Hwb enfawr i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd wrth iddi ymuno â phartneriaeth strategol gyda’r Gronfa Gyfoeth Wladol

Categorïau:

Bydd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ffurfio partneriaeth strategol swyddogol gyda’r Gronfa Gyfoeth Wladol – Sefydliad Cyllid Cyhoeddus y DU a chronfa gyfoeth genedlaethol yn yr hyn sy’n addo bod yn gyfle euraidd i gyflymu buddsoddiad a thwf ledled de-ddwyrain Cymru.

Bydd y bartneriaeth yn rhoi mynediad uniongyrchol at wybodaeth, arbenigedd a chyfalaf buddsoddi’r Gronfa Gyfoeth Wladol, i helpu i ddatblygu a thyfu llif prosiectau, denu cyllid cyhoeddus a phreifat a darparu seilwaith allweddol i gefnogi twf a chreu swyddi â gwerth uchel.

Ymhlith y rhannau eraill o’r DU sydd wedi ymuno â phartneriaethau strategol tebyg gyda’r Gronfa Gyfoeth Wladol mae Greater Manchester Combined Authority, Dinas-Ranbarth Glasgow, West Midlands Combined Authority a West Yorkshire Combined Authority.

Mae prosiectau sydd eisoes yn derbyn canllawiau a chefnogaeth gynghorol drwy partneriaethau tebyg yn cynnwys y Clyde Metro yn Rhanbarth Dinas Glasgow, The Sports Quarter yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, bysiau allyriadau sero newydd ym Manceinion Fwyaf, a Mass Transit yng Ngorllewin Swydd Efrog.

Gan gydweithio’n agos â’r Gronfa Gyfoeth Wladol, Llywodraeth Cymru a’r deg awdurdod lleol sy’n rhan o’r rhanbarth, bydd y bartneriaeth yn gyfle i alinio buddsoddiad a chapasiti cenedlaethol, ag uchelgais, asedau a chyfleoedd ein rhanbarth, gan adlewyrchu ‘ffordd Gymreig’ nodedig o wneud y gorau o fuddsoddiad cyhoeddus.

Mae hyn yn adeiladu ar lwyddiannau diweddar y rhanbarth mewn adfywio economaidd, fel ei Chronfa Safleoedd Strategol a Menter y Cymoedd Gogleddol lle mae dros £115M o gyllid yn gweithio’n galed, gan greu mannau busnes a diwydiannol o ansawdd uchel i gwmnïau lleol ehangu.

Wrth sôn am y cyfle pwerus ac ymarferol i’r rhanbarth, dywedodd y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, Cadeirydd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: “Mae’r bartneriaeth strategol hon â’r Gronfa Gyfoeth Wladol yn arwydd o hyder yn y rhanbarth i gyflymu datblygiad prosiectau arloesol a fydd yn sbarduno twf economaidd cynaliadwy ar draws ein rhanbarth ac er budd y genedl a chymunedau lleol.

“Drwy gyfuno ein dealltwriaeth ddofn o gyfleoedd lleol ag arbenigedd buddsoddi a chyfalaf y Gronfa, gallwn gryfhau ein llif o brosiectau buddsoddi, datgloi buddsoddiad y sector preifat a darparu’r seilwaith sydd ei angen i gefnogi cymunedau ffyniannus, gwell cysylltedd a swyddi o ansawdd uchel. Edrychwn ymlaen at gydweithio’n agos â’r Gronfa Gyfoeth Wladol, Llywodraeth Cymru a’n partneriaid awdurdodau lleol i droi cynlluniau uchelgeisiol yn brosiectau y gellir eu cyflawni sy’n creu ffyniant hirdymor i’n trigolion.”

Yn y cyfamser, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Kinnock: “Mae’r Prif Weinidog a’r Canghellor wedi ymrwymo i sicrhau twf a swyddi da ym mhob cod post yng Nghymru. Daw  hyn o rymuso arweinwyr rhanbarthol a chefnogi diwydiannau modern i ddatgloi cyfleoedd i’n cymunedau.

“Bydd y bartneriaeth newydd rhwng Cronfa Gyfoeth Wladol Llywodraeth y DU a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn helpu i hybu economi Cymru trwy ysgogi buddsoddiad mewn seilwaith, adfywio a swyddi’r dyfodol.”

Mae’r model Partneriaethau Strategol, a ddarperir trwy raglen Cyflymydd Prosiectau Rhanbarthol y Gronfa Gyfoeth Wladol, yn dangos gwerth partneriaethau dyfnach, tymor hwy gydag arweinwyr lleol, gan ddod ag arbenigedd y Gronfa ynghyd â gwybodaeth leol i gefnogi prosiectau a all wella seilwaith lleol a datgloi cyfleoedd datblygu mawr. Bydd y Gronfa Gyfoeth Wladol yn parhau i ymestyn y model Partneriaethau Strategol i Awdurdodau Strategol Maerol a Dinas-Ranbarthau eraill dros amser, gan barhau i ganolbwyntio’r gefnogaeth lle gall gael yr effaith fwyaf.

Wrth gydnabod y deng mlynedd o weithio mewn partneriaeth sydd wedi bod yn sail i’r datblygiad arloesol, dywedodd Kellie Beirne, Prif Weithredwr, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: “Rwy’n croesawu ffurfio partneriaeth strategol gyda’r Gronfa Gyfoeth Wladol. Drwy gysylltu capasiti buddsoddi cenedlaethol â’r uchelgais a’r cyfleoedd ar draws pob un o’r deg ardal yn ein rhanbarth – a gweithio yn y ffordd Gymreig, ar y cyd â llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol – gallwn ddatgloi cyfalaf preifat, cyflymu’r ddarpariaeth a chael effaith fwy ar y cyd ar ein heconomi, ein cymunedau a’n lleoedd. Mae’n dangos unwaith eto yr hyn y gall Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ei gyflawni fel grym dros Gymru.”

Dywedodd Oliver Holbourn, Prif Swyddog Gweithredol y Gronfa Gyfoeth Wladol: “I ddatgloi dyfodol y DU mae angen i ni dyfu economïau rhanbarthol. Mae’r cyhoeddiad hwn yn arwydd o’n hymrwymiad parhaus i ehangu ein partneriaethau ag arweinwyr lleol ledled y DU, gan ddarparu cefnogaeth bwrpasol yn seiliedig ar anghenion a chyfleoedd lleol, creu swyddi a lledaenu manteision parhaol buddsoddiad i’r cymunedau lleol maen nhw’n eu gwasanaethu.”

Am ragor o wybodaeth am Gyflymydd Prosiectau Rhanbarthol a Phartneriaethau Strategol y Gronfa Gyfoeth Wladol, ewch i Local government support.

Rhannu:




Newyddion Cysylltiedig

Agorwyd datblygiad swyddfeydd mawr newydd yng nghanol Caerdydd yr hydref hwn, yn dilyn benthyciad o £15 miliwn gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd (PRC) i helpu i ddarparu gofod cyflogaeth cynaliadwy o ansawdd uchel yn Stryd John.

Subscribe for updates

Skip to content