Ysgrifennwyd gan: Karen Thomas, Pennaeth Corfforaethol De Cymru, Banc Buddsoddi Barclays ac aelod o Fwrdd Partneriaeth Twf Economaidd P-RC.
Mae creu economi gystadleuol gyda chymunedau cryf yn un o amcanion Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Mae’r economi’n newid drwy’r amser, yn gylchol yn y tymor byr ac am resymau strwythurol dyfnach. Os ydyn ni am i’n cymunedau, lle bynnag yn y rhanbarth y maen nhw, ffynnu a bod yn gynaliadwy yn y tymor hir, mae angen iddyn nhw allu gwrthsefyll popeth a allai ddod i’w wynebu a dod ohoni yr un mor gryf, os nad yn gryfach, nag yr oedden nhw o’r blaen.
Er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd, mae angen i ni wneud yr hyn a allwn i feithrin gwydnwch yn ein busnesau. Ond beth mae gwydnwch busnes yn ei olygu? Yng nghyd-destun 2020, mae gwydnwch busnes yn golygu gallu addasu i ystod eang o risgiau dros gyfnod hir, risgiau na fydd modd eu rhagweld weithiau.
Fel rhywun sy’n gweithio gyda busnesau bob dydd yn fy mywyd proffesiynol, rwy’n ystyried gwydnwch fel gallu sefydliad i addasu’n gyflym i bob math o risg. Eleni, mae hyn wedi ei roi ar brawf i raddau na welwyd erioed o’r blaen. Rydyn ni’n ymwybodol iawn o’r angen i gefnogi busnesau wrth iddyn nhw ddechrau ad-dalu cynlluniau benthyca a gefnogwyd gan y Llywodraeth. Mae 75% o’r Benthyciadau Adfer gyda chwsmeriaid nad ydyn nhw erioed wedi benthyca o’r blaen. Mae angen i ni eu cefnogi i reoli eu strategaeth ad-dalu. Hoffem weld ymagwedd gyson ar draws y diwydiant
Hyder a hyblygrwydd
Cyn y pandemig, byddai’r rhan fwyaf o fusnesau wedi cael cynlluniau ailddechrau busnes i ymdopi â digwyddiadau tymor byr fel llifogydd. Faint o dimau rheoli fyddai wedi gorfod addasu eu busnesau am gyfnod mor hir ag sydd wedi bod yn angenrheidiol eleni? Faint sydd wedi gorfod newid eu harferion gwaith cyhyd, neu ddarparu ar gyfer newidiadau mor fawr yn y ffordd maen nhw’n gwneud busnes? Faint sydd wedi gorfod wynebu, fel y mae rhai, ostyngiad mor ddramatig dros nos yn eu hincwm, a hynny am gyfnod amhenodol?
Ac eto, ar yr un pryd, rydyn ni wedi gweld enghreifftiau ysbrydoledig lu o hyblygrwydd a gwydnwch gan fusnesau a gweithwyr. Mae’n cynnwys pethau fel addasu i gael gweithwyr yn gweithio gartref, gan eu haddysgu i ddefnyddio technolegau fel Teams a Zoom. Po fwyaf yr heriwn ein hunain i fabwysiadu technoleg newydd i wella’r ffordd rydyn ni’n gweithredu, y mwyaf hyderus y byddwn ni. Mae angen i ni gadw’r meddylfryd hwn.
O edrych ar y ffordd y mae rhai o’n gweithgynhyrchwyr yng Nghymru wedi dangos ystwythder drwy addasu eu prosesau i gefnogi’r gwaith o greu cyfarpar diogelwch personol (CDP) neu hylif diheintio dwylo, allwn ni ond rhyfeddu. Petaech wedi gofyn iddyn nhw 5 mlynedd yn ôl a fydden nhw’n gallu dychmygu y bydden nhw’n cynhyrchu CDP, mae’n siŵr y bydden nhw wedi dweud, wel, na, nid dyna ein cynnyrch traddodiadol. Ac eto, pan oedd yr angen yno, fe atebon nhw’r her.
Yn yr un modd, o edrych ar ein sector lletygarwch a hamdden, sy’n chwarae rhan mor enfawr yn economi Cymru, mae’r ffordd y mae busnesau wedi addasu i wneud yn fawr o’u cyfleusterau, neu wedi mabwysiadu technoleg i barhau i ddarparu gwasanaeth i’w cwsmeriaid, hefyd wedi bod yn drawiadol.
Arloesi a chyflenwi lleol
Mae agweddau eraill ar wydnwch yn ogystal â’r gallu i addasu at ddigwyddiadau sydyn, annisgwyl. Mae arloesi’n un agwedd arall. Mae newid yn yr economi’n gyson: mae demograffeg yn newid, mae technoleg yn newid, mae’r amgylchedd busnes yn newid, mae agweddau cymdeithasol a diwylliannol yn newid ac mae disgwyliadau’n newid.
Busnesau lle mae arloesi’n rhan annatod o’r norm yw’r rhai sy’n goroesi dros y tymor hir. Yng Nghymru yn gyffredinol, mae lefel y buddsoddiad mewn Ymchwil a Datblygu ac arloesi’n rhy isel. Allwn ni ddim fforddio gadael i hynny barhau os ydyn ni am adeiladu’r gwydnwch rydyn ni ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn dymuno’i weld.
Agwedd arall ar wydnwch yn yr amgylchedd ôl-Covid yw pwysigrwydd cyflenwi’n lleol lle bo’n bosibl. Mae hyn yn arbennig o bwysig i ni wrth i ni geisio adeiladu clystyrau ac ecosystemau cryf yn ein sectorau diwydiant allweddol.
Wrth gwrs, mae yna gydbwysedd i’w daro rhwng y dymuniad i gael cyflenwadau lleol a pharodrwydd cwsmeriaid terfynol i dalu costau ychwanegol. Os meddyliwn yn ôl i ddyddiau cynnar y pandemig, gyda phobl yn ciwio a nwyddau’n absennol o’r silffoedd, am ba hyd y bydd yr atgof hwnnw’n aros gyda ni, neu pa mor gyflym y byddwn yn anghofio ac yn dechrau meddwl unwaith eto mai dim ond yr opsiwn rhataf rydyn ni am ei gael? Wedi’r cyfan, dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl roedden ni’n sôn am ddarparu mewn pryd neu “just in time” a lefelau isafswm stoc, a dyw hynny ddim wedi bod o gymorth yn ystod y pandemig.
Felly mae cydbwysedd i’w daro, a bydd yn wahanol ar gyfer pob busnes, boed yn wneuthurwr neu’n fanwerthwr. Ond mae ceisio gwella’r cyflenwad lleol yn debygol o gynyddu gwydnwch busnesau, cymunedau a’r rhanbarth.
Rhaid i ni beidio â thanbrisio’r heriau sydd o’n blaenau wrth i ni symud i’r hydref a’r gaeaf, gyda’r posibilrwydd o fwy o gyfyngiadau cloi i ddod. Mae’n mynd i barhau’n gyfnod heriol i lawer o fusnesau; bydd y gwydnwch a’r hyder i addasu’n gyflym yn rhoi mantais i’r rhai mwy llwyddiannus. Rydyn ni wedi bod yn brysur yn cael benthyciadau i’r rhai sydd ei angen ond mae’r cymorth a roddwn yn ehangach nag arian yn unig. Rydyn ni wedi bod yn gweithio ledled y wlad i helpu busnesau i addasu a newid eu modelau busnes.