael ei ennill drwy’r adborth a’r sylwadau a rannwyd yn ddienw gan weithwyr benywaidd y Principality yn y Arolwg Great Place to Work – gyda chyflawniadau nodedig y Gymdeithas Adeiladu’n cynnwys polisi gweithio hyblyg sydd ar gael o’r diwrnod cyntaf un, gweithio cwbl hybrid i bawb, polisi sy’n galluogi absenoldeb ychwanegol i ddibynyddion, torri tir newydd gyda pholisi menopos a datblygiad Rhwydwaith GROW i eiriol dros fenywod yn y gweithle.
Ar ben canfyddiadau’r arolwg a’r wobr hynod deilwng, mae’n nodedig bod y Principality yn un o’r cymdeithasau adeiladu cyntaf i gael Prif Swyddog Gweithredol a Chadeirydd y Bwrdd ill dwy’n fenywod, gyda chynrychiolaeth benywaidd ar y pwyllgor gwaith wedi codi o 25% yn 2016 i 43% yn 2022 – mewn busnes sy’n prysur ddod yn esiampl o gynwysoldeb, gan adlewyrchu’n ymwybodol amrywiaeth ei haelodaeth a’i gymdeithas yn gyffredinol.
CYSYLLTEDD
Technology Connected yn cyhoeddi Wythnos Technoleg Cymru gyda fformat hybrid newydd
Mae Technology Connected wedi cyhoeddi y bydd Wythnos Dechnoleg Cymru yn dychwelyd, fydd am y tro cyntaf yn un wyneb yn wyneb hybrid, rhwng 20-23 Mawrth 2023, yn yr ICC.
Fel uwchgynhadledd ryngwladol sy’n galluogi meddyliau technoleg ac arweinwyr busnes pennaf y byd i ymgysylltu, dysgu a gwneud busnes mae Wythnos Dechnoleg Cymru wedi bod yn ŵyl rithwir hynod lwyddiannus o’r blaen, gan gysylltu â chymunedau technoleg allweddol mewn 57 o wledydd – ac nawr mae’r digwyddiad hollbwysig hwn yn mynd i gynnig y gorau o ddau fyd, gan asio cysylltedd technoleg â phŵer pobl
Cafodd yr Wythnos Dechnoleg ei chreu yng Nghaerdydd gan y sefydliad nid er elw Technology Connected, a sefydlwyd i chwyddo proffil diwydiant technoleg sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru. yn ddomestig ac yn rhyngwladol – gan arddangos technoleg Gymreig, hyrwyddo ein diwydiannau technoleg ar lwyfan byd-eang a hyrwyddo Cymru fel canolfan o arbenigedd technoleg.
Gyda chenhadaeth i fod yn gynhwysol, yn ysbrydoledig, yn addysgiadol ac yn hynod ryngweithiol, bydd Wythnos Dechnoleg Cymru 2023 yn dod â’r ecosystem dechnoleg at ei gilydd mewn tri diwrnod llawn, gan roi sylw i’n rhanbarth a Chymru fel lle gwych i ddechrau, tyfu a chynyddu graddfa technoleg.
Gan ddechrau gydag Uwchgynhadledd Dechnoleg ryngwladol ddeuddydd i’r diwydiant gysylltu a chydweithio, bydd y digwyddiad Talent4Tech cyntaf erioed yn cael ei gynnal ar y trydydd diwrnod, gyda’r nod o ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o dalent dechnoleg – o brentisiaid a graddedigion i bobl sy’n ceisio uwchsgilio neu ailsgilio – gan ysbrydoli a chefnogi eu taith a’u helpu i ddod o hyd i’w lle yn nhirwedd technegol y rhanbarth.
Mae mwy am y datblygiadau mawr sy’n trawsnewid ein rhanbarth drwy Arloesedd, Cynaliadwyedd, Cynwysoldeb a Chysylltedd – yn: www.cardiffcapitalregion.wales