Ymwelodd yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol, Anna McMorrin AS, รข’r cwmni technoleg ariannol Mazuma sydd wedi’i leoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr heddiw (Dydd Iau 15 Ionawr) i weld dros ei hun sut mae buddsoddiad a gefnogir gan Lywodraeth y DU yn sbarduno arloesedd a thwf yn y rhanbarth.
Mae Mazuma, a sefydlwyd gan Lucy Cohen gyda dim ond ยฃ100 a gliniadur, wedi dod yn ymyrrwr pwysig yn y sector cyfrifyddiaeth, gan ddarparu atebion cyfrifyddiaeth ddigidol i fusnesau bach ledled y DU.
Derbyniodd y cwmni gefnogaeth drwy Gyfalaf Buddsoddi Arloesedd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (PRC), cronfa gwerth ยฃ50 miliwn a gynlluniwyd i helpu busnesau arloesol yn ne-ddwyrain Cymru i dyfu gyda chyfalaf hirdymor.
Mae PRC yn un o ddinasoedd-rhanbarth y DU, syโn dod รข deg awdurdod lleol ynghyd ledled de-ddwyrain Cymru, gan weithio mewn partneriaeth รข Llywodraethau Cymru a’r DU, i sbarduno twf economaidd cynhwysol drwy fuddsoddi mewn seilwaith, sgiliau, arloesedd a datblygu cynaliadwy.
Dywedodd Kellie Beirne, Prif Weithredwr PRC, โErs y buddsoddiad, mae Mazuma wedi cyflawni cerrig milltir arwyddocaol, gan gynnwys twf cyflym yn nifer y staff, datblygiad technoleg cyflymach a chydnabyddiaeth yn y diwydiant. Mae’r cwmni bellach yn gwasanaethu miloedd o fusnesau bach ac yn parhau i herio modelau cyfrifyddiaeth traddodiadol.
โDyma enghraifft bwerus o sut y gall buddsoddiad rhanbarthol strategol, ynghyd ag arweinyddiaeth feiddgar ac arloesedd, sicrhau effaith economaidd a phroffesiynol barhaol.โ
Dywedodd Lucy Cohen, sylfaenydd Mazuma: โMae wedi bod yn daith a hanner. Ers y buddsoddiad, rydym ni wedi mwy na dyblu o ran maint, gyda mwyafrif y swyddi newydd a grรซwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr aโr cyffiniau. Mae ein technoleg wedi datblygu’n gyflymach nag y gwnaethom erioed ragweld, gan ein rhoi mewn categori ein hunain o fewn y diwydiant.โ
Ychwanegodd: โAr nodyn personol, rydw i hefyd wedi dod yn Llywydd AAT, un o gyrff cyfrifyddiaeth blaenllaw’r DU, fel ei Llywydd ieuengaf erioed. Ac i Mazuma, mae wedi bod yn flwyddyn anhygoel, gyda nifer o wobrau wedi’u hennill a thwf parhaus.โ
Dywedodd Gweinidog y Swyddfa Gymreig, Anna McMorrin AS: โMaeโn wych gweld sut mae buddsoddiad a gefnogir gan Lywodraeth y DU yn helpu i sbarduno twf economaidd a chreu swyddi newydd syโn rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl.
โRydym ni eisiau i fusnesau fel Mazuma ffynnu a chyfrannu at enw da cynyddol Cymru am arloesedd uwch-dechnoleg ac entrepreneuriaeth.โ
Gan fyfyrio ar y gwerth economaidd ehangach iโr ardal, canmolodd arweinwyr lleol lwyddiannauโr cwmni hefyd gan danlinellu enw da cynyddol Pen-y-bont ar Ogwr am arloesedd.
Dywedodd y Cynghorydd John Spanswick, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: โMae Mazuma yn stori lwyddiant ddisglair ym Mhen-y-bont ac maeโn dangos yr hyn y gall arloesedd a gwaith caled ei gyflawni ynghyd รข chefnogaeth a chyllid gan PRC. Mae Mazuma yn gweithio ledled y DU yn helpu busnesau bach a chanolig i ffynnu, ac fel busnes lleol, rydym niโn falch iawn o fod wedi gallu eu cefnogi.โ
ย