Ein Rhanbarth ar Waith – Y diweddaraf ym maes Arloesi, Cynaliadwyedd, Cynwysoldeb a Chysylltedd

Categorïau:

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar waith fel na fu erioed o’r blaen – gyda dyfodol yn cael ei ddatblygu ar Arloesi, Cynaliadwyedd, Cynwysoldeb a Chysylltedd – ac mae’n digwydd o flaen ein llygaid.

Mae pobl ar draws De-ddwyrain Cymru yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn trobwynt fydd yn llunio agenda arloesi’r dyfodol, gydag Arloesi Cymru yn gofyn 22 o gwestiynau ar-lein gyda’r nod o ateb yr heriau niferus yr ydym yn eu hwynebu fel cymdeithas a’r economi.

Ac mae rhai o’r atebion hynny eisoes yn cael eu darparu yn ein rhanbarth, gyda Freight Logistics Solutions o Bont-y-pŵl yn arwain y ffordd tuag at drafnidiaeth ffordd wedi’i datgarboneiddio …. Mae CVS Technical Ltd Pen-y-bont ar Ogwr yn mynd â chynwysoldeb i lefel hollol newydd yn y diwydiant technoleg … ac mae Antur Cymru yn cysylltu pedwar awdurdod lleol P-RC â dyfodol doethach …

 

ARLOESI

Mae Arloesi Cymru yn agor ymgynghoriad ar ddatblygu diwylliant arloesi bywiog ar gyfer dyfodol cryfach

 

Mae Arloesi Cymru wedi agor ymgynghoriad arwyddocaol gyda phobl y pedwar rhanbarth yng Nghymru, gan archwilio’r ffordd orau o feithrin diwylliant arloesi bywiog all ddatblygu gwlad gryfach, decach, wyrddach.

Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae Arloesi Cymru wedi bod yn hyrwyddo’r gwaith o arloesi ym mhob rhan o Gymru – ac mae bellach yn fframio agenda’r dyfodol o amgylch 22 cwestiwn allweddol, gan adlewyrchu heriau a chyfleoedd tirwedd arloesi sydd wedi newid yn ddramatig yn sgil Brexit, y pandemig a thargedau sero net newydd.

Gan ddefnyddio saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol fel sylfaen, mae strategaeth arloesi integredig newydd yn cael ei datblygu i lywio gweithredoedd y llywodraeth, busnesau, y trydydd sector, y byd academaidd a dinasyddion – gydag Arloesi Cymru yn bwriadu datblygu cynllun cenedlaethol sy’n seiliedig ar genhadaeth sy’n cynyddu buddsoddiad gan gyrff y DU a thu hwnt, i gefnogi a datblygu’r cynnyrch a’r gwasanaethau sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r heriau yr ydym yn eu hwynebu yn y bedwaredd oes ddiwydiannol.

Y weledigaeth yw rhyddhau a chefnogi arloesi fydd yn creu Cymru iachach, gynhwysol, ffyniannus a chydnerth – gwlad sy’n gyfrifol yn fyd-eang sy’n canolbwyntio ar gymunedau cydlynol – wedi’i hadeiladu ar y bum colofn canlynol:

  • Fframwaith Polisi Cenedlaethol
  • Cymorth Strwythuredig
  • Buddsoddi wedi’i Dargedu
  • Hyrwyddo a Gwobrwyo Arloesi
  • Datblygu Sgiliau ac Arweinyddiaeth

 

I gymryd rhan yn y trobwynt hwn o ran arloesi yng Nghymru, llenwch y ffurflen ar-lein neu lawrlwythwch y ffurflen ymateb hon a’i hanfon ar ebost i innovationstrategy@llyw.cymru

 

CYNALIADWYEDD

FLS o Bont-y-pŵl yn dod â Gweledigaeth Cludiant Gwyrdd yn fyw

 

Mae Freight Logistics Solutions ym Mhont-y-pŵl yn arwain y ffordd tuag at garbon is, milltiroedd is a chludiant cost is – gyda gwasanaeth newydd sy’n monitro ôl troed carbon pob taith, trwy ddangosfwrdd ar-lein arloesol sy’n dadansoddi cyfanswm y cartonau a ddefnyddir ar unrhyw daith.

Mae busnesau blaenllaw y DU sydd eisiau gwybod bod cyflenwyr o ddifrif am eu cyfrifoldebau cymdeithasol yn tynnu sylw’n gynyddol at effaith amgylcheddol cludo nwyddau – gyda datrysiad mesur carbon FLS yn rhoi dull dibynadwy a hawdd ei ddefnyddio o ddarparu ystadegau yn seiliedig ar yr amgylchedd a all helpu busnesau i wneud penderfyniadau amgylcheddol mwy cynaliadwy.

Galluogodd cyllid gan Fanc Datblygu Cymru FLS i fuddsoddi mewn dangosfwrdd carbon sy’n mesur yn ôl ystodau cerbyd, cyrchfan a dyddiad, gydag algorithm a all hefyd gyfrifo arbedion o’i gymharu â threlar ‘tarddiad sefydlog’ traddodiadol – gan roi mewnwelediad i ddata trafnidiaeth o ansawdd sydd yn helpu cwsmeriaid i gynllunio a gwella perfformiad busnes.

Gyda bron 30% o’r holl filltiroedd cludo nwyddau sy’n cael eu gyrru ar y ffyrdd yn wag ar hyn o bryd, mae’n galonogol clywed y bydd y dangosfwrdd newydd hwn hefyd yn lleddfu llwythi gwag costus ac amgylcheddol niweidiol – ac o safbwynt ehangach ein targedau sero net 2050, mae’n wych gweld cwmni o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd yn bwrw ymlaen i helpu i ddatgarboneiddio’r diwydiant cludo nwyddau ar gyfer economi gynaliadwy.

 

CYNWYSOLDEB

Busnes ym Mhen-y-bont yn cefnogi awtistiaeth a gweithwyr technoleg benywaidd 

 

Pan agorodd Caitlyn Sheldon yr entrepreneur o Ben-y-bont ar Ogwr CVS Technical Ltd  ym mis Mawrth 2022, rhoddodd ei phrofiad o fyw fel person ifanc awtistig i ddefnydd da – gan sefydlu busnes technoleg cynhwysol sydd yn cynnig cymorth TG fforddiadwy i gwsmeriaid yng nghanol argyfwng ariannol, gyda ffocws ychwanegol ar ddod o hyd i liniaduron ac iPads ail-law, eu huwchraddio a’u rhoi yn rhad ac am ddim i Ffoaduriaid Wcráin sydd ar hyn o bryd yn addasu i fywyd ac addysg yng Nghymru.

Mae’r busnes wedi profi llwyddiant ar unwaith (ac aruthrol) – gan ddod yn gyrchfan i unrhyw un sydd angen cymorth neu atgyweiriadau arbenigol a moesegol TG, gyda Caitlyn, sydd yn 22 oed, bellach yn bwriadu cyflogi mwy o fenywod technolegol mewn sector TG sydd yn llawn dynion.

Mae dull tryloyw a dibynadwy Caitlyn wedi’i deilwra a’i bersonoli ar gyfer pob cwsmer a’u cyllideb – gan weithio gyda nhw i addysgu yn ystod pob cam o’r broses atgyweirio – gan adlewyrchu cenhadaeth i ddarparu gwasanaeth cost-effeithiol iawn i gwsmeriaid na fyddent fel arfer yn ei gael mewn siop atgyweirio technoleg arferol.

Fel llawer o bobl ag awtistiaeth, roedd Caitlyn wedi cael trafferth yn cydymffurfio â threfn strwythuredig a disgwyliadau ‘swydd 9-5 draddodiadol’ – ac mae lansio ei menter ei hun wedi rhyddhau entrepreneuriaeth naturiol a’i gwir botensial, gan weithio o bell mewn amgylchedd tawel sy’n ei galluogi i gynnal cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a rheoli ei hawtistiaeth.

Lansiodd Caitlyn CVS-Technical Ltd gyda chymorth gwasanaeth entrepreneuriaeth ieuenctid Llywodraeth Cymru Syniadau Mawr Cymru – rhaglen wedi’i hanelu at unrhyw un rhwng 5 a 25 oed sydd eisiau datblygu syniad busnes – ac edrychwn ymlaen at roi llawer mwy o enghreifftiau i chi yn y dyfodol o’r ffordd y mae’r gwasanaeth catalytig hwn (sy’n rhan o Warant i Bobl Ifanc) yn sbarduno ac yn cefnogi ysbryd entrepreneuraidd ein rhanbarth.

 

CYSYLLTEDD

Hwb digidol ‘Trefi Smart’ i dde-ddwyrain Cymru

 

Mae Blaenau Gwent, Sir Fynwy, Torfaen a Bro Morgannwg ar flaen y gad o ran symud tuag at ddod yn ‘Drefi Smart’ yn ein rhanbarth – diolch i’w gwaith arloesol gydag Antur Cymru, sy’n mesur nifer yr ymwelwyr a thueddiadau cwsmeriaid yng nghanol trefi, gan ddarparu data canolog fydd yn bwydo i mewn i strategaethau manwerthu yn y dyfodol, gan helpu i adfywio ac adnewyddu cymuned fwy cysylltiedig a ffyniannus.

Mae Antur Cymru wedi bod yn gweithio gyda phedwar awdurdod lleol P-RC i osod systemau cwmwl Cisco Meraki wedi eu hariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’r rhain yn dechnolegau cysylltiol allweddol wrth sefydlu cymunedau smart – gyda’r canlyniadau’n galluogi awdurdodau lleol a chynllunwyr i nodi’r hyn sy’n gweithio ac nad yw’n gweithio, sut y gellir goresgyn heriau, sut y gellir darparu gwasanaethau’n well i’r cyhoedd, a pha newidiadau cadarnhaol fydd yn sicrhau’r budd mwyaf i fusnesau a’r economïau lleol.

Gyda chysylltedd digidol a chyfathrebu ar unwaith mor hanfodol yn y gymdeithas sydd ohoni, mae’n wych croesawu menter gymdeithasol Antur Cymru i’n rhanbarth – a’u helpu yn eu cenhadaeth eu hunain i ddarparu gwasanaeth TG dwyieithog cynhwysfawr sy’n diogelu cartrefi, busnesau a chymunedau ledled Cymru at y dyfodol, am genedlaethau i ddod.

 

Gallwch ganfod mwy am  #EinRhanbarthArWaith – a’r datblygiadau mawr sy’n trawsnewid De-ddwyrain Cymru trwy Arloesi, Cynaliadwyedd, Cynwysoldeb a Chysylltedd Ewch i:www.cardiffcapitalregion.wales/cy/

#EinRhanbarthArWaith

 

Rhannu:




Newyddion Cysylltiedig

Subscribe for updates

Skip to content