Pan ddechreuodd Julian Shapley a David Haines y daith o greu ap yn canolbwyntio ar effaith y bwyd rydyn ni’n ei fwyta fel unigolion, roedden nhw’n gwybod pa mor bwysig y gallai hyn fod.
Mae diet afiach a phatrymau byw mwy eisteddog wedi creu rhywbeth sy’n agosáu at argyfwng ym maes iechyd y byd – gyda 48 miliwn o bobl yn marw o glefyd cardio-fasgwlaidd bob blwyddyn; a 2.1 biliwn o bobl yn cael eu nodi’n ordew, yn fyd-eang.
Mae Glucose Republic sydd â’i bencadlys yng Nghaerdydd yn ateb yr her hon yn y ffordd fwyaf rhyfeddol: cyfuno bioleg a meddalwedd i’n helpu i fyw a bwyta’n well – system sydd y cyntaf o’i bath yn fyd-eang sy’n rhoi adborth personol ar effaith metabolig y bwyd rydym yn ei fwyta, gan ein galluogi i wneud y dewisiadau prydau bwyd sy’n ‘iawn’ i ni.
Mae Julian eisoes wedi arwain llwyfan rheoli diabetes cyntaf y byd drwy ffonau symudol ac fel tîm profedig o arloeswyr ysbrydoledig, mae’r Glucose Republic bellach yn barod i ddatgelu system a fydd yn ein helpu ni oll i deimlo’n well, edrych yn well – a bod yn well – gyda buddsoddiadau allweddol gan Deepbridge Capital a Banc Datblygu Cymru yn cefnogi arloesedd a fydd o bosibl yn rhoi rhyddid bwyd i gannoedd o filiynau o bobl.
Rhoi rhyddid bwyd i bawb yn y byd
“Mae gan bob person ôl bysedd bwyd unigryw, sy’n dangos sut rydym yn ymateb i fwyd a diod” esbonia David, cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Glucose Republic “a gallwn gael mynediad i’r olion bysedd yna drwy olrhain ein lefelau glwcos ein hunain. Mae hyn yn ein galluogi i ddarparu adborth personol i ddefnyddwyr ar effaith metabolig y bwyd a’r diod y maent yn eu bwyta, gan eu galluogi i ddewis yr hyn sy’n iawn iddynt.”
“Mae helpu pobl i ddeall effaith bwydydd unigol arnynt – a galluogi pawb i gael mynediad i’w ôl bysedd bwyd unigryw eu hunain – wrth wraidd yr hyn rydyn ni’n ei wneud” esbonia David. “Mae system Glucose Republic yn caniatáu i ddefnyddwyr fesur yn uniongyrchol sut mae eu corff yn ymateb i’r bwydydd y maent yn eu bwyta a’r pethau y maent yn eu gwneud. Mae’n blatfform a fydd yn galluogi mwy o reolaeth dros ddewisiadau bwyta a mwy o ryddid bwyd – ac rydym yn sicr yn credu y gallwn gael effaith gymdeithasol sylweddol, gan rymuso pobl i fwyta a byw’n well drwy ddeall effaith eu dewisiadau yn gywir.”
“Er enghraifft, mae gan un o’n tîm ddant at seidr a darganfu fod brand penodol wedi achosi i’w siwgr gwaed ollwng yn eithaf sylweddol, tra bod newid i frand amgen yn cael llawer llai o effaith. Gall sbigynnau mynych o glwcos gwaed gael effaith negyddol iawn ar bwysau ac iechyd – ac yn y pen draw arwain at ddiabetes a chlefydau eraill. Felly nod Gweriniaeth Glwcos yw grymuso defnyddwyr â gwybodaeth wedi’i theilwra’n well am eu deiet a, thrwy wneud hynny, leihau dibyniaeth ar y dietau generig a’r cyfundrefnau ymarfer corff nad ydynt yn aml yn cael fawr ddim effaith, os o gwbl, ar rai pobl.”
Unigolion iachach ac arbedion gofal iechyd enfawr
Mae David a’i dîm yn ystyried llwyfan Glucose Republic fel chwyldroadwr ym maes iechyd ar y lefelau macro a micro: “Yr effaith allosod, wrth gwrs, yw unigolion iachach sy’n gwneud penderfyniadau ar sail gwell gwybodaeth, gan arwain at well iechyd yn y boblogaeth, llai o ordewdra a diabetes – ac arbedion gofal iechyd enfawr o ran amser ac arian.
“Hyd yn hyn, mae monitro glwcos wedi bod yn faes a neilltuwyd yn llwyr i ddiabetes – gan ei bod yn hanfodol bwysig cadw mesur ar lefelau brig ac isaf glwcos, er mwyn addasu lefelau inswlin. Mae’n cynnwys pigiadau gwaed a monitro mynych – neu ddefnyddio dyfeisiau mwy newydd sy’n monitro’n gyson ond sy’n gostus ac yn dal i fod yn fewnwthiol.
“Ychydig a wyddys, fodd bynnag, fod glwcos yn cael effaith fawr ar iechyd pobl nad ydynt yn ddiabetig neu sy’n gynddiabetig – y rhai sy’n dechrau dangos problemau o ran gallu rheoleiddio inswlin ac sydd ag ymateb gwael i glwcos. Yn wir, mae’n debyg mai glwcos yn hytrach na braster yw’r prif gyswllt â gordewdra yn hytrach na braster. Ond nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod sut olwg sydd ar eu proffil glwcos nes ei bod hi’n rhy hwyr a diabetes Math 2 ganddynt.
“Mae’n debyg bod Math 2 yn gyflwr gydol oes oni bai y gallwch fynd i’r afael â materion sylfaenol o fewn ychydig fisoedd o ddiagnosis. Mae’n cael ei gymhlethu ymhellach gan y ffaith bod corff pawb yn delio â gwahanol fwydydd mewn ffordd wahanol – er y gallwn fwyta rhai bwydydd Groegaidd er enghraifft heb fawr o effaith, efallai y gwelwch ei fod yn achosi i chi fagu pwysau a pheri i’ch glwcos frigo.”
“Felly, mae Glucose Republic yn rhoi gwell dealltwriaeth i’r unigolyn nad yw’n ddiabetig o sut mae gwahanol fwydydd yn effeithio arnynt, ac wrth wneud hynny, yn eu helpu i wneud dewisiadau bwyd gwell – gan leihau eu siawns o fynd yn ddiabetig neu gael broblemau iechyd eraill yn ddiweddarach yn eu bywydau”
Yn y pen draw, mae’n golygu y gall pob un ohonom gael ein cynllun bwyd wedi’i deilwra sy’n gweithio i ni. Os yw pawb yn delio â bwyd yn wahanol, yna pam y dylai cynllun deiet safonol weithio i bawb? Efallai nad yw’r tecawê Indiaidd yma ac acw yn broblem i chi neu fi, ond dylwn osgoi tikka cyw iâr a dylech chi gadw at aloo saag. Dyna fydd platfform GGlucose Republic yn ei ddweud wrthych chi.”
Rydym yn gyffrous i weld datblygiad a lansio’r ap Glucose Republic chwyldroadol hwn, yn enwedig gan ei fod yn seiliedig ar fodel freemium, gyda swyddogaethau elfennol am ddim a thanysgrifiad ar gyfer nodweddion mwy datblygedig. Gallai newid yn llwyr y ffordd rydyn ni’n bwyta, yfed a byw ein bywydau.
Bwyd i’r meddwl, yn wir.
Darganfyddwch fwy ar wefan Glucose Republic.