Gwnaeth Cabinet Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd heddiw (y 15fed o Fawrth, 2021) nifer o benderfyniadau allweddol i gynnal ffocws a momentwm ar ymyriadau a phrosiectau newydd fydd yn parhau i roi hwb i economi de-ddwyrain Cymru yn sgîl haint Covid-19.
Cytuno ar Gronfa Fuddsoddi newydd gwerth £50 miliwn ar gyfer Adeiladau Strategol
Bydd y Gronfa hon yn cynorthwyo’r gwaith o gyflenwi Cynllun Diwydiannol ac Economaidd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a chyfres blaenoriaethau Covid-19 drwy ddarparu cyllid cyfnod cynnar ar gyfer datblygu safleoedd ac adeiladau newydd sy’n caniatáu i fusnesau newydd a phresennol gynyddu a buddsoddi ar gyfer daioni’r rhanbarth.
Mae’r Gronfa yn ceisio galluogi cael at gyllid ar adeg hanfodol yn adferiad economaidd y rhanbarth ar ôl COVID-19. Yng ngoleuni’r gwaith sylweddol iawn sydd o’n blaen i ymadfer ac i aildyfu’n well, mae’r Gronfa wedi’i chynllunio’n benodol i weithredu fel catalydd ar gyfer prosiectau blaenoriaethol iddynt symud ymlaen a bod yn symbolau gweledol o sectorau a diwydiannau hyfyw fydd yn bodoli fel rhan o ddyfodol hirdymor y rhanbarth. Yn y modd hwn, bydd y Gronfa yn gonglfaen allweddol i ddenu mewnfuddsoddiad, gan gynorthwyo twf brodorol a darparu cyllid i farchnad sydd angen symbyliad, cymorth a hyder ar hyn o bryd.
Bydd prosiectau sy’n allweddol i gyflenwi blaenoriaethau economaidd y rhanbarth i gefnogi arloesi, twf busnes ac adfywio yn cael eu targedu.
Penodwyd y Cynghorwyr Annibynnol Arbenigol CBRE fel rheolwyr y Gronfa.
Disgwylir i’r Gronfa fod yn weithredol erbyn mis Mai, 2021.
Cymeradwyo rhestr fer ar gyfer Gwobrau Cyllid Bwlch Hyfywedd Tai.
Caeodd y Gronfa Bwlch Hyfywedd Cartrefi ar gyfer y Rhanbarth gwerth £35 miliwn (£30 miliwn gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd a £5 miliwn gan Lywodraeth Cymru), a lansiwyd ym mis Medi 2020, ar gyfer ceisiadau ar yr 11eg o Ionawr, 2021.
Targedodd y Gronfa “safleoedd segur” a allai ddangos yn eglur fwlch hyfywedd ariannol sy’n atal cyflenwi tai ond a fyddai, petai arian ar gael, yn cael effaith sylweddol ar gyflenwi tai ledled y rhanbarth. Amlinellwyd meini prawf cyflwyno a gwerthuso eglur o flaen llaw.
Derbyniwyd cyfanswm o 18 o geisiadau – y mae’r cyfan ohonynt wedi bod yn ddarostyngedig i werthuso annibynnol a diwydrwydd dyladwy gan gynghorwyr technegol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, CBRE. Bydd 12 yn awr yn mynd rhagddynt gyda dyraniad wedi’i glustnodi i gynorthwyo cynnydd ar ddau gynllun cyfnod cynharach pellach.
Cam nesaf y broses yn awr fydd llywio drwy faterion cyn-gytundebol a chynnal archwiliadau a chydbwysedd safonol drwy gam terfynol i ddiwydrwydd dyladwy i sicrhau bod pob risg yn cael sylw ac yn cael eu lliniaru. Cyhoeddir rhestr lawn a therfynol o safleoedd ym mis Mehefin, 2021.
Os byddant yn llwyddiannus, rhagamcanir y bydd y cynlluniau sydd ar y rhestr fer yn cyflenwi 2,768 o gartrefi ledled y rhanbarth gan ddarparu 3,360 o swyddi a denu gwerth £530 miliwn o fuddsoddiad preifat yn gydamserol.
Mae’r Rhaglen Metro a Mwy wedi’i hailstrwythuro a’i hymestyn 1 flwyddyn i sicrhau ei bod yn gallu cyflenwi ar gyfer y rhanbarth cyfan.
Mae cyflenwi prosiectau gwreiddiol Metro a Mwy dan arweiniad y 10 Awdurdod Lleol o fewn amserlen 3 blynedd wedi cyd-daro â phandemig COVID-19 ac effeithiau canlyniadol hynny a welir ym meysydd trafnidiaeth gyhoeddus, adeiladu a chontractio, ynghyd â llai o allu cyflenwi, o ystyried y pwysau uwch sydd ar adnoddau awdurdodau lleol. Mae hyn wedi hwyluso cyfnod o fyfyrio pryd y daeth hi’n amlwg bod rhai prosiectau’n fwy “hunangynhwysol” ac yn gyflawnadwy yn y cyfnod byr tra bod eraill yn fwy datblygiadol ac mae’n rhaid eu cyflenwi fel rhan o raglenni ehangach, strategol a chyfnod hir.
Cytuno ar estyniad 1 flwyddyn ac ymagwedd 2 gam
Bydd gan y 6 phrosiect a ganlyn estyniad 1 flwyddyn ar y cyfnod 3 blynedd gwreiddiol ac maent wedi’u hamserlennu i gael eu llwyr gyflenwi erbyn mis Mawrth, 2023.
- Parcio a Theithio Dociau’r Barri – Bro Morgannwg
- Coridor Blaenoriaethau i Fysiau Dwyrain Caerdydd – Caerdydd
- Cyfnewidfa Porth – Rhondda Cynon Taf
- Parcio a Theithio Cyffordd Twnnel Hafren – Sir Fynwy
- Parcio a Theithio Gorsaf Reilffordd Pont-y-pŵl a New Inn – Torfaen
- Parcio a Theithio’r Pîl / Terminws Bysiau Porthcawl / Pont Croesfan Reilffordd Penbrysg (Pencoed) – Pen-y-bont ar Ogwr.
Caiff y 4 prosiect arall, sy’n fentrau cyfnod llawer hwy a mwy o faint, yn ddibynnol ar ymyriadau sydd y tu hwnt i reolaeth neu gylch gwaith y rhaglen Metro a Mwy, hefyd eu hymestyn 12 mis a byddant yn parhau i gael eu datblygu i’r raddfa y gallant ddenu cyllid gan raglenni eraill i alluogi eu cyflenwi. Ar gyfer y cynlluniau hyn, darparir cyllid hyd at fis Mawrth, 2023.
- Coridor Blaenoriaeth i Fysiau Casnewydd – Caerdydd (neu ddewis arall) – Casnewydd
- Integreiddio Rheilffordd / Bysiau Merthyr – Merthyr
- Cyfnewidfa Abertyleri (neu ddewis arall) – Blaenau Gwent
- Cyfnewidfa Caerffili – Caerffili
Mae’r newidiadau hyn yn sicrhau bod y rhaglen Metro a Mwy yn parhau i ddatblygu ledled pob un o’r 10 Awdurdod Lleol ond ar sail sy’n hyrwyddo gwell hyfywedd, ymarferoldeb gwireddu a fforddiadwyedd.
Rhoi cefnogaeth lawn y Cabinet i’r cynnydd sylweddol a wnaed ar strategaeth Cerbydau Allyriadau Isel Iawn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
Cyflenwi cynllun seilwaith tacsis trydan, ac mae i fod wedi’i gwblhau erbyn diwedd mis Mehefin, 2021 – dyfarnwyd y contract i SWARCO i gyflenwi 34 o wefryddion mewn 31 o safleoedd drwy’r Rhanbarth i gyd.
Lansio “Cynllun rhowch gynnig cyn ichi brynu” Tacsis Allyriadau Isel Iawn yn haf 2021 i annog pontio – Caiff archebion eu gwneud ar hyn o bryd am 50 o dacsis Nissan Dynamo i roi’r cyfle i yrwyr / gweithredwyr tacsis roi cynnig cyn prynu am fis i bob gyrrwr. Bydd y cynllun yn weithredol am 3 blynedd.
Gwnaed cynnydd sylweddol mewn nodi safleoedd priodol i ehangu seilwaith gwefru – mae yna 112 o safleoedd wedi’u nodi a’u costio i gyflenwi seilwaith gwefru ar gyfer defnydd y cyhoedd drwy’r rhanbarth i gyd, yn cynnwys lleoliadau megis ar strydoedd, mewn meysydd parcio cyhoeddus a chanolfannau trafnidiaeth.
Gweminar dacsis addysgol wedi’i threfnu ar gyfer y 29ain o Fawrth – i roi’r cyfle i yrwyr / gweithredwyr tacsis ymgysylltu â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd i drafod cyfleoedd a mecanweithiau i gynorthwyo â phontio.
Cytuno ar gronfa ychwanegol o £3 miliwn
Er mwyn sicrhau bod arian cyfatebol yn parhau i fewndrosoli rhagor o fuddsoddi a buddion, cytunwyd ar £3 miliwn o ychwanegiad at y cynllun Metro a Mwy, fydd yn cynorthwyo gwaith i barhau ar Gerbydau Allyriadau Isel ac ymchwil cynnar ynglŷn â rôl hydrogen mewn galluogi symudedd yn y dyfodol.
Dywedodd Andrew Morgan, Arweinydd, Cyngor Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf ac aelod o Fwrdd y Cabinet Rhanbarthol:
“Rydym yn falch iawn o fod yn gallu cyhoeddi cynnydd mor gadarnhaol ar y mentrau hyn, y bydd y cyfan ohonynt yn sicrhau ein bod yn cadw’n haddewid o gyflenwi i’r rhanbarth i gyd ar adeg pan fo ar yr economi rhanbarthol angen hwb buddsoddiad sylweddol mewn seilwaith.”