“Bydd ehangu a dyfnhau ein sylfaen swyddi yn allweddol i adfywio’r economi leol”
“Bydd ehangu a dyfnhau ein sylfaen swyddi yn allweddol i adfywio’r economi leol,” esbonia Neil. “Mae gennym boblogaeth fedrus ond hefyd un sy’n heneiddio; ac rydym yn dibynnu’n drwm ar ficrofusnesau a rhai sectorau megis iechyd pobl a gwaith cymdeithasol, gyda llawer o’n trigolion yn cymudo allan o’r fwrdeistref am waith. Felly, yn syml, nid oes digon o swyddi – gyda 0.6 o swyddi ar gael i bob person yn y Fro, mae angen i ni gryfhau ein sylfaen gyflogaeth leol yn ogystal â chydweithio â’r rhanbarth ehangach i adeiladu gwell seilwaith, mannau busnes o safon a chysylltiadau cryfach ar draws Prifddinas-ranbarth Caerdydd.
“Mae rhai o amcanion Prifddinas-ranbarth Caerdydd 2021 yn canolbwyntio ar helpu busnesau i lywio’r pecynnau cymorth ariannol sydd ar gael – a nodi unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth, yn enwedig cymorth cychwyn busnes. Rydym wedi neilltuo llawer o amser i hynny dros y degawd diwethaf, trwy ein gwaith datblygu economaidd a’n heconomi sylfaen, felly mae’n dda ein bod yn cyd-fynd â’r weledigaeth hon.
“Trwy ein Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif bydd £167m+ yn cael ei fuddsoddi yn adeiladau ein hysgolion.”
“Mae uchelgais Bro Morgannwg ar gyfer maes Addysg yn amlwg i’w weld yn ein Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif – rhaglen arloesol sy’n buddsoddi £167 miliwn yn adeiladau ysgolion ar draws Bro Morgannwg rhwng 2019 a 2024. Y nod yw darparu amgylcheddau dysgu ac addysgu arloesol a hyblyg sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, gyda dau adeilad ysgol uwchradd newydd yn agor yn Ysgolion Uwchradd Whitmore a Phencoedtre yn y Barri, ac ehangu ac adnewyddu Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg sydd i’w chwblhau yn ddiweddarach eleni – gyda’r cyfan yn adlewyrchu buddsoddiad o £86m yn y Barri. Rydym yn gwneud y mwyaf o’r buddsoddiad hwn trwy wneud ‘defnydd cymunedol’ yn flaenoriaeth allweddol yn Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, gyda’r tair ysgol yn darparu cyfleusterau o’r radd flaenaf i’r gymuned – gan gynnwys caeau rygbi, pêl-droed a hoci pob tywydd.
“Yn 2021 caiff dau adeilad ysgol gynradd newydd eu cwblhau yn y Rhws a Thregolwyn, sy’n fuddsoddiad o £10m mewn addysg gynradd yng ngorllewin y Fro. Ac yn ogystal â hynny i gyd, disgwylir i’r gwaith adeiladu ddechrau ar bum prosiect arall yn ddiweddarach eleni, gan gynnwys adeiladau ysgolion cynradd newydd yn Sain Nicolas, y Bont-faen a Glannau’r Barri; Canolfan Dysgu a Lles newydd i gefnogi rhai o’n dysgwyr mwyaf agored i niwed; ac ehangu Ysgol y Deri, Ysgol Arbennig y Cyngor, i ateb y galw am addysg arbenigol yn y dyfodol.
“Rhaglen datblygu tai gwerth £68.3 miliwn sy’n darparu 530 o gartrefi cyngor ynni-effeithlon o ansawdd uchel”
Mae’r Fro hefyd wedi mabwysiadu ei Strategaeth Datblygu Tai gyntaf, gyda blaenraglen datblygu tai gwerth £68.3 miliwn a fydd yn darparu 530 o gartrefi cyngor ynni-effeithlon newydd o ansawdd uchel dros y pum mlynedd nesaf, gan ddefnyddio’r dulliau diweddaraf o adeiladu a thechnegau gweithgynhyrchu oddi ar y safle, yn ogystal â manteisio ar gadwyni cyflenwi, deunyddiau, gweithgynhyrchwyr a chontractwyr lleol. Mae Neil yn esbonio bod darparu llety byrdymor hefyd wedi bod yn allweddol i gyflawni’r strategaeth:
“Roedd y pandemig yn rhoi pwysau eithriadol ar wasanaethau digartrefedd ym Mro Morgannwg ac rydym wedi gallu cynorthwyo 386 o gleientiaid digartrefedd ychwanegol, yn rhannol trwy gyllid gan Lywodraeth Cymru a oedd yn ein galluogi i ddarparu 116 o unedau llety gwely a brecwast ychwanegol yn ogystal â’r 147 o unedau llety dros dro a ddarparwyd gennym eisoes. Mae angen ystyried hyn yng nghyd-destun ehangach ein Hasesiad diweddaraf o’r Farchnad Dai Leol (LHMA), a nododd yn 2019 yr angen am 890 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol y flwyddyn ar gyfer y pum mlynedd rhwng 2019 a 2024. Mae effaith pandemig Covid-19 ond wedi cynyddu nifer yr aelwydydd sydd mewn trafferthion ariannol, felly mae angen i ni sicrhau bod ein cynllun tai yn ystyried yr hyn sydd wedi bod yn gyfnod hynod heriol o newid, gan weithio gyda phartneriaid fel cymdeithasau tai, landlordiaid preifat, asiantau gosod tai a darparwyr cymorth trydydd sector i ateb galw.”
“Symud i gartrefi ‘carbon sero-net’ – a seilwaith gwyrdd sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif”
Neil sydd â chyfrifoldeb Cabinet Prifddinas-ranbarth Caerdydd dros yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd, felly gofynnwyd iddo beth byddai’n gobeithio ei weld yn cael ei gyflawni ar draws y meysydd hollbwysig hyn yn 2021 a’r tu hwnt?
“Mae’r Fro eisoes wedi ail-broffilio ei rhaglen datblygu tai yn llwyr er mwyn sicrhau bod pob cynllun newydd yn cael ei adeiladu gan ddefnyddio Dulliau Modern o Adeiladu a Thechnegau Gweithgynhyrchu oddi ar y Safle, gyda’n holl ddatblygiadau tai newydd ar fin cyflawni sgôr ‘A’ y TPA o 2021, cyn symud i gartrefi newydd ‘carbon sero-net’, gyda’r holl ddatblygiadau newydd yn cael eu darparu oddi ar y rhwydwaith nwy presennol. Rydym yn gwthio’r agenda yn y ffyrdd mwyaf arloesol, gan gydweithio ar hyn o bryd â’r 10 awdurdod lleol arall, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Wood Knowledge Wales, i sefydlu fframwaith caffael cenedlaethol ar gyfer cynhyrchu cartrefi llyfrau patrwm ‘carbon sero’ yn lleol, i’w hadeiladu mewn ffatrïoedd gan weithgynhyrchwyr cartrefi modiwlaidd sy’n defnyddio fframiau pren Cymreig.
“Y lleoliad perffaith i greu canolfan twf glân”
“Rydym hefyd yn edrych ymlaen at weithio gyda’r ddinas-ranbarth i archwilio datblygiad canolfannau twf glân i archwilio technoleg a thanwyddau’r dyfodol fel Hydrogen. Mae’r Barri yn lleoliad perffaith gyda’i Doc gweithredol i fod yn rhan allweddol o’r broses hon ac mae datblygu cymorth rhanbarthol ar gyfer ffynonellau ynni cynaliadwy yn bwysig i’n nodau lliniaru newid yn yr hinsawdd. Rydym hefyd yn awyddus i weld Ardaloedd Menter Llywodraeth Cymru a’r maes awyr cyfagos yn tyfu mewn ffordd mor gynaliadwy â phosibl, gyda chysylltedd da a fydd yn lleihau dibyniaeth ar y car. Mae ein cynnydd ym maes Tai ac Addysg wedi dangos y gallwn, gyda’n gilydd, ddatblygu seilwaith gwyrdd i liniaru’r newid yn yr hinsawdd sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif.”
Mae “cydberthynas” a phwrpas cyffredin yn ffactorau hanfodol ar gyfer llwyddiant.
Mae Neil o’r farn bod ‘cydberthynas’ a phwrpas cyffredin yn hanfodol ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol ar draws y rhanbarth. “Mae’r pandemig wedi dangos ei bod yn bwysig iawn meddu ar ymdeimlad clir o gyfeiriad a gweledigaeth a rennir yn eang. Mae wedi arwain at ffordd fwy cysylltiedig o weithio a gwneud penderfyniadau cyflymach ar lefel ranbarthol a chenedlaethol – ac rwy’n gobeithio y bydd y ffordd honno o weithio yn parhau i ni ar draws Prifddinas-ranbarth Caerdydd.”