Mae pandemig yr haint Covid-19 a’r cyfyngiadau symud dilynol wedi taflu economi’r byd oddi ar ei echel, a gyda hynny, llawer o’n cyfrifiadau a’n disgwyliadau blaenorol ynglŷn â pha fuddsoddiadau y byddid eu hangen a pha gyllid fyddai ar gael dros y pump i ddeng mlynedd nesaf.
Yma ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, nid ydym wedi’n heithrio o ganlyniad economaidd y pandemig, ac mae’n rhaid inni wynebu’r rhagolygon o ddirwasgiad difrifol ac o bosibl, hirfaith. Gall adferiad ddod yn gyflym neu fe all gymryd ychydig yn hwy; y naill ffordd neu’r llall, mae arnom angen bod yn barod i helpu’n busnesau a’n cymunedau i fanteisio hyd yr eithaf arno.
Cyn Covid-19, roedd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ymwneud â rhoi hwb a buddsoddiad uniongyrchol i sectorau allweddol, i helpu’r rhanbarth i oresgyn ei anghydraddoldebau gwael a’i berfformiad annigonol o’i gymharu â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig
Nod Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn wastad oedd gwneud y rhanbarth yn fwy cysylltiedig, yn fwy cystadleuol, ac yn gadarnach, a rhoi sylw i’r anghydraddoldebau cymdeithasol a daearyddol ynddo. Wrth i’r rhanbarth ailymddangos o ddirwasgiad i adferiad, mae’r nod hwn wedi dod yn bwysicach nag erioed.
Cronfa fytholwyrdd ar gyfer adeiladau strategol
Yn yr ysbryd hwn y gwnaeth y Cabinet Rhanbarthol yn ddiweddar adolygu’i gynlluniau buddsoddi, a aseswyd ddiwethaf ychydig cyn i’r cyfyngiadau symud ddod i rym ym mis Mawrth. Mewn cyfarfod Teams ar y 18fed o Fai, fe wnaeth y Cabinet ail-gadarnhau rhai o’r penderfyniadau roedd eisoes wedi’u gwneud, ac fe gytunodd i rai eraill, yn y gobaith y byddant yn rhagor o ysgogiad i adferiad.
Yr argymhelliad mwyaf sylweddol yw ar gyfer Cronfa Adeiladau Strategol, o o bosibl hyd at £50 miliwn, a fwriadwyd i gynorthwyo prosiectau datblygu diwydiannol sydd fel arall yn hyfyw lle mae yna dystiolaeth o fethiant yn y farchnad sy’n effeithio ar hyfywedd ariannol. Y gobaith yw y bydd hyn yn helpu i roi hwb i gynlluniau a allai fel arall ei chael hi’n anodd gwneud cynnydd heb y math hwn o gymorth strategol oherwydd na allant gael yr holl gyllid y mae arnynt ei angen yn yr amgylchedd cyfredol.
Bydd yna bwyslais neilltuol ar brosiectau sy’n cynorthwyo arloesi a chreu swyddi a gwneud defnydd o safleoedd tir llwyd i greu lleoedd Gradd A neu gyfwerth, ac fe fydd gan y gronfa hefyd y nod o drosoli buddsoddiad o’r sector preifat.
Fe fydd yn gronfa fytholwyrdd, gyda thaliadau ar ffurf benthyciadau sydd i’w had-dalu’n llawn, fel y gall barhau i ddychwelyd buddsoddiadau a gafwyd i mewn i gynlluniau newydd yn y dyfodol. Mae’r Cabinet Rhanbarthol wedi cytuno i wario £45,000 ar ddatblygu achos busnes amlinellol ar gyfer y gronfa dros yr haf.
Cyfres o gynigion i helpu’r rhanbarth
Cytunodd y Cabinet hefyd ar nifer o gynigion eraill, gan wrthod rhai roedd yn teimlo nad oeddynt yn bodloni amcanion craidd y Brifddinas-Ranbarth. Roedd un cynigiad ar gyfer cymorth hadau ar gyfer corff masnach technoleg ariannol i danategu datblygiad pencadlys yng Nghaerdydd a safleoedd ategol ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chwmbran. Cytunodd y Cabinet y dylai hyn fynd rhagddo i achos amlinellol strategol.
Gwnaeth y Cabinet hefyd alw am gyflwyno achos busnes ar y Gronfa Her Adeiladu Cyfoeth Lleol i gynorthwyo busnesau bach a chanolig a’r economi sylfaenol.
Mae yna gynigiad arall wedi dod gan gwmni sydd wedi ennill ei blwyf sydd eisiau creu cynnyrch Deallusrwydd Artiffisial/data newydd sydd wedi’i seilio ar gynnydd sydd eisoes yn bodoli. Cymerodd y Cabinet Rhanbarthol gyngor Panel Buddsoddi’r Brifddinas-Ranbarth y dylai hyn fynd rhagddo i’r cam nesaf, ar y sail bod gan y cynigwyr enw da a chymwysterau cadarn ac y byddai yna graffu ar unrhyw fuddsoddiad ochr yn ochr â’r rhiant-gwmni.
Daw’r penderfyniadau diweddaraf hyn, y bydd yna fwy o wybodaeth amdanynt yn yr wythnosau i ddod, yn ychwanegol at y rheiny a wnaed ym mis Mawrth, pan gytunodd y Cabinet Rhanbarthol i ariannu Cronfa Buddsoddi Tai gwerth £45 miliwn, ehangu Cynllun Graddedigion Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, cynllunio gwaith a manylebau technegol ar gyfer y Metro Canolog, Parc Gwyddorau Bywyd yng Nghyffordd 32 yr M4, darparu ffibr a chyflwyno 5G fesul cam.
Gyda’i gilydd, mae’r pecyn o fuddsoddiadau a gymeradwywyd yn dod at ei gilydd i greu rhaglen uchelgeisiol o gymorth i arloesedd, cadernid a chysylltedd yn y Brifddinas-Ranbarth; ac fe ddaw ynghyd â chydnabyddiaeth bod yn rhaid i’r rhanbarth, ar adeg o argyfwng, wneud beth bynnag y gall i helpu’i bobl, ei fusnesau a’i gymunedau nid yn unig i oroesi’r argyfwng ond hefyd i ailymddangos yn gryfach ac wedi’i gyfarparu’n well i ffynnu yn y byd newydd.