Gweithio Gyda’n Gilydd i Greu Byd Cynaliadwy

Categorïau:
Sectorau

O ystyried ymrwymiad newydd Llywodraeth y DU i “adeiladu’n wyrddach” ar sylfeini adnoddau ynni carbon isel ac adnewyddadwy unigryw Cymru, ac yn unol â llwybr datgarboneiddio Llywodraeth Cymru tuag at ‘System Ynni Cyfan’, mae P-RC heddiw yn lansio cyfres o erthyglau sy’n amlygu’r gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud, y newidiadau enfawr sydd o’n blaenau – a’r cyfleoedd diamheuol sydd gennym i adeiladu rhanbarth carbon isel lle mae ‘ffyniant i bawb’ yn bosibilrwydd gwirioneddol.  Yn yr erthygl gyntaf hon, edrychwn ar y ‘darlun mawr’ a wynebwn fel rhanbarth, gwlad – ac fel rhywogaeth.

Ym mis Mai 2021, cododd allyriadau carbon deuocsid byd-eang i 419 rhan y filiwn – y lefelau uchaf a fesurwyd yn y 63 mlynedd y cofnodwyd data.  Mae’n golygu ein bod newydd brofi’r cynnydd cyfartalog cyflymaf erioed o 10 mlynedd mewn nwyon tŷ gwydr, er gwaethaf gostyngiadau mewn teithio awyr a diwydiant o ganlyniad i’r coronafeirws – a heddiw rydym yn byw mewn byd sy’n cynhyrchu 50% yn uwch o allyriadau na’r blaned yr oeddem yn byw ynddi ar ddechrau’r oes ddiwydiannol.

“Ni allwn fforddio aros i weithredu yn erbyn newid yn yr hinsawdd”   

Cyn Uwchgynhadledd y G7 y mis hwn, dywedodd Syr David Attenborough yn blwmp ac yn blaen fod arweinwyr y byd yn wynebu’r penderfyniadau pwysicaf mewn hanes dynol wrth iddynt geisio mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, gyda’r naturiaethwr yn rhybuddio y gallai dynolryw fod ar fin “dadsefydlogi’r blaned gyfan”. Mae’r casgliad yn ymddangos yn syml iawn: ni allwn fforddio aros i weithredu yn erbyn bygythiad newid yn yr hinsawdd.  Mae’n rhaid i lywodraeth, busnes, cymunedau a phob un ohonom weithio gyda’n gilydd i ddiogelu ein planed a’n pobl – gan greu dyfodol gwyrddach a mwy gwydn i ni i gyd.

Mae’n werth nodi bod llawer eisoes yn cael ei wneud yn y DU, Cymru – ac yn wir ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd – i gyflwyno ynni wedi’i ddatgarboneiddio a ffyrdd newydd o weithio sydd wrth wraidd economi a chymdeithas gynaliadwy. Mae’r “ras i sero” hon erbyn 2050 yn cymryd sawl ffurf ac yn effeithio ar bopeth a wnawn a llawer o’r ffyrdd rydym yn gwneud hynny: o’r ffordd rydym yn cynhesu ein cartrefi, yn pweru ein gweithleoedd, yn defnyddio tanwydd yn ein diwydiannau ac yn dosbarthu ein nwyddau, i’r modd rydym yn tyfu ein bwyd, yn gwneud ein dillad ac yn dewis teithio.  Ond nid oes lle i fod yn hunanfodlon ac mae angen gwneud cymaint mwy, ar y cyd ac yn gyson, os ydym am ailadeiladu ein byd bob dydd ar sylfaen newydd.

Realiti noeth cynhesu byd-eang i’n rhanbarth 

Mae P-RC yn gartref i 1.5 miliwn o bobl a hanner allbwn economaidd Cymru, y mae’r ddau ohonynt yn golygu y bydd y rhaglenni a’r mentrau sy’n cael eu cynnal ‘yma’ yn cael effaith sylweddol ar ba mor llwyddiannus (a pha mor gyflym) y mae Cymru a’r DU yn trawsnewid i economi werdd a ffordd wedi’i datgarboneiddio o fyw. Felly beth mae realiti cynhesu byd-eang yn ei olygu i Dde-ddwyrain Cymru, beth yw’r targedau y mae angen i ni eu cyrraedd, beth yw’r cynlluniau sydd ar waith – a beth rydym eisoes yn ei wneud i gyflawni’r uchelgais?

“Mae newid yn yr hinsawdd a’n hymateb iddo yn creu rhanbarth gwahanol iawn”

Bydd newid yn yr hinsawdd a’n hymateb iddo yn creu rhanbarth gwahanol iawn erbyn 2050 – y dyddiad a bennwyd i sicrhau Cymru net-sero. Yn dilyn Cytundeb Paris lle daeth y DU yn gyfreithiol rwym i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr 80% yn erbyn llinell sylfaen 1990 – a chyngor annibynnol UKCCC bod angen i hyn gynnwys targed lleihau 95% ar gyfer ein rhanbarth ein hunain – Llywodraeth Cymru oedd y cyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd. Mae’r ffeithiau yn dangos y rhagwelir y bydd glawiad canol y ganrif yn ein rhanbarth yn cynyddu 5% ar gyfartaledd yn y gaeaf ac yn gostwng 16% yn ystod misoedd yr haf: gan arwain at batrwm tymhorol diofyn o lifogydd rheolaidd a sychder yn y ddaear, gyda thymheredd cyfartalog yr haf ar gyfer ein rhanbarth yn cynyddu gan 1.34C a rhagwelir y bydd lefelau’r môr o amgylch Caerdydd yn codi gan hyd at 24 centimetr.

“Mae angen gostyngiad o 95% mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr arnom ledled P-RC erbyn 2050”  

Gellir gweld canlyniadau newid yn yr hinsawdd eisoes, gyda De Ddwyrain Cymru yn cofnodi ei lefel uchaf o law sef 334.7mm ym mis Rhagfyr 2015, ac ym mis Ebrill 2019 gadawyd rhannau helaeth o’n rhanbarth wedi’u deifio ar ôl i dân rwygo drwy erwau o dir, gyda’r Athro Stefan Doerr o Brifysgol Abertawe yn cymharu amodau blwch tân Bannau Brycheiniog â rhai Safana Affrica.

Mae’r cartrefi rydym yn byw ynddynt hefyd yn ffactor enfawr yn y newidiadau sy’n ein hwynebu, gydag adroddiad ym mis Gorffennaf 2019 gan Grŵp Cynghori Datgarboneiddio Cartrefi yng Nghymru yn dweud bod y 750,000 o gartrefi yn Ne Ddwyrain Cymru yn gyfrifol am 27% o’r holl ynni a ddefnyddir ledled P-RC. Nododd yr adroddiad fod gan ein rhanbarth rai o’r stoc tai hynaf a lleiaf thermol effeithlon yn Ewrop, gan argymell rhoi cynllun “datgarboneiddio” cartrefi 30 mlynedd o hyd ar waith ledled P-RC erbyn tirnod canol y ganrif – gyda phob eiddo yn dilyn y safonau ‘gwydn yn yr hinsawdd’ o fod yn garbon isel, yn ddŵr ac ynni effeithlon – a’r holl stoc tai yn cael eu hôl-ffitio i fod â sgôr ynni band A erbyn hanner ffordd trwy’r ganrif hon.

Y symudiad cadarnhaol tuag at sero-niwtral

Y newyddion cadarnhaol yw y bydd y rhan fwyaf os nad ein holl ynni yn cael ei gynhyrchu o ffynonellau gwyrdd ymhell cyn 2050, gydag arbenigwyr polisi yn y Sefydliad Materion Cymreig (IWA) yn rhagweld y gallai P-RC ddiwallu ei holl anghenion ynni o ffynonellau ynni adnewyddadwy erbyn 2035, drwy ynni a ddarperir gan gymysgedd o drydan a hydrogen a gynhyrchir gan ynni solar, fferm wynt ar y môr, ynni’r llanw, ynni dŵr, ynni geothermol ac ynni adweithio. Bydd hyn hefyd yn darparu biliynau o bunnoedd o GYC ychwanegol – mesur y nwyddau a’r gwasanaethau a gynhyrchir mewn sector – bob blwyddyn i’n rhanbarth; drwy raglenni fel prosiect dŵr mwynglawdd Caerau sy’n arloesi drwy ddefnyddio rhwydwaith gwres tanddaearol i bweru cartrefi, ysgolion, ysbytai a busnesau yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr.

“Bydd y rhan fwyaf o’n hynni yn cael ei gynhyrchu o ffynonellau gwyrdd ymhell cyn 2050”

Mae prosiect Caerau yn un o nifer o gynlluniau peilot a rhaglenni ynni gwyrdd sefydledig sy’n cael eu cynnal ledled De Cymru.  Mae ein rhanbarth ni, ynghyd â gweddill Cymru, yn cael ei weld fwyfwy fel hyb cenedlaethol allweddol ar gyfer ynni adnewyddadwy, gyda diwydiannau mawr ledled De Cymru yn dod ynghyd fel Clwstwr Diwydiannol De Cymru (SWIC) i gydweithio i leihau allyriadau carbon yn sylweddol dros yr 20 mlynedd nesaf, gan greu cynllun cynaliadwy ar gyfer y rhanbarth drwy gyfuniad o’r canlynol; cynhyrchu a dosbarthu pŵer hydrogen, cynhyrchu trydan glanach sy’n defnyddio technolegau dal carbon, nwy naturiol sy’n llawn hydrogen a datgarboneiddio diwydiant mawr drwy newid tanwydd a chynhyrchu tanwyddau cludo glanach.

Bydd y grant SWIC gwerth £40 miliwn yn galluogi De Cymru i ddatblygu cynllun datgarboneiddio strategol wedi’i deilwra’n bwrpasol ac sy’n cael ei arwain gan y diwydiant”

Cynhyrchwyd dros 10 megaton o allyriadau carbon gan fusnesau a diwydiant yng Nghymru y llynedd ac ein rhanbarth ni ar hyn o bryd yw’r ail allyrrydd nwyon tŷ gwydr mwyaf sy’n deillio o ddiwydiant yn y DU – felly bydd trosglwyddo i dechnegau cynhyrchu diwydiannol cynaliadwy, carbon isel yn anhepgor i ni gyflawni’r targedau sero net. Bydd y grant o £40 miliwn gan Lywodraeth y DU i SWIC yn gweld gwaith dur, purfeydd olew, gwaith sment a gweithfeydd cemegol yn gweithio ochr yn ochr â chwmnïau ynni, porthladdoedd, prifysgolion a chynghorau lleol i greu ‘map ffordd i allyriadau carbon sero net’ ar gyfer pob diwydiant ledled de Cymru.

Bydd y map ffordd hwn yn nodi’r adnoddau a’r seilwaith sydd eu hangen er mwyn i fusnesau drosglwyddo i ddefnyddio ffyrdd gwyrddach o weithio – gan ein galluogi i gynnal astudiaethau peirianyddol manwl i seilwaith ar gyfer dal, defnyddio a storio hydrogen a charbon (CCUS) ac yn y pen draw grymuso De Cymru i ddatblygu cynllun datgarboneiddio strategol wedi’i deilwra’n bwrpasol a arweinir gan y diwydiant. Mae SWIC yn cyflogi gweithlu o dros 100,000 o bobl ar y cyd, a chyda’r addewid o greu rhagor o swyddi yr amcangyfrifir eu bod yn y degau o filoedd, ni ellir gorbwysleisio’r cynnydd posibl mewn GYC.

Cymorth Hanfodol gan Lywodraethau’r DU a Chymru

Mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod bod Cymru mewn sefyllfa dda i chwarae rhan ganolog yn yr ymdrech fyd-eang i gyrraedd sero net erbyn 2050, ymrwymo cyfanswm o £90 miliwn i brosiectau arloesol gan gynnwys £15.9 miliwn ar gyfer gwneud cerbydau trwm trydan yng Nghwmbrân, £7.9 miliwn ar gyfer gwresogi ardal ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd, £1.4 miliwn ar gyfer technoleg trafnidiaeth hydrogen a £36 miliwn ar gyfer prosiect y Ganolfan Adeiladu Egnïol i drawsnewid y ffordd y mae’r DU dylunio, adeiladu a gweithredu adeiladau (un o’r prosiectau arloesol y byddwn yn ei drafod yn fanylach yn ystod y gyfres hon).

Yn ogystal, mae gan ein rhanbarth gyfle i elwa o gyllid pellach gan Lywodraeth y DU drwy lwybrau fel y Gronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol gwerth £289 miliwn, y Gronfa Dur Glân gwerth £250 miliwn, y Gronfa Dim Hydrogen Net gwerth £240 miliwn a’r rhaglen Seilwaith Dal a Storio Carbon gwerth £1 biliwn.

“Mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod bod ein rhanbarth mewn sefyllfa dda i chwarae rhan ganolog yn y gwaith o gyrraedd sero net”

Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi gosod eu cynlluniau uchelgeisiol eu hunain ar gyfer datgarboneiddio, gyda UKGov yn anelu at gyflawni allyriadau carbon di-garbon net erbyn 2050 – ac mae Llywodraeth Cymru yn ceisio cynhyrchu 80% o’i anghenion ynni drwy ynni adnewyddadwy erbyn yr un flwyddyn.  Er mwyn cyflawni hyn, mae cynllun Llywodraeth Cymru Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel yn dwyn ynghyd 76 o ddarnau polisi presennol o bob rhan o Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a’r UE lle y caiff datgarboneiddio ei integreiddio naill ai fel canlyniad uniongyrchol neu fudd ehangach, a disgwylir i gam nesaf y cynllun gael ei gyhoeddi eleni i gwmpasu’r ail gyllideb garbon (2021-2026).

Mae’r cynllun hwn eisoes wedi nodi Llwybrau Allyriadau Sector ar gyfer Pŵer, Adeiladau, Trafnidiaeth, Diwydiant, Defnydd Tir, Amaethyddiaeth, Gwastraff a nwyon F –  gan edrych ar uchelgais y sector, proffil allyriadau, camau i’w cymryd a sut mae’r sector yn cyfrannu at nodau llesiant – ac mae’n amlwg bod angen dull cyfannol o dorri ar draws ac integreiddio llawer o bolisïau a rhaglenni datgarboneiddio; camp a fydd yn galw am arweinyddiaeth gref a chydweithredu cyson gan bob sector (a byddwn yn archwilio’r ddau ffactor llwyddiant hanfodol hynny yn ein herthyglau dilynol yn y gyfres hon).

Newid a Fydd yn Trawsnewid ein Rhanbarth – a’r Byd yr Rydym yn Byw Ynddo.

Os byddwn yn cyflawni ein huchelgeisiau datgarboneiddio erbyn 2050, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd fydd un o’r lleoedd gorau yn y byd i fyw, dysgu, gweithio a gwneud busnes.  Bydd ein sectorau masnachol, y trydydd sector a’r sector cyhoeddus wedi gweithio gyda’i gilydd i gyflawni’r nodau a nodir yn y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol arloesol – gan gyrraedd y targed i leihau allyriadau o leiaf 80% yn erbyn llinell sylfaen 1990.

“P-RC fydd un o’r lleoedd gorau yn y byd i fyw, dysgu, gweithio a gwneud busnes” 

Byddwn wedi meddwl mwy am y tymor hir, wedi gweithio’n well gyda’n gilydd, wedi gweithredu’n gynnar ac wedi ymgysylltu â dinasyddion ar y daith hon i economi a chymdeithas carbon isel.  Byddwn wedi gorchfygu llu o heriau cymhleth, gan greu swyddi o safon sydd wedi’u diogelu at y dyfodol ar gyfer yr economi carbon isel fyd-eang.  Bydd gennym y sgiliau a’r cyfleoedd cywir ar waith i godi pobl allan o dlodi, wrth wella eu hiechyd a’u hamgylchedd lleol ar yr un pryd.  Byddwn yn gymdeithas iachach, hapusach a mwy cyfartal, gydag amgylchedd a chymunedau sy’n fwy gwydn nag erioed.

Bydd y newid yn gynhwysfawr – gan leihau ein hallyriadau’n rhannol drwy newid y cynhyrchion rydym yn eu prynu, eu defnyddio a’u cynhyrchu, gwneud dewisiadau gwahanol i’r rhai a wnaethom o’r blaen, gwneud pethau’n wahanol drwy gydol ein bywyd bob dydd, er mwyn sicrhau dyfodol diogel a llewyrchus i ni ein hunain a chenedlaethau’r dyfodol. Byddwn wedi bod yn glir ac yn gyson wrth lunio’r rhanbarth yr ydym am ei gael, drwy osod fframweithiau hirdymor sy’n rhoi eglurder a sicrwydd ar gyfer buddsoddi carbon isel.

“Bydd y newid yn gynhwysfawr” 

Bydd gwahanol systemau ynni ar waith, yn barod i fanteisio’n llawn ar y rhyngberthnasoedd a’r synergeddau rhwng y sectorau pŵer, gwres a thrafnidiaeth.

Bydd gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus glân ac effeithlon ar waith, sy’n ysgogi diwydiannau lleol, cymunedau ac economïau.

Bydd mwy o effeithlonrwydd ynni mewn adeiladau a chyfarpar, drwy ffabrigau adeiladau newydd sy’n troi adeiladau’n orsafoedd pŵer.

Bydd trefniadau cynhyrchu lleol ar waith sy’n harneisio manteision mwy uniongyrchol i’n cymunedau lleol drwy sgiliau cynaliadwy, swyddi o safon a chadw gwerth economaidd yn well.

Bydd llawer llai o wastraff, wrth inni wella ac adfywio mewn ffyrdd newydd, i greu cynhyrchion newydd.

A bydd mwy o fanylion yn yr erthyglau sy’n dilyn – gan ddechrau’r wythnos nesaf, pan fyddwn yn archwilio sut mae strategaeth ynni Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ysgogi ffrydiau allweddol ledled De Ddwyrain Cymru.  

Rhannu:

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin

Newyddion Cysylltiedig

Pan sicrhaodd Clwstwr Diwydiannol De Cymru (SWIC) £1.5 miliwn o gyllid i gefnogi datblygiad cynllun datgarboneiddio cynhwysfawr yn dechrau ym mis Chwefror eleni, cydnabuwyd bod yr ail allyrrwr diwydiannol mwyaf yn y DU (mae De Cymru yn rhyddhau'r hyn sy'n cyfateb i 16 miliwn tunnell o garbon deuocsid bob blwyddyn, drwy gynhyrchu diwydiannol ac ynni) yn cymryd camau difrifol ar y ffordd i ddod yn rhanbarth sero-net erbyn 2050.

Tanysgrifiad i'r cylchlythyr

Os hoffech dderbyn copïau o'n cylchlythyrau, cwblhewch y ffurflen gyda'ch manylion isod.

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi’r profiad gorau ichi fel defnyddiwr. Os dewiswch barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno i’n defnydd o gwcis.