Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn parhau i ail-lunio De-ddwyrain Cymru o amgylch y pedwar nod, sef arloesedd, cynaliadwyedd, cynwysoldeb a chysylltedd – gyda phenawdau mis Medi yn cynnwys dyfeisgarwch heb ei ail Space Forge, Ecosystem Hydrogen gyntaf y DU Porth y Gorllewin, Chwarae Teg sy’n dathlu eu haelodau bwrdd newydd a’u digwyddiad Womenspire, a Gwobrau STEM Cymru 2022 sy’n cydnabod y rhai sy’n cysylltu ein rhanbarth fel erioed o’r blaen…
ARLOESEDD
Space Forge wedi’i enwebu ar gyfer Cwmni Mwyaf Arloesol y Flwyddyn gan yr IET
Mae Space Forge – y cwmni sydd wrthi’n tyfu sy’n trawsnewid ‘dychwelyd o’r gofod’ i greu cynnyrch chwyldroadol er budd y ddynoliaeth – wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Cwmni Mwyaf Arloesol y Flwyddyn yng ngwobrau’r IET (y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg).
Fe’i sefydlwyd yn 2018 ac mae’n deillio o’r CSA Catapult, mae’r fenter ryfeddol hon yn ceisio arwain y chwyldro diwydiannol glân drwy harneisio potensial y gofod – gan ddatblygu lloerennau defnydd amldro llwyr a all weithgynhyrchu’r genhedlaeth nesaf o uwch ddeunyddiau mewn orbit, i ddychwelyd i’r Ddaear.
Mae gwobrau’r IET yn dathlu’r Arloesedd peirianneg diweddaraf ledled y byd, felly mae’r enwebiad mawr ei bri hwn yn anrhydedd mawr ynddo’i hun, sy’n cynrychioli ardystiad gwirioneddol o gred Space Forge nad yw’r chwyldro diwydiannol nesaf ar y ddaear – ac yn rhoi llwyfan byd-eang i’w botensial fel catalydd ar gyfer naid cwantwm wrth weithgynhyrchu deunyddiau, ar gyfer sectorau sy’n cynnwys aloiau, offer electronig a chynhyrchion fferyllol.
Mae’r gydnabyddiaeth yn sicr yn haeddiannol iawn. Mae cyfleuster gweithgynhyrchu lloeren 7,500 troedfedd sgwâr Space Forge yn Tredelerch, Caerdydd yn cyflogi 40 o gydweithwyr amser llawn ac mae eisoes wedi sicrhau contract gwerth €2 miliwn gan Asiantaeth Ofod Ewrop (ESA) ar gyfer gwasanaeth cludo gofod masnachol fel rhan o raglen Boost! ESA.
CYNALIADWYEDD
De Cymru a De-orllewin Lloegr i ddod yn Ecosystem Hydrogen cyntaf y DU
Mae De-orllewin Lloegr a De Cymru ar y trywydd i fod yn Ecosystem Hydrogen gyntaf y DU, gan arwain datblygiad ynni carbon isel er mwyn helpu i gyrraedd nodau sero net.
Mae Partneriaeth Porth y Gorllewin, sy’n cynnwys Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi datgelu gweledigaeth newydd i hybu datblygiad yr ecosystem ynni gwyrdd hon, gyda busnesau, awdurdodau lleol a phrifysgolion yn cydweithio i rannu arbenigedd ac atebion.
Ynghyd â’r weledigaeth mae map ar-lein rhyngweithiol newydd sbon sy’n tynnu sylw at yr ystod eang o sefydliadau sydd eisoes yn gweithio ar ystod o wahanol ddefnyddiau posibl ar gyfer y ffynhonnell ynni newydd hollbwysig hon – gan atgyfnerthu hygrededd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Phorth y Gorllewin fel ysgogwyr datgarboneiddio allweddol.
Mae’r bartneriaeth draws-ranbarthol hon yn canlyn uchelgais eang i adeiladu UwchGlwstwr Ynni Gwyrdd a all helpu i gynhyrchu £34 biliwn i economi’r DU erbyn 2030 – gan ddefnyddio cydweithrediadau trawsffiniol i gymunedau godi’r gwastad yn ogystal â dod yn ganolfan y DU ar gyfer ffynhonnell ynni carbon isel (wrth i hydrogen gael ei dreialu ar hyn o bryd i bweru anghenion trafnidiaeth, dosbarthu a chludo, yn ogystal â gwresogi ein cartrefi a datgarboneiddio ein diwydiant).
CYNWYSOLDEB
Chwarae Teg yn croesawu aelodau newydd i’r bwrdd – ac yn dathlu Gwobrau Womenspire 2022
Mae Chwarae Teg, yr elusen o Gaerdydd sy’n arwain yr ymgyrch tuag at Gymru gyfartal rhwng y rhywiau, wedi croesawu pum aelod newydd i’w Bwrdd Ymddiriedolwyr – ac mae pob un o’r cyfarwyddwyr anweithredol newydd yn dod â llu o wybodaeth draws-sector a phrofiad amrywiol i sefydliad sy’n dathlu ei ben-blwydd yn 30 oed eleni.
Y pum aelod newydd yw Carol Adams, rheolwr Menter Gymdeithasol RCMA a sylfaenydd Food! Sustainable Livelihoods, Health & Communities; Matt Davies, Prif Swyddog Pobl Grŵp Targed, cwmni Technoleg Ariannol o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd; Kathryn Llewellyn, sydd wedi bod yn gweithio ar lefelau uwch ym maes datblygu byd-eang ers 20 mlynedd, ac yn fwyaf diweddar fel Prif Swyddog Gweithredol United Purpose; Stewart Odwadally, Trefnydd Cymunedol a Swyddog Cyfryngau yn y Senedd; a Georgina Voogd, Rheolwr Ymgysylltu Amrywiaeth a Chynhwysiant yn Eversheds Sutherland.
Mae’r penodiadau’n adlewyrchu esblygiad Chwarae Teg a’i waith i sefydlu mwy o ffocws ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant rhyngadrannol – a bydd Gwobrau Womenspire 2022 Chwarae Teg yn tynnu sylw at hyn yn rhannol. Bydd y gwobrau’n cael eu cynnal ddydd Iau 29 Medi i gydnabod cyflawniadau rhagorol menywod yng Nghymru o bob agwedd ar fywyd.
Cefnogir y digwyddiad gan ITV Cymru a gellir ymuno â hi ar y cyfryngau cymdeithasol Tag@ChwaraeTeg ar Instagram a Twitter, gan ddefnyddio #Womenspire.
CYSYLLTEDD
Gwobrau STEM Cymru 2022 yn dathlu sefydliadau ac unigolion sy’n cysylltu ein rhanbarth
Mae’r canlynol o P-RC ymhlith y 34 o fentrau a phobl sydd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau STEM Cymru 2022: Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Bouygues UK, Prifysgol Caerdydd, CatSci, EESW STEM, Exotopic Ltd, Industrial Automation & Control Ltd, Laser Wire Solutions, Llusern Scientific Ltd, Lunia 3D, POET Systems, Simbec-Orion Group Ltd, SparkLab Cymru, STEM Untapped CIC, Thompson STEM Engagement, Prifysgol De Cymru, Wales Interactive a Fforwm Canolfan Gyswllt Cymru.
Mae pawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu dathlu am hyrwyddo blociau adeiladu STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) sy’n cysylltu ein cymunedau a’n busnesau, gan gael effaith enfawr ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd – gan helpu i’n gwneud yr economi ddigidol sy’n tyfu gyflymaf yn y DU y tu allan i Lundain.
Bydd enwebeion yn y 12 categori yn cael eu harddangos yn y seremoni wobrwyo mawr ei bri a gynhelir yng Ngwesty Mercure Holland House Caerdydd ar 27 Hydref 2022, gyda phanel o feirniaid blaen yn y diwydiant yn dewis ‘yr enillydd’ yn y categorïau canlynol:
- Arloesi ym maes STEM
- Llysgennad STEM y Flwyddyn
- Cwmni STEM y Flwyddyn (dros 50 o weithwyr)
- Cwmni STEM y Flwyddyn (o dan 50 o weithwyr)
- Rhaglen Addysgol STEM y Flwyddyn (Nid-er-elw)
- Rhaglen Addysgol STEM y Flwyddyn (Sector Preifat)
- Rhaglen Addysgol STEM y Flwyddyn (Cyhoeddus)
- Busnes Rhyngwladol STEM y Flwyddyn
- Seren Dyfodol STEM y Flwyddyn
- Cwmni Newydd STEM y Flwyddyn
- Gwobr Cynaliadwyedd STEM
- Menyw STEM y Flwyddyn
I gael gwybod mwy am sut mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cael ei hail-lunio o amgylch ein pedwar nod strategol sef Arloesi, Cynaliadwyedd, Cynhwysiant a Chysylltedd, ewch i www.prifddinas-caerdydd.cymru
#CCRarwaith