Mae’r Gwir Anrhydeddus David TC Davies AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi ymweld ag un o’r prosiectau Metro+ sy’n cael eu hadeiladu yng nghymoedd De Cymru ar hyn o bryd.
Bydd Cyfnewidfa Drafnidiaeth y Porth yn gwella cyfleusterau i deithwyr bysiau a rheilffyrdd ac yn creu porth i ganol tref y Porth. Bydd y cynllun yn cynnwys 7 bae bws gweithredol, 2 fan saib dros dro a galluoedd gwefru cerbydau trydan. Mae’r prosiect yn rhan o Raglen Metro+ – rhaglen gwerth £50 miliwn o gynlluniau sy’n cefnogi cynllun ehangach Metro De Cymru, a fydd yn trawsnewid trafnidiaeth a theithio ar draws y rhanbarth ehangach. Mae Llywodraeth y DU wedi cyfrannu £125 miliwn i gynllun Metro De Cymru drwy Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Yn ogystal, mae prosiect Cyfnewidfa Trafnidiaeth y Porth wedi derbyn £3.5 miliwn o Gyllid Ffyniant Bro gan Lywodraeth y DU.Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies AS:
“Mae’n wych gweld bod gwaith adeiladu yn mynd rhagddo ar brosiectau a fydd o fudd enfawr i’r ardal a’i phobl a’i busnesau. Mae system drafnidiaeth fodern, werdd, ddi-dor yn hanfodol i gefnogi swyddi a ffyniant, ac mae Llywodraeth y DU yn falch o helpu i ariannu’r gwaith hwn.
Mae’r Metro yn brosiect uchelgeisiol gwerth miliynau o bunnau i integreiddio rheilffyrdd, bysiau, beicio a cherdded, gwella cysylltedd a gwneud teithio cynaliadwy yn haws ledled De Cymru. Mae’r prosiectau’n eang eu cwmpas; o sefydlu cyfleusterau parcio a theithio newydd gyda chyfleusterau gwefru cerbydau trydan ar y safle i gyfnewidfeydd rheilffordd a bysus newydd sydd â lle parcio diogel ar gyfer beiciau a mynediad haws. Yng Nghaerdydd, er enghraifft, bydd seilwaith newydd yn galluogi 20% o gymudwyr y brifddinas i deithio ar fws erbyn 2030.”


Dywedodd Rhys Thomas, Prif Swyddog Gweithredu Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd:
“Mae trawsnewid ein seilwaith, cysylltedd a dull trafnidiaeth yn gwbl hanfodol i gynaliadwyedd a llwyddiant De-ddwyrain Cymru yn y dyfodol. Dyna pam rydyn ni wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn rhaglenni fel Metro+, gan eu bod yn chwarae rhan allweddol wrth gyfrannu at yr uchelgais hwn. Mae Hyb Trafnidiaeth y Porth yn enghraifft wych o’r rhaglenni trawsnewidiol sy’n ail-lunio ein rhanbarth. Mae’n gatalydd ar gyfer adfywio canol tref y Porth, gan ddod â gwasanaethau bysiau a rheilffyrdd at ei gilydd am y tro cyntaf erioed, gan wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn llawer mwy hygyrch – a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl y Porth.”
Dywedodd yr Aelod Cabinet RhCT dros Ddatblygu a Ffyniant, y Cynghorydd Mark Norris:
“Mae’r gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol i gefnogi swyddi a ffyniant yn Ne Cymru. Mae’r rhanbarth yn cyfrif am tua 50% o allbwn economaidd cyfan Cymru, ac mae’n gartref i bron i hanner poblogaeth gyfan y wlad.
Bydd sicrhau bod seilwaith yn barod at y dyfodol yn cael effaith economaidd sylweddol, gan wella bywydau a helpu i gyflawni nod Llywodraeth y DU o ffyniant bro mewn cymunedau.”
