Mae ailystyried ein hymagwedd yn gorfod bod yn un o waddolion Covid-19

Categorïau:
Arwain Agweddau

Ysgrifennwyd gan Cerys Furlong, Prif Weithredwr Chwarae Teg ac Aelod o Fwrdd Partneriaeth Twf Economaidd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Mae’r haint Covid-19 wedi bod ac yn parhau i fod yn brofiad ofnadwy i lawer o bobl ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Ond mae yna hefyd rai gwersi cadarnhaol wedi bod y gallwn eu defnyddio ar yr adeg hon, ac mae yna gyfleoedd wrth inni gefnu ar yr haint i adeiladu busnesau newydd a gwell cymunedau.  Mae yna oblygiadau hefyd ar gyfer y math o benderfyniadau buddsoddi rydym yn eu gwneud yn y Fargen Ddinesig.

Nid cydradd mo effeithiau

Yr hyn sydd wedi’i ddwyn i sylw yn bendant iawn yw sut mae’r argyfwng yn effeithio’n wahanol ar wahanol grwpiau o bobl.  Gwyddom fod effeithiau economaidd y cyfyngiadau symud yn cael effaith anghymesur ar rai grwpiau o bobl, sydd hefyd yn waeth eu byd oherwydd y blynyddoedd o gyni.  Os oes gennym ddiddordeb mewn cydraddoldeb, yna mae’n rhaid inni feddwl am sut rydym yn ceisio buddsoddi’n wahanol i roi sylw i’r ffaith honno.

Mae yna ddadl gyffelyb ynglŷn â chynaliadwyedd.  Os meddyliwn am y math o bethau y mae arnom eisiau buddsoddi ynddynt, gadewch inni fod yn sicr eu bod yn gynaliadwy ar gyfer yr hirdymor – nid dim ond yn economaidd – eu bod wedi’u cynllunio i fod yn gynaliadwy, i wneud cyfraniad cadarnhaol, ac nad ydynt yn atgyfnerthu hen arferion drwg.

Gwelsom rai o’r agweddau gwaethaf o sut mae pŵer yn gweithio yn ein heconomi yn cael ei ddatgelu’n eglur.  Gwaith fel glanhau, gofalu, ac arlwyo, y’u hystyrid bob amser fel sgiliau isel, gyda chyflog isel, ac efallai hyd yn oed â gwerth isel.  Yn hollol sydyn, rydym i gyd yn ddibynnol iawn ar y pethau hynny a’r bobl sy’n gwneud y gwaith hwnnw.  Mae arnom eu hangen i’n cadw’n ddiogel, i ofalu amdanom, ac i’n cadw’n iawn.

Felly, mae arnom angen rhoi’r bobl sy’n gwneud y math hwnnw o waith wrth graidd y penderfyniadau a wnawn, ac mae hynny’n newid go fawr o’r hyn sydd wedi bod yn digwydd hyd yn hyn, ac nid dim ond yma yng Nghymru ond ymhobman.  Mae ar y bobl nad yw eu lleisiau’n cael eu clywed o amgylch y bwrdd angen cael eu clywed, ac fel cenedl mae arnom angen rhoi’n harian yn y pethau sy’n cyfrif fwyaf ac ymhle y mae ein gwerthoedd.

Amser am ymagwedd newydd

Yn y math hon o sefyllfa, fe all fod yna dueddiad i feddwl, ‘Gadewch inni gael pethau yn ôl i normal mor gyflym â phosibl’, tra beth mae arnom oll angen ei ystyried, mewn gwirionedd, yw, ‘A oes arnom eisiau dychwelyd i’r normal a oedd gennym’, oherwydd bod rhai o’r strwythurau a fodolai wedi bod yn wirioneddol niweidiol.  Gallwn weld hynny yn eglur iawn yn awr o ran pobl ag iechyd gwael, a modd gwael o gael at y farchnad lafur.

Yn y gorffennol, fe ddylanwadwyd ar ein hymagwedd tuag at ddatblygu economaidd gan ystadegau cyfarwydd.  Roeddem yn mesur Cynnyrch Domestig Gros, roeddem yn mesur Gwerth Ychwanegol Gros, ond ni wnaethom fesur lles pobl.  Rydym wedi meddwl am fuddsoddi mewn seilwaith ffisegol, ond beth am ein seilwaith cymdeithasol?

Mae arnom angen dechrau meddwl am bethau mewn ffordd wahanol, fel sut y byddech yn sbarduno’r economi i’w lunio yn y ffordd y dymunwn, fel nad ydym mor ddibynnol ar rai diwydiannau sydd, yn blwmp ac yn blaen, yn anghynaliadwy ac yn fregus.  Dyna newid eitha’ mawr.

Yn aml mewn argyfyngau, fe ellir ystyried cynllunio hirdymor fel ychydig bach o foethusrwydd, hyd yn oed o ran mynd i’r afael â materion hanfodol.  Ond i’r rheiny ohonom sydd mewn sefyllfa i ddylanwadu, mae arnom angen defnyddio’r fraint honno a meddwl dros yr hirdymor.  Ein cyfrifoldeb ni yw gwneud yn sicr ein bod yn ddiwyd wrth wneud hynny.

Dylai hyn fod yn gyfle enfawr i gael pobl oedd gynt wedi’u cloi allan o’r farchnad lafur i weithio.  Er enghraifft, mae cyfraddau cyflogaeth pobl anabl yn eithriadol o isel.  Gyda llawer o sefydliadau’n newid i weithio o bell a gweithio y tu allan i’r swyddfa, fe ddylai hynny ein galluogi i recriwtio pobl llawer mwy amrywiol i’n mannau gwaith, a all ond bod yn dda i bawb.

Mae’n rhaid inni atgyfnerthu rhai o’r pethau cadarnhaol hynny rydym wedi’u dysgu, fel ein bod yn cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd, yr economi a’n cymunedau.  Gadewch i hynny fod yn un o waddolion Covid-19.

Rhannu:

Newyddion Cysylltiedig

Mae 'Arloesi' yn un o bileri allweddol Prifddinas-ranbarth Caerdydd. Yn ogystal â Chysylltedd, Cynaliadwyedd a Chynhwysiant, mae wrth wraidd popeth a wnawn. Ond beth yw 'Arloesi'? Beth yw ei brif nodweddion? A sut rydym yn cymharu â rhanbarthau a gwledydd eraill fel 'arloeswr'? Mae'r erthygl hon yn archwilio’r darlun mwy o ran arloesi ac yn rhoi persbectif i Brifddinas-ranbarth Caerdydd ei hun #ArloesiArWaith ....

Tanysgrifiad i'r cylchlythyr

Os hoffech dderbyn copïau o'n cylchlythyrau, cwblhewch y ffurflen gyda'ch manylion isod.