Mae 24 pwynt gwefru newydd yn cael eu gosod yng Nghaerdydd i’w gwneud hi’n haws i breswylwyr newid i gerbydau trydan.
Mae’r gwefrwyr newydd yn cael eu hariannu gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, ac maent yn cael eu gosod mewn 12 lleoliad gan ganolbwyntio ar feysydd parcio cyhoeddus, yn agos at ganolfannau siopa, parciau a hybiau cymunedol. Pan fydd y gwaith gosod wedi’i gwblhau bydd mwy na 70 o gyfleoedd gwefru ar gael i’r cyhoedd ar dir neu briffyrdd sy’n eiddo i’r cyngor yn y ddinas.
Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd:
“Mae gosod gwefrwyr mewn lleoliadau allweddol yn helpu perchnogion Cerbydau Trydan presennol i lenwi eu lefelau gwefru wrth fynd, tra’u bod yn ymweld â chyfleusterau cymunedol, siopau neu’r gwaith ac gall alluogi pobl na all eu cartrefi ddarparu ar gyfer gwefrwyr oddi ar y stryd i wneud y newid i ffwrdd o betrol neu ddisel, lleihau allyriadau carbon a helpu i wneud ein haer yn lanach.
“Mae 41% o allyriadau carbon Caerdydd yn dod o drafnidiaeth ar hyn o bryd, felly mae newid sut rydyn ni’n symud o gwmpas yn allweddol i’n Strategaeth Un Blaned, ond nid yw cerbydau trydan yn unig yn fwled arian, ac mae gosod seilwaith gwefru yn eistedd ochr yn ochr â’n cynlluniau uchelgeisiol i ddyblu nifer y bobl sy’n beicio ac yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus erbyn 2030.”
Dywedodd y Rheolwr Ynni a Thrafnidiaeth P-RC Clare Cameron:
Mae’r gwefryddion newydd yn cael eu gosod yn:
Maes Parcio Hyb y Star, Heol Muirton
Heol y Coleg
Arglawdd Dôl Afon Taf
Tewkesbury Place
Maes Parcio Parc y Mynydd Bychan
Maes Parcio Havannah Street
Maes Parcio Heol Pen-llin
Maes Parcio Heol y Gogledd
Maes Parcio Stablau’r Castell
Maes Parcio Gerddi Sophia
Maes Parcio Harvey Street
Maes Parcio Caeau Pontcanna/Llandaf