Gwneud ein Cartrefi’n Barod o ran Ynni at y Dyfodol

Categorïau:
Sectorau

Pan amlinellodd y Prif Weinidog Boris Johnson ei Gynllun Deg Pwynt ar gyfer Chwyldro Diwydiannol Gwyrdd ym mis Tachwedd 2020, nid oedd yn gyd-ddigwyddiad bod Pwynt 1 a Phwynt 2 – cynhyrchu Gwynt ar y Môr a chynhyrchu pŵer Hydrogen – yn canolbwyntio ar ddarparu ynni glân a gwyrdd sy’n gallu pweru pob cartref yn y Deyrnas Gyfunol erbyn 2030.

Mae adroddiad awdurdodol y Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd (CCC) ‘UK Housing: Fit For The Future’ wedi dangos na chaiff targedau newid yn yr hinsawdd cyfreithiol rwymol eu bodloni heb fod allyriadau nwyon tŷ gwydr yn cael eu dileu bron yn llwyr o adeiladau’r gwledydd hyn – a chyda 29 miliwn o gartrefi’r wlad yn cyfrif am 14% o holl allyriadau’r Deyrnas Gyfunol, mae yna angen clir a brys i addasu ein stoc tai ar gyfer y tymereddau cyfartalog uwch, llifogydd, prinder dŵr a heriau eraill yr hinsawdd a ragwelir ar gyfer y cartrefi y byddwn yn byw ynddynt erbyn canol y ganrif.

“Y targed yw i gael ynni glân a gwyrdd i bweru pob cartref yma erbyn 2030”

Nid oes ryfedd bod y llywodraeth yn ceisio cynyddu cynhyrchiant gwynt oddi ar y glannau bedair gwaith, gan greu 40GW erbyn 2030 – ac mae’n gweithio gyda’r byd diwydiant i gynhyrchu 5GW o hydrogen carbon isel erbyn diwedd y degawd hwn, gan gynnwys datblygu’r dref gyntaf i gael ei gwresogi’n gyfan gwbl gan hydrogen. Mae’r trawsnewid hwn yn cyflwyno heriau penodol – a chyfleoedd – i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd (P-RC), gydag adroddiad ym mis Gorffennaf 2019 gan Grŵp Cynghori Datgarboneiddio Cartrefi yng Nghymru yn dweud mai’r 750,000 o gartrefi yn ne ddwyrain Cymru sy’n gyfrifol am 27% o’r holl ynni a ddefnyddir ar draws P-RC. Nododd yr adroddiad fod gan ein rhanbarth rai o’r stoc tai hynaf a lleiaf thermol effeithlon yn Ewrop”, gan argymell rhoi cynllun “datgarboneiddio” cartrefi 30 mlynedd o hyd ar waith ledled P-RC erbyn 2050 – gyda phob eiddo yn dilyn y safonau ‘sy’n gallu dygymod â’r newid yn yr hinsawdd’ o fod yn garbon isel, ac yn effeithlon o ran ynni a dŵr; a’r holl stoc tai i gael eu hôl-ffitio fel y bônt â sgôr ynni band A erbyn canol y ganrif hon.

“Mae 750,000 o gartrefi yn gyfrifol am 27% o’r holl ynni a ddefnyddir ar draws P-RC”

Gydag arbenigwyr polisi yn y Sefydliad Materion Cymreig (IWA) yn rhagweld y gallai P-RC fodloni ei holl anghenion ynni o ffynonellau ynni adnewyddadwy erbyn 2035 (drwy gyfuniad o drydan a hydrogen a gynhyrchir gan ynni’r haul, gwynt ar y môr, ynni’r llanw, ynni dŵr, geothermol ac ymasiad niwclear) yn ogystal â chreu miloedd o swyddi newydd a biliynau o bunnoedd o GYC ychwanegol i’r rhanbarth, ni all y trawsnewid ynni domestig ddod yn ddigon cyflym i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd – nac yn unman arall yn y DG o ran hynny,  gyda’r Farwnes Brown, Cadeirydd Pwyllgor Ymaddasu CCC yn rhybuddio: “ni fydd y newid yn yr hinsawdd yn disgwyl amdanom i ni ystyried ein hopsiynau.”

Felly sut olwg fydd ar yr ail-ffitio domestig sydd ar ddod – a fydd panel solar ar bob to, pwmp gwres a mesurydd clyfar ym mhob cartref a phwynt gwefru cerbyd trydan preifat ym mhob eiddo? Sut gaiff yr ail-ffitio hwn ei gyflwyno mewn gwirionedd er mwyn sicrhau bod gan bob cartref ffynonellau gwres carbon isel a lefelau uchel o effeithlonrwydd ynni cartref? A beth yw’r cyfuniad o ynni gwyrdd a fydd yn pweru ein cartrefi yn yr 21ain ganrif?  Mae rhywfaint o’r uchod eisoes yn amlwg, rhai’n dal i fod yn agored i’w mireinio, ond rydym eisoes yn gwybod cymaint â hyn ….

“Gallai P-RC fodloni ei holl anghenion ynni o ffynonellau ynni adnewyddadwy erbyn 2035” 

Yng ngwanwyn 2019, cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys ar y pryd, Philip Hammond na fyddai ‘systemau gwresogi tanwydd ffosil’ (fel nwy ac olew) yn cael eu gosod mewn unrhyw eiddo domestig newydd o 2025, fel rhan o Safon Cartrefi’r Dyfodol. O’r diwrnod hwnnw ymlaen mae’n dod yn fwyfwy anochel y byddai’r DG yn symud tuag at systemau gwresogi sy’n cael eu pweru gan ynni adnewyddadwy sy’n lleihau’r ôl troed carbon ym mhob cartref, gyda dau ddewis yn cael eu hystyried yn rhan annatod o’r ‘dyfodol’ hwnnw:

Pympiau Gwres yw un o’r cyfnewidiadau amlycaf, gan ddefnyddio oerydd i amsugno’r gwres naturiol sydd i’w gael yn y ddaear, yr aer neu o ddŵr. Caiff yr oerydd hwn ei gywasgu i gynyddu’r tymheredd ymhellach, y gellir ei ddefnyddio wedyn i wresogi’r dŵr oer yn y system – cyn cael ei bwmpio i’n rheiddiaduron neu ei gyflenwi i’n tapiau dŵr poeth. Mae pympiau gwres yn gweithio drwy ddefnyddio trydan yn unig, y gellir ei gynhyrchu o ffynonellau adnewyddadwy nad ydynt yn cynhyrchu unrhyw allyriadau carbon yn uniongyrchol – a gallant hyd yn oed gynhyrchu ynni dros ben y gellir ei werthu’n ôl i’r Grid Cenedlaethol.

Boeleri sy’n barod am Hydrogen. Mae llawer yn dadlau na fydd ynni’r haul a phympiau gwres yn ddigon i bweru pob cartref yn y DG – ac ystyrir mai boeleri sy’n barod am hydrogen yw’r dewis amgen mwyaf hyfyw i’r systemau tanwydd ffosil presennol, gan y gallant ddefnyddio’r seilwaith a’r peirianwyr presennol (gyda phris sy’n debygol o barhau’n gystadleuol). Dechreuodd y cartrefi cyntaf â boeleri hydrogen yn y DG i gael eu hadeiladu ym mis Ebrill eleni (yn Gateshead) ac o’r flwyddyn nesaf (yn Fife, yr Alban), bydd offer hydrogen yn cael ei dreialu mewn dros 300 o gartrefi sy’n cael eu bwydo â nwy hydrogen yn uniongyrchol o’r Grid Cenedlaethol.

“Mae eco-systemau sydd wedi’u datgarboneiddio’n llawn yn cael eu treialu a’u profi ar raddfa ehangach” 

Gyda phympiau gwres, bwyleri hydrogen a’r sbectrwm cyfan o ynni adnewyddadwy sy’n dod i’r amlwg ar y gorwel, mae nifer o gydweithrediadau’n treialu a rhoi prawf ar eco-systemau sydd wedi’u datgarboneiddio’n llawn ar raddfa ehangach

Adeiladau Actif.  Mae’r Active Building Centre yn brosiect ar y cyd rhwng Prifysgol Abertawe a nifer o sefydliadau arloesol, gan ddefnyddio technolegau adeiladu actif i drawsnewid sut mae adeiladau’n defnyddio ynni, gan eu troi o fod yn ddefnyddwyr ynni i fod yn ddarparwyr ynni. Mae’r ganolfan wedi sicrhau buddsoddiad o £36 miliwn drwy Gronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannol (ISCF) Rhaglen Her Trawsnewid Adeiladu – ac mae eisoes wedi llwyddo i dreialu cartrefi wedi’u cynllunio’n hyfryd a gweithleoedd cyfforddus, wedi’u pweru gan ynni glân a hunan-gynhyrchwyd sy’n gwneud biliau ynni ac allyriadau carbon yn rhywbeth o’r gorffennol, integreiddio technolegau adnewyddadwy ar gyfer gwres, pŵer a thrafnidiaeth (a phan fyddant yn gysylltiedig ag Adeiladau Actif eraill mewn rhwydwaith, hyd yn oed yn meddu ar y gallu i fasnachu ynni fel rhan o economi gylchol).

Gwres cyfuniad hydrogen ar gyfer Tai. Ar hyn o bryd mae Hoare Lea, Pobl ac Ynni Glân yn gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu cyfadeilad fflatiau ar gyfer pobl hŷn yng Nghasnewydd – gan archwilio opsiynau i gymysgu hydrogen â nwy naturiol er mwyn lleihau allyriadau o’r system wresogi ar y safle. Mae’r peilot hwn yn rhan o raglen yn y Deyrnas Gyfunol i gyflawni targed y Prif Weinidog o gyfuno hyd at 20% o hydrogen i rwydwaith nwy Prydain o 2023, fel y gall cartrefi Prydain leihau eu hallyriadau carbon sy’n cyfateb i 2.5 miliwn o geir y flwyddyn – wedi ei gyflawni heb i neb orfod newid eu cyfarpar cartref.

Systemau Ynni Lleol Clyfar.  Mae prosiect Milford Haven Energy Kingdom yn archwilio sut olwg allai fod ar system ynni lleol glyfar wedi’i datgarboneiddio ar gyfer Dyfrffordd Aberdaugleddau – gan gynnwys potensial hydrogen fel rhan o ddull aml-fector o ddatgarboneiddio. Mae’r system ynni leol yn cael ei chynllunio i roi cymunedau a diwydiant lleol wrth wraidd y prosiect – gan gyrraedd targed sero net drwy ynni adnewyddadwy lleol (solar, gwynt ar y tir, ac yn y dyfodol gwynt ar y môr a biomas) a marchnadoedd amrywiol ar gyfer hydrogen ar draws sectorau gwres, pŵer, trafnidiaeth a diwydiant.

Bydd y prosiect dwy flynedd yma yn rhedeg tan 2022, gan greu cynigion y gellir buddsoddi ynddynt – a chan gynnwys arddangos nodweddion a thechnolegau sy’n barod am hydrogen megis pwmp gwres hybrid a boeler arddangos sy’n barod am hydrogen ar gyfer gwresogi (yn ogystal â gorsaf ail-lenwi cerbyd hydrogen ar gyfer ceir celloedd tanwydd RASA Riversimple), gan ganiatáu i bobl brofi offer a cherbydau gwresogi hydrogen yn y byd go iawn, gan ddefnyddio pensaernïaeth systemau ynni cynhwysfawr.

Adeiladu’r Llwybr Nwy yn Mynd yn Wyrdd. Mae Wales and West Utilities wedi dechrau ei raglen waith ar gyfer y Gymdeithas Rhwydweithiau Ynni (ENA) Gas Goes Green yn 2021 – rhaglen chwe cham sy’n gwneud y newidiadau angenrheidiol i drosi seilwaith rhwydwaith $24bn Nwy Prydain i redeg ar hydrogen a biomethan yn lle hynny, heb fod angen i bobl newid eu cyfarpar cartref. Gallai biomethan yn unig sicrhau gostyngiad o 6% yn allyriadau nwyon tŷ gwydr y DG erbyn 2030, gan ddarparu gwres ar gyfer 6.4 miliwn o gartrefi.

Mae’r cam Cynllunio ac Ymchwil cychwynnol yn symud tuag at yr ail gam – Hwyluso Cysylltiad Mwy o Nwy Gwyrdd – sy’n cynnwys rhoi’r trefniadau trwyddedu cywir ar waith i adeiladu’r seilwaith drwy ganolfannau diwydiannol Prydain, gan gyfuno 20% o hydrogen i’r rhwydwaith nwy domestig erbyn 2023 (fel y nodir yn ein cynllun peilot cynharach yng Nghasnewydd) – a rhoi hwb i gynhyrchiant biomethan drwy greu mwy o le i ffermwyr a chynhyrchwyr biomethan eraill, drwy drosi gweithfeydd pŵer bio-nwy presennol a symleiddio’r broses i gysylltu â’r grid nwy ar gyfer biomethan a hydrogen.

Wrth i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, Cymru a’r DG gyfan drawsnewid i ynni glân a datgarboneiddio, bydd angen llawer o ymyriadau dewr gan y llywodraeth – a bydd angen i bob un ohonom wneud newidiadau di-rif o ran ein hymddygiad. Mae’r busnesau bach sy’n gyrru ein heconomi yn dechrau arwain y ffordd yn y newid ymddygiadol hwn – a byddwn yn edrych ar nifer o’r busnesau unigol hynny yn ein herthyglau nesaf, gan ddechrau gyda Riversimple, y BBaCh yn Sir Fynwy sy’n sbarduno newid drwy weithgynhyrchu cerbydau sy’n cael eu pweru gan gell hydrogen a adeiladwyd yn lleol…      

Rhannu:

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin

Newyddion Cysylltiedig

Pan sicrhaodd Clwstwr Diwydiannol De Cymru (SWIC) £1.5 miliwn o gyllid i gefnogi datblygiad cynllun datgarboneiddio cynhwysfawr yn dechrau ym mis Chwefror eleni, cydnabuwyd bod yr ail allyrrwr diwydiannol mwyaf yn y DU (mae De Cymru yn rhyddhau'r hyn sy'n cyfateb i 16 miliwn tunnell o garbon deuocsid bob blwyddyn, drwy gynhyrchu diwydiannol ac ynni) yn cymryd camau difrifol ar y ffordd i ddod yn rhanbarth sero-net erbyn 2050.

Tanysgrifiad i'r cylchlythyr

Os hoffech dderbyn copïau o'n cylchlythyrau, cwblhewch y ffurflen gyda'ch manylion isod.

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi’r profiad gorau ichi fel defnyddiwr. Os dewiswch barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno i’n defnydd o gwcis.