Cyfarfu Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCRTA), a sefydlwyd i gydgysylltu cynllunio a buddsoddi mewn trafnidiaeth yn y rhanbarth, yn ffurfiol am y tro cyntaf i amlinellu’r gweithredoedd sydd eu hangen i gefnogi’r Fargen Ddinesig.
Gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, mae Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, dan gadeiryddiaeth Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Huw David, wedi mynd ati i ddatblygu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Strategol a rhaglenni fydd yn y lle cyntaf yn adolygu ac yn blaenoriaethu cynlluniau drafft presennol yng ngoleuni’r Fargen Ddinesig a’r strategaeth economaidd ehangach ddatblygol yn dilyn y canlyniadau oddi wrth y Comisiwn Twf a Chystadleugarwch.
Mae materion y bydd yr awdurdod yn eu hystyried ac sy’n dylanwadu wrth wneud cynnydd yn cynnwys datblygu strategaeth reilffordd, sy’n cynnwys tocynnu integredig, gweithredu strategaeth a seilwaith bysiau, cynlluniau priffyrdd yn cynnwys strategaeth, gweithredu a chynnal a chadw, rheoli traffig, teithio llesol, cludiant i’r ysgol a gwasanaethau parcio.
Bydd rhai gweithredoedd y bydd yr awdurdod yn eu hysgwyddo yn ystod y broses ddatblygu yn cynnwys egluro rolau a chyfrifoldebau ar gyfer cyflawni agweddau technegol o swyddogaethau trafnidiaeth i greu partneriaeth effeithiol ac i osgoi dyblygu, cefnogi Cynghorau mewn unrhyw gydweithredu yn ymwneud â thrafnidiaeth y maent yn dymuno cymryd rhan ynddo, a chefnogi’r Cyd-Gabinet ag arbenigedd trafnidiaeth, fel y bo gofyn.
Mae’r awdurdod hefyd yn gweithredu o ddifri’ â Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru ynglŷn â chyd-ddylunio cynlluniau Metro De-ddwyrain Cymru.
Rhoddir y cynlluniau arfaethedig a ddatblygir wedyn gerbron Cabinet Arweinwyr y Fargen Ddinesig i’w hystyried a’u cymeradwyo.