Gwneud i chwyldro trafnidiaeth ac ynni Prifddinas-ranbarth Caerdydd ddigwydd nawr

Categorïau:
Arwain Agweddau

“Os byddwn yn ymgysylltu â phawb byddwn yn cael y gorau allan o bawb”

“Fel pob rhan arall o’r DU a’r byd, mae Pen-y-bont ar Ogwr yn ymdrin o hyd â sioc y pandemig a’r hyn sy’n teimlo fel 10 mlynedd o newid wedi’u cywasgu i mewn i 12 mis. Nid ydy unrhyw un ohonom wir yn gwybod beth fydd effeithiau hirdymor y flwyddyn ddiwethaf arnom fel unigolion, ar ein gweithleoedd neu ar y stryd fawr – ond rwy’n gwybod mai’r bobl yw ein hased mwyaf a byddant felly bob amser, felly bwriad y dyfodol yw rhoi lles pawb wrth wraidd pethau. Os byddwn yn gwneud hynny, byddwn yn ymgysylltu â phawb ac yn cael y gorau allan ohonynt – a dyna ble mae’n rhaid i ni fuddsoddi ein hegni wrth i ni ddod allan o’r modd goroesi i adeiladu yn ôl yn well.

“Rydym wedi denu sylw oherwydd bod gennym gweithlu brwdfrydig a’r gallu i ailddyfeisio ein hunain”

“Rydym wedi cael llawer o heriau i’w goresgyn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ond rydym yn ffodus mewn sawl ffordd bod Pen-y-bont ar Ogwr, yn draddodiadol, wedi denu sylw gan fod ganddo weithlu llawn cymhelliant sy’n perfformio’n uchel.  Pan ddaeth Sony yn un o’r mewnfuddsoddwyr mwyaf yn Ewrop trwy sefydlu yn ein hardal, yn ôl ar ddiwedd y 70au, roeddent yn gwybod o’u hymchwil y gallent ddibynnu ar gyflogeion ymrwymedig a fyddai bob amser yn gwneud yn fwy na’r gofyn – ac hyd heddiw maent yn gweld eu safle yma fel un o’r rhai mwyaf arloesol a chynhyrchiol yn y byd. Bues i’n gweithio ar linell gynhyrchu Sony ym Mhencoed – ac mae llawer o’r gweithwyr a oedd yno bryd hynny yno o hyd nawr – a thrwy’r blynyddoedd mae’r brand byd-eang hwnnw wedi trawsnewid ei safle ym Mhen-y-Bont ar Ogwr i fod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer cynhyrchion arbenigol fel camerâu ac opteg gwerth uchel, gan arwain y byd drwy ei feddwl arloesol a’i waith dîm.

‘Gall P-RC arwain yr adferiad gwyrdd a glân”

“Mae Sony yn enghraifft wych o ailddyfeisio, hyd yn oed gan ddefnyddio eu lle i greu canolbwynt ar gyfer microfusnesau, sydd eisoes wedi dod yn lle poblogaidd iawn ar gyfer busnesau newydd sy’n cynhyrchu meddalwedd gemau. Felly efallai na ddylai ddod fel syndod ein bod yn cofleidio’r ysbryd arloesedd hwn wrth i P-RC geisio arwain y chwyldro di-garbon trwy gyflwyno 122 o bwyntiau gwefru ar gyfer ceir allyriadau isel iawn. Y weledigaeth yw parhau i ymestyn y rhwydwaith hwn i bob cymuned ym mhob tref, dinas, pentref a chwm ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd – gan roi De-ddwyrain Cymru o flaen y byd o ran adferiad economaidd a chymdeithasol gwyrdd.

“Arwain diwydiant newydd sbon o’r enw ULEV”

“Ni all hynny ddod yn ddigon cyflym gan fod yr argyfwng hinsawdd yn tyfu’n fwy bob dydd ac mae gennym oll ein rhan i’w chwarae wrth ei oresgyn. Mae’r dyddiau’r car petrol yn dod i ben ac mae’n rhaid i ni gyflymu’r newid i allyriadau isel iawn. Felly mae gennym ddewis: gallwn wylio’r newid hwn o bell a dal i fyny, neu gallwn fod ar flaen y gad yn y chwyldro hwn, gan greu màs critigol ar ei gyfer yma ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd ac arwain y diwydiant newydd sbon hwn o’r enw ULEV.

Rydym yn gwneud i bethau ddigwydd bob dydd, gan weithio’n agos gyda’r llywodraeth i weithredu Gweledigaeth a Strategaeth Ynni sy’n creu newidiadau mawr. Mae’n agenda anferth, yn ymestyn o ddatgarboneiddio at ynni adnewyddadwy, ac rydym yn gwybod un peth: ni fyddwn yn mynd yn ôl i’r ffordd yr oedd o’r blaen. Mae’r hinsawdd yn newid nawr ac mae’n rhaid i ni newid gyda hi. Nid oes gennym ddewis o gwbl ac mae’n rhaid i ni fwrw ymlaen ag ef. Mae hynny’n golygu mabwysiadu ynni adnewyddadwy a lleihau allyriadau carbon yn gyflym. Gall y rhanbarth hwn arwain y ffordd ac mae’n gwneud felly. Mae gennym y gwynt a’r dŵr, yr ewyllys a’r dechnoleg. Rwy’n gwybod y gallwn ei wneud – ac mae’n rhaid i ni ei wneud.

Mae gennym y gwynt a’r dŵr, yr ewyllys a’r dechnoleg. Rwy’n gwybod y gallwn ei wneud – ac mae’n rhaid i ni ei wneud.”

“Mae ein Hawdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau ein bod yn cyflawni buddsoddiad cynhwysol ar draws y rhanbarth – ac mae ein gwaith yn mynd ymhell y tu hwnt i ULEV, Metro+ a Metro De Cymru a fydd yn cysylltu cymunedau fel erioed o’r blaen. Bydd ein Gweledigaeth Rheilffyrdd Teithwyr newydd sydd i’w chyhoeddi’n fuan, a’r blaenoriaethau a nodir ynddi, yn ein helpu i lefelu’r rhanbarth oherwydd bod hynny’n dechrau gyda’n strwythur trafnidiaeth. Dyma ble mae’r anghydraddoldeb mwyaf rhyngom ni a gweddill y DU. Rydym wedi cael ein hamddifadu o fuddsoddiad mewn rheilffyrdd yma yng Nghymru, felly nid oes gennym seilwaith modern ac mae angen i hynny newid. Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a Network Rail i leihau’r rhaniad hwnnw.

“Bydd ein Gweledigaeth Rheilffyrdd Teithwyr yn ein helpu i gyflawni proses lefelu deg

“Nid ydym yn blwyfol – rwy’n croesawu HS2 ond mae angen i’r buddsoddiad fod yn deg ledled y Deyrnas Unedig. Ac nid yw’n fater o gael pobl allan o’u ceir ac ar y rheilffyrdd yn unig, er bod hynny’n bwysig. Mae wrth wraidd cystadleurwydd economaidd a gwneud ein hunain yn ddeniadol i fewnfuddsoddi. Dyna ein gweledigaeth. Rydym yn gwybod mai dyma yw gweledigaeth Llywodraeth Cymru a chredwn ei bod yn cael ei rhannu gan San Steffan – a dyna pam rydym yn ei nodi fel un o’n cynigion galluogi allweddol mewn prosbectws Buddsoddi rhanbarthol newydd – Prosperity for Our Place – a gaiff ei gyflwyno i lywodraethau Cymru a’r DU yn ddiweddarach y mis hwn.

“Sicrhau nad oes rhaid i unrhyw un yn ein rhanbarth ddewis rhwng bwyta a gwres

“Bu’r pandemig hon yn drobwynt, gan roi’r ysgogiad sydd ei angen arnom ar gyfer newid sylfaenol. Rydym eisiau adferiad o Covid ac nid ydym eisiau dirwasgiad economaidd – felly gadewch i ni fuddsoddi yn ein hynni gwyrdd a bydd hynny’n rhoi ysgogiad i swyddi yn ogystal â dod ag effeithlonrwydd ynni. Gadewch i ni symud y deial ar dlodi tanwydd fel nad oes rhaid i unrhyw un yn ein rhanbarth wneud y dewis rhwng bwyta a gwres.  Mae adeiladu’n ôl yn well yn golygu paratoi at y dyfodol, beth bynnag yw’r dyfodol. Rwy’n gweld hyn fel cyfle i adeiladu diwydiannau newydd, creu swyddi newydd a lleihau’r rhaniad economaidd.

Rhannu:

Newyddion Cysylltiedig

Wrth inni nesáu ar Ddiwrnod Cyfeillgarwch y Byd eleni, rydym yn dathlu ac yn coffáu’r cysylltiadau a’r partneriaethau y mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi’u datblygu yn y flwyddyn gyntaf o’u tenantiaeth a leolir yn Cathays, o bartneriaethau â sefydliadau eraill a leolir yn sbarc … perthnasoedd a naddwyd drwy ddigwyddiadau a gynhaliwyd yn yr adeilad … a mwy.

Tanysgrifiad i'r cylchlythyr

Os hoffech dderbyn copïau o'n cylchlythyrau, cwblhewch y ffurflen gyda'ch manylion isod.