Mae’r bennod – Llunio Lleoedd ac Adfywiad, Sut y Gwnaeth Buddsoddiad Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn Zip World Drawsnewid Pwll Glo’r Tower – yn archwilio sut y gwnaeth benthyciad ad-daladwy Prifddinas-Ranbarth Caerdydd o £4.4 miliwn i Zip World yn 2020 nid yn unig ddod â bywyd newydd i’r safle eiconig ond hefyd alluogi buddion economaidd ehangach ar gyfer y rhanbarth.
Cynorthwyodd y buddsoddiad nodedig i greu Tŵr Zip World, atyniad anturiaeth o safon byd ar safle un o byllau glo mwyaf hanesyddol arwyddocaol Cymru.
Gan gynnwys mewnwelediadau gan Sean Taylor, Sylfaenydd Zip World; Kellie Beirne, Prif Swyddog Gweithredol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd; ac Antony Hunt, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, mae’r bennod yn archwilio’r meddylfryd strategol wrth wraidd y buddsoddiad, yr heriau o ail-bwrpasu safle mor eiconig, a’r effaith grychdon a gafodd ar greu swyddi, ar falchder cymunedol, ac ar hyder buddsoddwyr.